Dyletswyddau Adrodd 2021 - 2022

Yn unol â'r dyletswyddau o dan adrannau 7 (3) a 10 (2) o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, dyma adroddiad blynyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar gyfer y flwyddyn 2021-22.

Y camau a gymerwyd i hybu siwrneiau teithio llesol

  • Cwblhau'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol gan ymgynghori ac ymgysylltu'n eang â rhanddeiliaid a'r cyhoedd
  • Cynllun llwybr beicio arbrofol Ymateb i Covid Lewis Street, Ystrad Mynach: wedi’i wneud yn barhaol 
  • Cynllun llwybr beicio arbrofol Ymateb i Covid Bwl Road, Ystrad Mynac

Y camau a gymerwyd i sicrhau llwybrau teithio llesol newydd a chyfleusterau a gwelliannau cysylltiedig

  • Ailwynebu NCN 468 – Abertyswg i Dredegar Newydd
  • Integreiddio croesfannau botymog isel. 87 wedi'u gosod ledled y fwrdeistref sirol.

Costau a ysgwyddir ar gyfer cyfleusterau a llwybrau teithio llesol newydd a gwelliannau i lwybrau teithio llesol presennol a chyfleusterau cysylltiedig a gynhaliwyd yn y flwyddyn ariannol lawn flaenorol

  •  £485k

Yn ogystal â'r uchod, mae'r wybodaeth a ganlyn yn rhoi trosolwg o'r seilwaith sydd wedi cael ei weithredu yn ystod y flwyddyn flaenorol: 

Gwariant dangosol ar gyfer cyfleusterau a llwybrau teithio llesol newydd a gwelliannau i lwybrau teithio llesol presennol a chyfleusterau cysylltiedig sy'n cael eu cyllido neu eu cyllido'n rhannol gan drydydd partïon.

  • Datblygu Cynllun: £202k - Ailwynebu NCN 468 – Abertyswg i Dredegar Newydd: £127k
  • 87 o groesfannau botymog â chwrb isel ledled y fwrdeistref sirol: £156k

Hyd llwybrau newydd (Cerdded, Beicio, Cyd-ddefnyddio)

  • Dim

Hyd y llwybrau wedi eu gwella (Cerdded, Beicio, Cyd-ddefnyddio)

  • 1575 metr o lwybrau cyd-ddefnyddio wedi eu gwella rhwng Abertyswg a Tredegar Newydd

Cyfleusterau teithio llesol newydd a gwell 

  • 87 o groesfannau botymog â chwrb isel ledled y fwrdeistref sirol 

Gwybodaeth ychwanegol (dewisol)

Mae'r pandemig Covid wedi parhau i atal hyrwyddo a chyflenwi oherwydd cyfyngiadau symud ac argaeledd cyfyngedig cyflenwyr. 

Copïau caled ar gael ar gais, yn unol â Chanllawiau statudol y Ddeddf Teithio Llesol (argraffiad 2021)