Cartref Preswyl Tŷ Parc, Bargod

Adroddiad Monitro Contractau

  • Enw/Cyfeiriad y darparwr: Cartref Preswyl Tŷ Parc, Bargod
  • Dyddiad/Amser yr ymweliad: Dydd Gwener 24 Tachwedd 2023 (Lle rhoddwyd rhybudd)
  • Swyddog(ion) Ymweld: Caroline Roberts, Swyddog Monitro Contractau,
  • Presennol: Jason Forster, Unigolyn Cyfrifol/Rheolwr Cofrestredig

Cefndir

Cartref preswyl yw Tŷ Parc sy'n cynnig cymorth i 10 unigolyn, 17 oed neu'n hŷn gydag anableddau dysgu, gan gynnwys y rhai a all fod ar y sbectrwm awtistig.

Ar adeg yr ymweliad, Mr Jason Forster oedd yr Unigolyn Cyfrifol a'r Rheolwr Cofrestredig. Ers 27 Tachwedd, mae newidiadau rheoli mewnol wedi digwydd, gyda swydd y Rheolwr Cofrestredig yn cael ei dal gan Ms Paula Campbell ac mae Mr Neil Edwards wrthi'n mynd trwy'r broses gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) i ddod yn unigolyn cyfrifol.

Fodd bynnag, ar adeg yr ymweliad, dim ond Mr Forster oedd â chyfrifoldeb am y gwasanaeth.

Mae Tŷ Parc wedi'i leoli yn nhref Bargod, yn agos at amwynderau niferus a nifer o gysylltiadau teithio. Mae'r cartref wedi'i gofrestru ag AGC a chafodd ei arolygu ym mis Chwefror 2023.

Roedd gan yr eiddo deledu cylch cyfyng y tu allan a'r tu mewn i'r eiddo, gyda chaniatâd y preswylwyr/cynrychiolwyr.

Nid yw'r Gyfadran Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cael unrhyw gwynion nac atgyfeiriadau diogelu mewn perthynas â Thŷ Parc yn ystod y 12 mis diwethaf. 

Mae'r ‘Cynnig Rhagweithiol – Mwy Na Geiriau’ (Deddf yr Iaith Gymraeg ddiwygiedig) yn ei gwneud hi'n ofynnol i ddarparwyr gofal cymdeithasol gyfathrebu yn Gymraeg heb i'r person ofyn am hyn. Ar adeg yr ymweliad, nid oedd unrhyw breswylwyr yn sgwrsio drwy gyfrwng y Gymraeg. Fodd bynnag, dywedodd Mr Forster fod cyfathrebu wedi'i drafod gyda'r Gweithiwr Cymdeithasol a'r unigolyn cyn symud i mewn. Ar hyn o bryd, mae gan y cartref un uwch-weithiwr sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg, os bydd preswylydd yn dewis gwneud hynny.

Yn ystod yr ymweliad â'r eiddo, cyfarfu'r Swyddog Monitro â'r tîm o staff a'r holl breswylwyr.

Yn dibynnu ar ganfyddiadau'r adroddiad, gall y darparwr gael camau unioni a datblygiadol i'w cwblhau. Camau unioni yw'r rheini y mae'n rhaid eu cwblhau yn unol â Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru), a chamau datblygiadol yw argymhellion arfer da. 

Canfyddiadau Blaenorol 2022:

Unioni

Dylai unrhyw fylchau mewn cyflogaeth gael eu hegluro a'u cofnodi'n llawn. (Rheoliad 35 y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (y Ddeddf) CYFLAWNWYD

Dylai cofnodion Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyfredol gael eu cynnal a chadw. (Rheoliad 35 y Ddeddf) – Mae hyn wedi'i unioni gan yr unigolyn cofrestredig ers hynny ac mae wedi cael tystysgrif. CYFLAWNWYD

Dylid cael 2 eirda cyflogaeth ar wahân (Rheoliad 35 y Ddeddf) – trafodwyd yr amgylchiadau o gwmpas y 2 eirda yn llawn gyda'r unigolyn cofrestredig. CYFLAWNWYD

