Dyletswyddau Adrodd 2020 - 2021
Yn unol â'r dyletswyddau o dan adrannau 7 (3) a 10 (2) o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, dyma adroddiad blynyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar gyfer y flwyddyn 2020-21.
Y camau a gymerwyd i hybu siwrneiau teithio llesol
|
- Cyflawni cynlluniau teithio cynaliadwy a ariannwyd mewn ymateb i COVID-19.
|
Y camau a gymerwyd i sicrhau llwybrau teithio llesol newydd a chyfleusterau a gwelliannau cysylltiedig
|
- Cyflawni INMC 24, Ystrad Mynach i Benpedairheol.
- Datblygu Cynllun Map Rhwydwaith Integredig.
|
Costau a ysgwyddir ar gyfer cyfleusterau a llwybrau teithio llesol newydd a gwelliannau i lwybrau teithio llesol presennol a chyfleusterau cysylltiedig a gynhaliwyd yn y flwyddyn ariannol lawn flaenorol
|
|
Yn ogystal â'r uchod, mae'r wybodaeth a ganlyn yn rhoi trosolwg o'r seilwaith sydd wedi cael ei weithredu yn ystod y flwyddyn flaenorol:
Gwariant dangosol ar gyfer cyfleusterau a llwybrau teithio llesol newydd a gwelliannau i lwybrau teithio llesol presennol a chyfleusterau cysylltiedig sy'n cael eu cyllido neu eu cyllido'n rhannol gan drydydd partïon.
|
- Cronfa grant trafnidiaeth Teithio Llesol: Cyfanswm y gwariant £659 wedi'i rannu;
- £281,000 craidd
- £378,000 INMC 24 - Trafnidiaeth gynaliadwy ymateb i COVID-19 wedi'i rannu:
- £192,000 croesfan Maes-y-cwmwr
- £319,000 mesurau cadw pellter cymdeithasol mewn trefi
- £127,000 lonydd beicio ar y ffyrdd (Nelson a Threcelyn)
- £231,000 lôn feicio Lewis Street, Ystrad Mynach
|
Hyd llwybrau newydd (Cerdded, Beicio, Cyd-ddefnyddio)
|
- Lewis Street, Ystrad Mynach, beicio 405m
- Bwl Road, Nelson, beicio 275m - INMC 24 beicio 1.7km
|
Hyd y llwybrau wedi eu gwella (Cerdded, Beicio, Cyd-ddefnyddio)
|
|
Cyfleusterau teithio llesol newydd a gwell
|
|
Gwybodaeth ychwanegol (dewisol)
Mae pandemig COVID-19 wedi atal y gwaith hybu a chyflawni oherwydd cyfyngiadau symud ac argaeledd cyfyngedig cyflenwyr.
Copïau caled ar gael ar gais, yn unol â Chanllawiau statudol y Ddeddf Teithio Llesol (argraffiad 2021)