Cartref Preswyl Luk Ros 

Adroddiad Monitro Contract

  • Enw'r Darparwr: My Choice Healthcare      
  • Enw'r Gwasanaeth: Cartref Preswyl Luk Ros (Anableddau Dysgu)
  • Dyddiad/Amser yr Ymweliad: Dydd Iau 12 Hydref a dydd Mercher 18 Hydref
  • Swyddog Ymweld: Ceri Williams, Swyddog Monitro Contractau
  • Yn bresennol: Nicola Mullins (Rheolwr Gweithrediadau

Mae Luk Ros yn gartref preswyl ar gyfer unigolion ag anableddau dysgu. Mae'n eiddo i My Choice Healthcare, sy'n ddarparwr cofrestredig ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, ac mae’n cael ei weithredu ganddo. Mae'r darparwr hefyd yn berchen ar ddau gartref preswyl arall yn y Fwrdeistref Sirol.

Byngalo pedair ystafell wely yw Luk Ros, mewn ardal breswyl dawel ym Mhengam. Ar adeg yr ymweliad, roedd tri phreswylydd: dau wedi'u hariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, un wedi'i hariannu gan awdurdod lleol cyfagos ac un lle gwag.

Yn ystod yr ymweliad, roedd y Swyddog Monitro yn gallu cyfarfod â phreswylwyr, rhai aelodau o staff a'r Rheolwr Gweithrediadau. Archwiliwyd gwaith papur hefyd yn ystod yr ymweliad, a gwelwyd pob rhan o'r cartref.

Yn dibynnu ar y canfyddiadau yn yr adroddiad, bydd camau unioni a datblygiadol yn cael eu rhoi i'r darparwr i'w cwblhau. Camau unioni yw’r rhai y mae'n rhaid eu cwblhau (yn unol â deddfwriaeth), ac argymhellion arfer da yw camau datblygiadol.

Argymhellion Blaenorol

Cynlluniau personol i gael eu diweddaru’n llawn i adlewyrchu’r wybodaeth ddiweddaraf a chywir am anghenion gofal a chymorth presennol y preswylwyr a sut mae’r gofal am gael ei ddarparu. (Rheoliad 15, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016).

Wedi'i gwblhau: Roedd cynlluniau personol yn gywir ac wedi'u hadolygu'n llawn.

Asesiadau risg i'w diweddaru'n llawn i adlewyrchu anghenion gofal a chymorth presennol preswylwyr a'r camau i'w cymryd i liniaru risgiau a nodwyd. (Rheoliad 15, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016).

Wedi'i gwblhau: Roedd asesiadau risg wedi'u diweddaru a'u hadolygu'n llawn.

Hyfforddiant nad yw'n orfodol yn ymwneud ag anghenion gofal penodol preswylwyr i'w ychwanegu at y matrics hyfforddi. Wedi'i gwblhau: Mae hyfforddiant nad yw'n orfodol wedi'i ychwanegu at y matrics hyfforddi.

Gwiriadau arferol o gymhorthion ac offer symudedd i'w dogfennu. Heb ei gwblhau: Nid oedd tystiolaeth ddogfennol ar gael bod gwiriadau rheolaidd yn cael eu cynnal ar gymhorthion ac offer symudedd.

Dogfennaeth a ddefnyddir i adolygu cynlluniau personol ac asesiadau risg i'w diweddaru i ddangos bod adolygiadau'n cael eu cynnal mewn modd ystyrlon ac amserol. Wedi'i gwblhau: Mae'r dogfennau adolygu cynlluniau personol wedi'u hadolygu ac maen nhw'n glir.

Cynllunio Gwasanaethau

Edrychwyd ar gynlluniau personol ar gyfer dau o'r preswylwyr sy'n byw yn y cartref.Roedd y ffeiliau wedi'u trefnu'n dda ac roedd yn hawdd dod o hyd i wybodaeth. Mae fformat y dogfennau cynllunio gofal wedi'i ddiweddaru a'i wella. Roedd y ffeiliau'n cynnwys gwybodaeth dda am unigolion sy'n byw yn y cartref gan gynnwys cipiau ar yrfaoedd yr unigolion a'u hanes iechyd/bywyd.