Dylid cynnwys tystiolaeth i ddangos pryd y caiff adolygiadau eu cynnal, bod y swyddog adolygu wedi cynnal trafodaethau gyda'r unigolyn a/neu gynrychiolwyr, wedi cymryd adborth o'r cofnodion dyddiol a hefyd, cynhaliwyd sgyrsiau â'r gweithiwr cymdeithasol dynodedig. (Rheoliad 16 y Ddeddf) HEB EI GYFLAWNI

Camau datblygiadol

Dylai'r ffeiliau ddangos cydsyniad i gysylltu â'r teulu mewn achos o argyfwng. CYFLAWNWYD

Dylai'r staff gynnal sgyrsiau mewn perthynas â statws Na cheisier dadebru cardio-anadlol (DNACPR). Dylai'r sgyrsiau hynny gael eu dogfennu hyd yn oed os bydd y preswylydd/cynrychiolwyr yn gwrthod cymryd rhan yn y sgwrs. CYFLAWNWYD

Dylai'r staff ddarllen trwy ddogfennaeth ac osgoi copïo a gludo; felly, osgoi'r risg o drosglwyddo gwybodaeth gyfrinachol i ddogfennaeth preswylydd arall. CYFLAWNWYD

Dylai pob ffeil gynnwys dogfen Unigolyn Coll  – Ers ymweld, mae'r unigolyn cyfrifol wedi rhoi hyn ar waith a bydd hon yn cael ei gweld yn ystod ymweliadau monitro i'r dyfodol. CYFLAWNWYD

Canfyddiadau

Dogfennaeth

Ar adeg yr ymweliad, roedd saith preswylydd, gydag unigolyn newydd yn gobeithio symud i mewn yr wythnos ar ôl yr ymweliad monitro.

Edrychwyd ar ddwy ffeil yn ymwneud ag unigolion a oedd yn cael eu cefnogi gan Awdurdod Lleol Caerffili, a chawsant eu dilysu fel lleoliadau o Gaerffili.

Gwelwyd bod yr holl ddogfennaeth yn cael ei storio'n ddiogel yn y swyddfa ac mewn cabinet y gellir ei gloi.

Roedd yn gadarnhaol nodi bod briff A4 o'r unigolion ar ffeil; gan ddarparu hanes cryno o'r unigolyn i'r darllenydd felly. Mae'n rhoi gwybodaeth yn ymwneud â'u hoff/cas bethau, teulu, cyflogaeth, iechyd meddwl, trefn y dydd ac ati. Byddai unrhyw wybodaeth o'r fath yn helpu unrhyw gyflogai newydd.

Roedd gan y ddwy ffeil asesiad cyn derbyn, gydag un unigolyn a oedd yn arfer byw dan gontract lleoliad brys bellach yn breswylydd parhaol yng nghartref Tŷ Parc.

Roedd y ddwy ffeil yn cynnwys Cynllun Gofal Gwasanaethau Cymdeithasol Caerffili ac roedd yr holl wybodaeth briodol wedi'i throsglwyddo i Gynlluniau Personol Tŷ Parc. Ysgrifennwyd y ddau gynllun yn y person cyntaf, ac roedd y ddau'n cynnwys llofnodion yr unigolyn neu gynrychiolydd o'r teulu.

Roedd y Cynlluniau Personol yn fanwl ac yn amlinellu meysydd fel cyfathrebu, gofal personol, gofal y geg, cyflyrau meddygol, gorffwys/cwsg, gweithgareddau ac ati. Mae'r cynlluniau wedi'u gosod mewn adrannau: Fy Marn I, Yr Anghenion a Nodwyd i Mi, Sut Byddwch yn Diwallu fy Anghenion a Nodau a Chanlyniadau y Cytunwyd arnynt, h.y. dysgu sgiliau byw yn ddyddiol h.y. coginio, golchi dillad, cadw'n heini, cymryd eu meddyginiaeth eu hunain, bod yn annibynnol wrth fynd allan i'r gymuned.

