Gwirfoddoli
Mae ein Tîm Hawliau Tramwy yn cefnogi tîm o wirfoddolwyr rheolaidd a grwpiau gwirfoddol sy'n helpu i wella'r rhwydwaith hawliau tramwy yn eu hardal leol.
Rydym yn darparu offer, deunyddiau, hyfforddiant ac arweiniad i helpu gwirfoddolwyr i weithio'n ddiogel ac yn effeithiol. Mae eu gwaith yn cael ei werthfawrogi'n fawr ac mae'n cynnig cyfleoedd gwych ar gyfer datblygiad personol, cynnwys y gymuned a gweithio mewn tîm.
Beth all gwirfoddolwyr ei wneud?
Gall gwirfoddolwyr gymryd rhan mewn amrywiaeth o ffyrdd:
- arolygu hawliau tramwy mewn plwyf neu ardal, gan nodi'r cyflwr ac unrhyw waith sydd ei angen
- cynnal a chadw camfeydd a gatiau a thocio gwrychoedd
- gosod arwyddion gwybodaeth a gosod arwyddbyst
- gosod pontydd a byrddau cerdded
- torri llystyfiant ar lwybr.
Beth allwch chi ei ddisgwyl gennym ni?
Byddwn yn darparu:
- hyfforddiant cymorth cyntaf, offer a diogelwch safle
- offer llaw ac offer amddiffynnol arall, fel menig, gogls a festiau gwelededd i'w defnyddio wrth wneud gwaith ar hawliau tramwy
- cymorth gyda hyfforddiant, tasgau ymarferol a gwybodaeth am hawliau tramwy
- cyfleoedd i gyfarfod a chymdeithasu â grwpiau gwirfoddol eraill.
Sut mae cymryd rhan?
I gael rhagor o wybodaeth am ffurfio grŵp gwirfoddol, lawrlwythwch ffurflen wirfoddolwyr Hawliau Tramwy.
Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari
Am wybodaeth am ymuno â grŵp sy'n bodoli eisoes yn eich ardal, cysylltwch â ni.