Roedd cynlluniau personol yn fanwl ac yn adlewyrchu anghenion gofal a chymorth y preswylwyr. Roedd y cynlluniau'n glir ynghylch y cymorth roedd ei angen ar breswylwyr a'r hyn y gallen nhw ei gyflawni'n annibynnol.Roedd y cynlluniau hefyd yn cynnwys manylion am hoffterau/cas bethau'r preswylwyr a threfnau arferol ac yn rhoi cyfarwyddiadau clir i staff am sut i gynnig cymorth mewn modd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Roedd rhai meysydd cymorth wedi’u nodi ar gynlluniau gofal a chymorth awdurdodau lleol nad oedden nhw wedi’u cynnwys yn y cynlluniau personol dilynol ar gyfer unigolion.Trafodwyd hyn gyda'r Rheolwr Gweithrediadau yn ystod yr ymweliad a bydd yn cael ei unioni.

Roedd dogfennau asesu risg hefyd wedi'u diweddaru.Roedd asesiadau risg ar waith yn ymwneud ag unrhyw risgiau a nodwyd ynglŷn â gofal a chymorth unigolion.Roedden nhw'n glir o ran risg ac yn cynnwys camau gweithredu ar gyfer staff er mwyn lleihau risg.

Roedd yr holl gynlluniau personol ac asesiadau risg yn cynnwys taflenni darllen a llofnodi i staff ddangos eu bod nhw wedi darllen a deall y cynlluniau i gynorthwyo preswylwyr.

Cynhelir adolygiadau o gynlluniau personol o fewn yr amserlenni angenrheidiol. Roedd dogfennau adolygu hefyd yn cynnwys sylwadau ynghylch a oedd y cynllun personol yn dal yn berthnasol neu a oedd wedi'i ddiwygio o ganlyniad i'r adolygiad.

Roedd tystiolaeth ar gael mewn ffeiliau bod atgyfeiriadau'n cael eu gwneud i asiantaethau allanol priodol, yn ôl yr angen, ac roedd cofnodion da o gyfathrebu â gweithwyr iechyd proffesiynol yn ogystal â chanlyniadau unrhyw asesiadau iechyd neu apwyntiadau oedd preswylwyr wedi'u mynychu.  Roedd taflenni llofnodi staff yn cyd-fynd â'r dogfennau cyfathrebu hyn er mwyn sicrhau bod yr holl staff yn ymwybodol o unrhyw ganlyniadau o apwyntiadau gofal iechyd.

Roedd cofnodion dyddiol yn fanwl ac yn cynnwys gwybodaeth am ofal personol a thasgau cymorth. Nid oedd unrhyw dystiolaeth mewn cofnodion dyddiol o weithgareddau a fwynhawyd gan breswylwyr.  Cedwir yr wybodaeth hon mewn ffolder ar wahân sy'n cynnwys gwybodaeth fanwl a ffotograffau o breswylwyr yn mwynhau gweithgareddau amrywiol.  Er bod y ffolder gweithgareddau ar wahân yn dangos bod preswylwyr yn cymryd rhan yn y gweithgareddau a ddewiswyd, argymhellir bod cyfeirio at weithgareddau hefyd yn cael ei gynnwys mewn cofnodion dyddiol.

Edrychwyd ar waith papur trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid i breswylwyr mewn ffeiliau a chanfuwyd ei fod yn gyfredol ac yn gywir.

Staffio, Hyfforddiant a Goruchwylio

Mae'r cartref yn elwa ar dîm staff sefydlog, sefydledig sydd wedi cynorthwyo'r preswylwyr ers blynyddoedd lawer ac sy'n wybodus am anghenion a phersonoliaethau'r preswylwyr.

Yn ystod y dydd, mae gan Luk Ros ddau aelod o staff ar ddyletswydd ac un aelod o staff yn ystod y nos. Nid yw'r cartref yn defnyddio staff asiantaeth; mae'r tîm staff yn hyblyg a byddan nhw'n llenwi unrhyw fylchau yn y rotas.

Mae staff a gyflogir yn y cartref yn cael hyfforddiant drwy e-ddysgu a chyrsiau hyfforddi personol. Darparwyd matrics hyfforddi a gwelwyd tystiolaeth bod yr holl staff wedi gwneud yr hyfforddiant gorfodol a chyrsiau hyfforddi nad ydyn nhw'n orfodol.

Roedd rhai aelodau o staff yn hwyr yn cael hyfforddiant mewn gweithdrefn benodol, a thrafodwyd hyn gyda'r rheolwr gweithrediadau a ddywedodd eu bod nhw'n ceisio cael hyfforddiant gyda chydweithwyr yn y bwrdd iechyd.

