Cysylltwyr Lles

Mae gan Gyngor Caerffili Gysylltwyr Lles sy'n gweithio gydag oedolion ledled y Fwrdeistref Sirol. Byddan nhw'n ceisio ailgysylltu pobl â'u cymunedau trwy eu helpu nhw i ddod o hyd i weithgareddau a grwpiau addas, cysylltu pobl sydd â diddordebau tebyg ac annog cymryd rhan o fewn eu cymuned. Nod Cysylltwyr Lles yw:

  • Gwella lles cymdeithasol ac emosiynol
  • Meithrin annibyniaeth
  • Lleihau ynysigrwydd ac unigrwydd cymdeithasol ac emosiynol
  • Helpu pobl i deimlo fel rhan o'r gymuned
  • Cydlynu gwasanaethau cymorth priodol i hwyluso canlyniadau cadarnhaol ar gyfer achosion cymhleth
  • Darparu gwybodaeth a chyngor ar grwpiau a gweithgareddau cymunedol addas

Os hoffech wybod mwy cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni