Cofrestru i bleidleisio
Mae am ddim, yn gyflym ac yn hawdd cofrestru. Yr unig beth sydd angen arnoch yw eich rhif yswiriant gwladol.
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth i
- Gofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich enw, cyfeiriad neu fanylion eraill ar y gofrestru etholiadol, gan gynnwys gwneud cais am ffurflen gais pleidlais drwy’r post.
Bydd gofyn i chi
Os nad oes mynediad gennych i’r we, ffoniwch ein llinell gymorth gwasanaethau etholiadol ar 01443 864203. Gallwn gymryd eich manylion dros y ffon neu anfon ffurflen gofrestru drwy’r post os oes well gennych.
Cofrestru i bleidleisio os ydych yn y lluoedd arfog
Mae pobl yn y lluoedd arfog, a’u gwyr/gwragedd neu bartneriaid sifil, yn gallu cofrestru i bleidleisio yn y ffordd arferol. Serch hynny, os ydych yn debygol o fod wedi eich lleoli dramor yn y flwyddyn nesaf, mae’n well i gofrestru fel pleidleisiwr/wraig gwasanaeth gan ddefnyddio cyfeiriad DU sefydlog.
Pwy all gofrestru?
Rhaid i chi fod yn 14 oed neu'n hŷn
Rhaid i chi hefyd fod yn un o'r canlynol:
- dinesydd Prydeinig
- dinesydd Gwyddelig neu'r Undeb Ewropeaidd sy'n byw yn y Deyrnas Unedig
- dinesydd o'r Gymanwlad sydd â chaniatâd i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu aros yn y Deyrnas Unedig, neu nad oes angen caniatâd arno
- dinesydd gwlad arall sy'n byw yng Nghymru sydd â chaniatâd i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu aros yn y Deyrnas Unedig, neu nad oes angen caniatâd arno
Pam ddylen i gofrestru?
- Mae’r wybodaeth yn ofynnol yn gyfreithlon.
- Os nad ydych wedi cofrestru, ni allwch bleidleisio mewn etholiadau.
- Efallai byddwch yn ei chael hi’n anodd cael credyd, benthyciadau, cytundebau ffôn, morgais neu gyfrif banc gan fod y gofrestr yn cael ei ddefnyddio gan asiantaethau cyfeirnod credyd.
Pryd fydd angen i mi gofrestru?
Mae angen i chi gofrestru os:
- nad ydych wedi cofrestru yn barod; neu
- os nad ydych yn siŵr os ydych wedi cofrestru (peidiwch â phoeni am gofrestru ddwywaith - byddwn yn gwirio am hynny); neu
- yw eich amgylchiadau wedi newid (er enghraifft, rydych wedi symud cartref yn ddiweddar neu newid eich enw ); neu
- rydym wedi dweud wrthych chi yn ystod ein canfasio blynyddol nad yw eich manylion etholiadol yn cyd-fynd â chofnodion eraill.