Gwelwyd Asesiadau Risg Priodol, h.y., cam-drin ariannol, iechyd meddwl, ymddygiad, gwendid personol ac ati. Rhoddir asesiadau o'r fath ar waith er mwyn helpu'r staff a'r preswylydd nad oes ganddo ddealltwriaeth o berygl o bosibl; felly, mae angen cymorth priodol. Sylwyd bod Cynlluniau Personol yn cael eu hadolygu bob 3 mis neu'n gynt os oedd unrhyw newidiadau'n cael eu nodi.

Canfuwyd bod cofnodion dyddiol yn fanwl, gan gynghori'r darllenydd o ddymuniadau a theimladau, iechyd a llesiant, ymddygiad, annibyniaeth, sgiliau byw, gweithgareddau a chyflawniadau'r unigolion.

Roedd cofnodion yn dangos bod staff Tŷ Parc yn gwneud cyswllt priodol ag asiantaethau allanol er mwyn cefnogi'r preswylwyr, h.y., Seiciatrydd Ymgynghorol, Cyswllt â'r adran Gastrosgopi, Cardioleg, therapi cerddoriaeth, awdioleg ac ati.

Gwelwyd bod adolygiadau'n cael eu cynnal bob 3 mis. Yn unol â datblygiad Cynlluniau Personol, dylid cynnwys tystiolaeth i ddangos bod y swyddog adolygu wedi cynnal trafodaethau â'r unigolyn / cynrychiolwyr, ac wedi cymryd adborth o'r cofnodion teuluol. Trafodwyd y gofyniad hwn gyda Mr Forster i'w roi ar waith i'r dyfodol a dangos tystiolaeth briodol.

Erbyn hyn, cofnodir a oes gan unigolyn statws DNACPR.

Roedd Cynlluniau Gadael mewn Argyfwng Personol yn cael eu cadw ar y ddwy ffeil.

Mae ceisiadau Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid wedi'u cyflwyno mewn modd amserol i'r rhai sy'n gofyn amdanynt.

Gweithgareddau

Anogir yr unigolion i ymgymryd â gweithgareddau y maent yn eu mwynhau.  Wrth ddarllen y cofnodion dyddiol, roedd hi'n gadarnhaol darllen y gweithgareddau y mae'r unigolion yn eu cyflawni'n ddyddiol. Gall y mwyafrif o'r unigolion gyfleu eu dymuniadau a'u teimladau ac felly, mae'r staff yn ceisio cyflawni'r gweithgareddau y mae'r preswylwyr yn dymuno eu cyflawni.

Cafodd enwau'r cynllunwyr gweithgareddau eu nodi ar gefn drysau'r preswylwyr.

Mae un unigolyn yn parhau i fynd i'r ysgol, gyda'r bwriad o fynd i'r coleg yn 2024. Mae un arall yn mwynhau canu, dawnsio llinell a grŵp drama. Mae ymweliadau â Neuadd yr Eglwys leol i chwarae bingo a chelf a chrefft hefyd yn boblogaidd ac mae'r staff yn dweud bod y preswylwyr hefyd yn dod i adnabod mwy o bobl yn y gymuned.

Caiff lluniau eu harddangos lle caiff preswylwyr eu gweld yn mwynhau gweithgareddau amrywiol.

Dywedodd Mr Forster fod pryd Nadoligaidd wedi'i drefnu i bawb ei fwynhau ym mis Rhagfyr.

Mae gan y cartref ei gerbydau ei hun er mwyn i'r preswylwyr fynd ar deithiau allan yn y dydd neu i ymweld ag amwynderau lleol.

Iechyd a Diogelwch

Ni chafodd y llyfr damweiniau ei weld yn ystod yr ymweliad hwn gan fod y llyfr wedi cael ei symud oddi ar y safle. Fodd bynnag, dywedodd Mr Forster wrth y swyddog ymweld na fu unrhyw ddamweiniau ers cryn dipyn o amser. Bydd hwn yn cael ei archwilio eto yn ystod yr ymweliad monitro nesaf.

Caiff ymarferion tân eu cynnal a chofnodion priodol eu cadw.

Cynhaliwyd Asesiad Risg Tân ym mis Ionawr 2023 gan Phoenix Safety. Ni wnaed unrhyw argymhellion.

