Rhandiroedd
Os ydych chi erioed am roi cynnig ar arddio a bod gennych chi ddiddordeb mewn awyr iach a bwyd ffres, beth am rentu llain rhandir?
Mae gennym ni tua 90 o safleoedd rhandiroedd ledled y Fwrdeistref Sirol a mwy na 2,000 o leiniau ar y gweill, felly, mae digon o gyfle i chi ddechrau. Mae ffederasiynau lleol a chenedlaethol yn cynnig digon o gymorth, gan ddarparu cyngor arbenigol, awgrymiadau i ddechreuwyr a mynediad at hadau, compost a gwrteithiau cost isel.
Rhentu rhandir
Gweinyddir rhandiroedd Bwrdeistref Sirol Caerffili gan:
Ffederasiwn Rhandiroedd Cwm Rhymni (RVAF)
Ffederasiwn Rhandiroedd Dwyrain Caerffili (CEAF)
Swyddog Ardal – Rhandiroedd
Costau rhentu rhandir
Mae lleiniau yn cael eu mesur mewn PERC, hen fesur traddodiadol. Mae PERC yn 25 metr sgwâr neu 30.25 llathen sgwâr. Mae’r rhan fwyaf o leiniau rhwng 125 metr sgwâr (5 Perc) a 250 metr sgwâr (10 Perc).
Mae cost rhentu rhandir yn amrywio a’r pwyllgor sy’n rheoli’r safle sy’n ei bennu.
Manteision rhentu rhandir
- Awyr iach ac ymarfer corff – Mae garddio rhandiroedd yn ddiddordeb gwerth chweil sy'n cynnig ymarfer corff iach, awyr ffres, a chyfe i ymlacio.
- Cynnyrch cartref ffres – Mae llysiau ffres wedi'u tyfu gartref yn fwy blasus ac yn rhatach na'r rhai mewn siopau, heb ychwanegion artiffisial. Cofiwch, mae'r cynnyrch wedi'i dyfu ar randiroedd ar eich cyfer chi yn unig ac ni ddylech chi ei werthu am elw.
- Cynnyrch organig – Mae llawer o bobl yn dewis garddio rhandiroedd er mwyn sicrhau bod eu llysiau'n rhydd o gemegau niweidiol ac yn cael eu cynhyrchu'n foesegol. Trwy dyfu'n organig, rydych chi'n dysgu gweithio gyda natur i reoli plâu a chlefydau, gan arwain at fwyd heb gemegau.
- Cwrdd â phobl a gwneud ffrindiau newydd - Mae rhentu rhandir yn ffordd wych o gwrdd â phobl a gwneud ffrindiau newydd. Mae gan lawer o gymunedau rhandiroedd agwedd gymdeithasol ffyniannus lle gallwch chi gysylltu ag eraill sy'n rhannu eich diddordebau.