Cymhorthion a Chyfarpar Symudedd

Mae un unigolyn sy'n byw yn y cartref yn parhau i ddefnyddio cadair olwyn, teclyn codi a slingiau. Roedd y rhain yn cael eu gwasanaethu'n rheolaidd, ac mae gan bob aelod o'r staff gyfrifoldeb i sicrhau bod yr holl gyfarpar yn gweithio'n iawn ac os nad yw'n gweithio'n iawn, rhoi gwybod am unrhyw broblemau ar frys at ddibenion gwasanaethu.

Meddyginiaeth

Sylwyd bod meddyginiaeth yn cael ei storio'n gywir mewn cabinet y gellir ei gloi a chaiff unrhyw gyffuriau a reolir eu cloi ddwywaith. 

Caiff archwiliadau meddyginiaeth eu cynnal bob 3 mis. Dywedodd Mr Forster y caiff llofnodion sengl eu defnyddio ar gyfer meddyginiaeth bob dydd; fodd bynnag, mae angen dau lofnod gan staff wrth roi cyffuriau a reolir.

Ar adeg yr ymweliad, nid oedd yr un unigolyn yn derbyn meddyginiaeth gudd.

Rheoli arian preswylwyr

Ers yr ymweliad monitro diwethaf, mae'r cartref bellach yn gweithredu gyda dau lofnod mewn perthynas ag arian sy'n dod i mewn ac yn mynd allan o'r cartref. Cafodd y cofnodion a'r derbynebau eu gwirio gan y swyddog ymweld.

Amgylchedd y Cartref

Mae'r cartref yn fawr ac yn groesawgar.  Mae'n cynnwys cegin o faint da, sydd wedi'i lleoli ychydig y tu allan i'r ardal fwyta/y lolfa.

Mae ardal y lolfa yn lle agored, atyniadol sy'n cynnwys dwy soffa a theledu mawr sydd wedi'i osod ar y wal. Tuag at ddiwedd yr ymweliad, yn hwyr yn y prynhawn, roedd hi'n gadarnhaol nodi bod y preswylwyr yn eistedd gydag aelod o'r staff, yn mwynhau ffilm Nadoligaidd.

Mae gan bob preswylydd ei ystafell wely ensuite ei hun ac mae'r ystafelloedd wedi'u haddurno yn unol â chwaeth bersonol yr unigolyn. Mae'r ystafelloedd yn cynnwys eiddo personol megis ffotograffau teuluol, teganau meddal a DVDs; gan ddarparu ardal bersonol i'r unigolion ymlacio ynddi. Mae pob ystafell o faint da iawn, gan roi llawer o le i ymlacio.

Mae ystafell ymlacio arall i fyny'r grisiau, y mae teuluoedd yn tueddu i gwrdd â'u perthnasau ynddynt. Mae'r ystafell hon yn cynnig balconi, sy'n rhoi golygfa ddymunol o'r dyffryn o amgylch y cartref.

Mae gardd wrth ochr yr adeilad, lle gall y preswylwyr fwynhau gweithgareddau awyr agored h.y., barbeciws.

Dywedwyd wrth y swyddog ymweld nad oedd unrhyw breswylydd yn smygu; fodd bynnag, dim ond yn yr awyr agored y caniateir i'r staff smygu.

Maeth

Mae gan y preswylwyr fwydlen wythnosol a gofynnir iddynt bob dydd beth hoffent i'w fwyta. Rhoddir dewisiadau i'r preswylwyr a darperir bwyd ar sail eu hoff bethau a'u cas bethau, gan roi ystyriaeth i alergeddau.

Er mwyn sicrhau bod y preswylwyr yn bwyta diet iach a chytbwys, mae'r cartref yn cyfyngu ar brydau parod ac yn cynnig digon o ffrwythau a llysiau.

Mae'r unigolion yn cael dewis pryd yr hoffent fwyta. Os bydd unigolion gartref, maent yn tueddu i fwynhau eistedd gyda'i gilydd yn sgwrsio am eu diwrnod. Roedd yn gadarnhaol nodi y bydd y staff hefyd yn eistedd gyda'r preswylwyr ac yn bwyta ac yn cael sgyrsiau cyffredinol gyda nhw.

Caiff y siop fwyd ei goruchwylio gan y cogydd a Rheolwr y Cartref. Fodd bynnag, os bydd angen eitemau ychwanegol, h.y. pethau da, eitemau personol, cânt eu prynu pan fydd yr unigolion allan yn y gymuned.

Os sylwir bod anghenion unigolyn wedi newid mewn perthynas â'i ddiet, dylid gofyn am gyngor a chymorth priodol ar feddyginiaeth.

Sicrhau Ansawdd

Mae pob polisi a gweithdrefn yn gyfredol a chaiff pob un ei adolygu'n flynyddol, ac yn fwy buan os oes unrhyw newidiadau.

Dywedodd Mr Forster fod y busnes yn parhau i ddefnyddio gwasanaethau ymgynghorwyr allanol sy'n ymweld â'r gwasanaeth yn unol â Rheoliad 73, er mwyn rhoi adroddiad monitro ansawdd annibynnol. Fodd bynnag, mae'r Unigolyn Cyfrifol/Rheolwr Cofrestredig yn gweithio o'r gwasanaeth rhwng dydd Llun a dydd Gwener ac felly, mae ar gael i roi un rhyw gymorth a all fod yn ofynnol.

Edrychodd y Swyddog Monitro ar yr Adroddiad Ansawdd diweddaraf, dyddiedig Medi 2023, a gynhaliwyd gan Consulting Care Ltd. Mae'r adroddiad yn cwmpasu'r amgylchedd, arweinyddiaeth a rheolaeth, staffio, Cynlluniau Gofal a chofnodi, Asesiadau Risg, adborth y preswylwyr ac adborth y staff. Caiff argymhellion eu cofnodi a'u trafod â Mr Forster.

Staffio

Ar adeg yr ymweliad, roedd y cartref yn gweithredu 2 shifft o 12 awr a 2 shifft o 8 awr bob dydd, gan ddarparu 40 awr o gymorth. Fodd bynnag, mae hyn wedi cynyddu'n ddiweddar i 4 shifft 12 awr bob dydd; sy'n darparu 48 awr o gymorth yn ystod y dydd felly.

Arsylwodd y Swyddog Monitro'r matrics hyfforddiant a nodwyd bod y staff wedi dilyn hyfforddiant gorfodol h.y., Diogelu, Meddyginiaeth, Iechyd a Diogelwch, Hylendid Bwyd, Rheoli Heintiau, Symud a Chodi a Chario, Cymorth Cyntaf. Roedd yn gadarnhaol nodi bod hyfforddiant ychwanegol wedi'i ddilyn i ddiwallu anghenion yr unigolion sy'n cael eu cefnogi yn Nhŷ Parc, h.y. anawsterau cyfathrebu, ymwybyddiaeth o ddementia, ymwybyddiaeth o awtistiaeth, cymorth ymddygiad cadarnhaol, sepsis, diogelwch cledrau gwely i enwi dim ond rhai.

Edrychwyd ar y matrics Goruchwylio/Arfarnu ac roedd hi'n amlwg y caiff sesiwn oruchwylio ei chynnal bob 2 – 3 mis.  Gwelwyd hefyd fod arfarniadau wedi'u cynnal a bod disgwyl i'r rhai nesaf gael eu cynnal yn 2024.

Mae'r templed goruchwylio yn galluogi'r ddau barti (y goruchwyliwr a'r sawl sy'n cael ei oruchwylio) i drafod materion megis amcanion, cryfderau, meysydd i'w datblygu, hyfforddiant, unrhyw bryderon ac ati. 

Wrth edrych ar ddwy ffeil staff, nodwyd bod pob ffeil yn cynnwys ffurflen gais fanwl, cofnod cyfweld, dau eirda, disgrifiad swydd, contract cyflogaeth wedi'i lofnodi, tystysgrif geni, llun o'r aelod o'r staff a gwiriad cyfredol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae un aelod o'r staff yn y broses o gyflawni ei chymhwyster lefel 2 ond roedd yr ail aelod o'r staff eisoes yn gymwys.

Cwestiynau i'r Staff

Yn ystod yr ymweliad, cafodd y Swyddog Monitro y cyfle i siarad ag Uwch-ofalwr ac i ofyn rhai cwestiynau am y ffordd y caiff y cartref ei redeg ac a oedd ganddo unrhyw bryderon. 

Roedd yn amlwg bod yr aelod o'r staff yn adnabod y preswylwyr i gyd yn dda a sylwyd ei fod yn rhyngweithio'n gadarnhaol ag unigolion.

Dewisodd y Swyddog Monitro breswylydd ar hap a gofynnodd i'r aelod o'r staff rannu rhywfaint o wybodaeth am y preswylydd hwnnw. Roedd yn gadarnhaol nodi bod gan yr uwch aelod o'r staff gryn ddealltwriaeth o'r unigolyn ac roedd yn gallu rhannu ei hoff bethau/cas bethau a pha gymorth a gynigir i'r unigolyn hwnnw, y sefyllfa deuluol a sut y gall ymddygiad yr unigolyn newid a'r sbardun posibl.

Mae gan rai unigolion yn y cartref anawsterau cyfathrebu a dywedodd yr aelod o'r staff ei fod yn cymryd amser i rai unigolion brosesu a deall gwybodaeth neu'r hyn y gofynnir ohonynt. Felly, mae angen amynedd. Cwblhawyd hyfforddiant cyfathrebu hefyd.

Roedd yr aelod o'r staff yn gallu cynghori ble y mae dogfennaeth wedi'i lleoli a ble y caiff gwybodaeth ar-lein ei storio. Mae uwch-ofalwyr yn goruchwylio'r gwaith o drosglwyddo ar ddiwedd/dechrau pob shifft.

Pan ofynnwyd a ymgynghorir â'r staff ac a roddir gwybod iddynt am y ffordd y caiff y cartref ei redeg, dywedodd yr aelod o'r staff fod Mr Forster “yn cyfathrebu i raddau helaeth”.

Dywedodd yr uwch aelod o'r staff fod y preswylwyr yn parhau i fynd allan bob dydd a'u bod yn adnabyddus yn y gymuned.

Gall pob aelod o'r staff ddynodi ei anghenion hyfforddiant ei hun.

Dywedodd yr aelod o'r staff y byddai'n herio cydweithiwr os oedd yn teimlo bod ei ymarfer yn wael ac yna'n rhoi gwybod i Reolwr y Cartref.

Wrth gloi'r drafodaeth, dywedodd yr aelod o'r staff ei fod yn poeni am y lefelau staffio, yn enwedig gyda'r nos gan mai dyma pryd y mae un unigolyn yn mynd yn aflonydd. Siaradodd y swyddog ymweld â dau aelod arall o'r staff hefyd a nododd y un pryder.

Dywedodd y tri aelod o'r staff a wnaeth gyfarfod â'r Swyddog Monitro ar ymweliad y byddent yn gwerthfawrogi cael staff ychwanegol. Trafodwyd hyn gyda Mr Forster ac yna gyda Mr Edwards. Ers hynny, rhoddwyd gwybod i'r swyddog ymweld y bydd staff ychwanegol ar gael i gefnogi'r preswylwyr.

Cwestiynau i'r Preswylwyr

Yn ystod yr ymweliadau, treuliodd y Swyddog Monitro rywfaint o amser yn siarad â'r preswylwyr.

Cynhaliwyd sgyrsiau cyffredinol ag unigolion am eu swyddi, hobïau a byw yn y cartref. Rhoddodd y ddau unigolyn gwrywaidd wybod eu bod yn hapus yn byw yng nghartref Tŷ Parc. Mae gan un unigolyn swydd ran-amser mewn siop ddodrefn leol ac mae'n mwynhau canu gyda'i gôr. Dywedodd y bydd yn perfformio yn y cartref dros gyfnod y Nadolig. Mae hefyd yn mwynhau mynd allan i'r gymuned, ac mae'n gwneud hynny'n rheolaidd.

Mae unigolyn arall yn mwynhau dawnsio llinell ac mae'n mynd i ddosbarth lleol. Yn ystod yr ymweliad, dangosodd rhai o'i symudiadau dawnsio i'r Swyddog Monitro ar ymweliad. Mae'n mwynhau gwylio ei DVDs ac mae hefyd yn mwynhau mynd allan i'r gymuned.

Mae'r ddau unigolyn yn dangos cydberthynas dda â'r holl drigolion, staff a Rheolwr y Cartref.

Dywedodd un preswylydd benywaidd ei bod yn mwynhau diwrnodau pyjamas ar y penwythnos. Dywedodd yr aelodau o staff eu bod yn ceisio annog yr unigolyn i fynd allan i'r gymuned; fodd bynnag, mae'n well ganddi ymlacio ar y penwythnos. Fodd bynnag, yn ystod yr wythnos, mae'r unigolyn yn mynd i'r ysgol ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau yn y gymuned fel nofio, ymweld â'i theulu ac ati.

Sylwyd bod pob unigolyn wedi gwisgo'n briodol ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn a bod y tywydd a phawb yn edrych yn iach ac yn hapus.

Cyffredinol

Gwelwyd chwerthin a chyfathrebu rhwng y staff a'r preswylwyr, a oedd yn dangos awyrgylch ymlaciol. 

Sylwyd bod y staff yn gwybod sut y byddai'r preswylwyr yn ymateb i sefyllfaoedd gwahanol a dangoswyd hyn pan gynigiodd un aelod o'r staff i gefnogi un unigolyn, ac felly, yn darparu ‘wyneb gwahanol’ i'r preswylydd ymateb yn gadarnhaol iddi.

Gwelwyd bod prif ardaloedd y cartref yn lân ac yn groesawgar ac wrth gael gwahoddiad i un o'r ystafelloedd gwely, roedd yn amlwg bod y preswylwyr yn addurno ac yn llenwi eu hystafelloedd yn ôl eu chwaeth bersonol eu hunain.

Ar adeg yr ymweliad, ni welwyd unrhyw beryglon ac nid oedd unrhyw arogleuon drwg.

Camau Unioni a Datblygiadol

Unioni

Dylid cynnwys tystiolaeth i ddangos pryd y caiff adolygiadau eu cynnal, bod y swyddog adolygu wedi cynnal trafodaethau gyda'r unigolyn a/neu gynrychiolwyr, wedi cymryd adborth o'r cofnodion dyddiol a hefyd, cynhaliwyd sgyrsiau â'r gweithiwr cymdeithasol dynodedig. Amserlen (Rheoliad 16 y Ddeddf): Ar unwaith ac yn barhaus

Camau datblygiadol

Ar gyfer polisïau a gweithdrefnau sy'n cynnwys manylion cyswllt Tîm Cwynion a Gwybodaeth yr Awdurdod Lleol, dylid eu diwygio i adlewyrchu'r newid cyfeiriad.

Ystyried cynnwys cyfeiriad e-bost comisiynu'r Awdurdod Lleol yn y polisïau a'r gweithdrefnau priodol.

Cynhaliwyd rhai o'r camau datblygiadol uchod ym mhresenoldeb y Swyddog Monitro ar ddiwedd yr ymweliad ac ar ôl trafod â Mr Forster.

Casgliad

Sylwyd bod yr awyrgylch yn y cartref yn gynnes a chroesawgar, gyda digon o wenu a chwerthin drwy gydol y dydd. Cafwyd adborth cadarnhaol gan y preswylwyr a'r staff a gyflogir yn y cartref.

Sylwyd ar ryngweithio da â'r preswylwyr, gyda'r staff yn dangos gwybodaeth am yr unigolion sy'n preswylio yn y cartref.

Bydd y drefn fonitro arferol yn parhau yng nghartref Tŷ Parc a hoffai'r Swyddog Monitro ddiolch i bawb a gymerodd ran am eu hamser, y wybodaeth a rannwyd a'r croeso yn ystod yr ymweliad.

  • Awdur: Caroline Roberts
  • Teitl: Swyddog Monitro contractau
  • Dyddiad: 4 Rhagfyr 2023