Adolygwyd dwy ffeil staff yn ystod yr ymweliad. Roedd yr holl dystiolaeth ddogfennol recriwtio angenrheidiol ar gael ar ffeil gan gynnwys prawf adnabod, tystlythyrau gan gyflogwyr blaenorol, tystiolaeth o wiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), ffurflenni cais a chontractau cyflogaeth.

Roedd matrics goruchwylio yn dangos bod staff yn cael eu goruchwylio'n rheolaidd.  Cofnodir goruchwyliaeth a chynhelir sesiynau manwl ac ystyrlon gyda'r staff o'r dogfennau a welwyd.  Mae staff hefyd yn cael gwerthusiadau blynyddol.

Maeth

Mae gan breswylwyr fwydlenni sy'n amrywiol, yn faethlon ac yn seiliedig ar eu dewisiadau. Er bod bwydlenni wedi'u cynllunio ar gyfer pob wythnos, cynigir dewisiadau i breswylwyr hefyd.  Mae'r staff yn annog diet iach cymaint â phosibl ac mae awgrymiadau a chyfarwyddiadau i gynorthwyo staff gyda hyn.

Weithiau, mae preswylwyr yn helpu gyda pharatoi bwyd ac yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn pobi a pharatoi byrbrydau iach fel smwddis.

Gweithgareddau

Nid oedd unrhyw gynlluniau gofal ar ffeil ynghylch gweithgareddau i breswylwyr. Gan fod gweithgareddau penodol wedi’u crybwyll yng nghynlluniau gofal a chymorth yr Awdurdod Lleol ar gyfer preswylwyr, argymhellir bod cynlluniau gofal yn cael eu rhoi mewn lle ar gyfer gweithgareddau. Gall hyn roi arweiniad clir i staff er mwyn iddyn nhw fod yn ymwybodol o ddewisiadau a chanlyniadau personol preswylwyr. 

Roedd tystiolaeth o weithgareddau a fwynhawyd gan breswylwyr ar gael ac roedd yn cynnwys mynediad at y gymuned leol, gwyliau, celf a chrefft a gemau.  Hefyd, gwelodd y Swyddog Monitro y staff hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau gyda'r preswylwyr.

Cymhorthion ac Offer Symudedd

Mae nifer o gymhorthion ac offer yn cael eu defnyddio yn y cartref. Roedd tystiolaeth ar gael bod cymhorthion yn gyfredol o ran cael eu gwasanaethu.

Cadarnhawyd ar lafar bod gwiriadau wythnosol yn cael eu cynnal gan staff i sicrhau bod y staff yn gwirio cyflwr a diogelwch y cymhorthion hyn ond nid yw'r gwiriadau mewnol hyn wedi'u dogfennu.  Argymhellir bod y gwiriadau hyn yn cael eu dogfennu.

Rheoli Arian Preswylwyr

Mae systemau cadarn ar waith ar gyfer rheoli arian preswylwyr a chedwir cofnodion a derbynebau priodol.  Roedd tystiolaeth hefyd bod cofnodion ariannol yn cael eu harchwilio gan y rheolwr. Er bod y  cyfriflyfr wedi'i gwblhau'n llawn ac i safon uchel, argymhellir y dylai staff sy'n gwneud y cofnodion ychwanegu llofnod ar gyfer cofnod mwy cyflawn a thrywydd archwilio.

Meddyginiaeth

Cedwir meddyginiaeth yn ddiogel yn y cartref. Mae cynlluniau gofal yn eu lle ar gyfer unigolion sydd angen cymorth gyda meddyginiaeth.  Wrth edrych ar y cynlluniau gofal, nodwyd mai dim ond rhai o'r meddyginiaethau ar bresgripsiwn oedd wedi'u rhestru. Argymhellir bod yr holl feddyginiaeth ar bresgripsiwn ar gyfer unigolyn yn cael ei chynnwys yn y cynllun gofal os yw meddyginiaeth i'w rhestru ar gynlluniau personol.

Edrychwyd ar Gofnodion Rhoi Meddyginiaeth, ac roedd y rhain wedi'u cwblhau'n llawn ar gyfer pob unigolyn. Roedd yr holl staff wedi cael hyfforddiant rhoi meddyginiaeth cyfredol.  Mae'r Rheolwr hefyd yn cwblhau archwiliadau meddyginiaeth misol.

Iechyd a Diogelwch

Mae'r cartref cyfan wedi'i gyflwyno'n dda ac ni welwyd unrhyw beryglon.Mae nifer o wiriadau cynnal a chadw arferol yn cael eu cynnal yn wythnosol ac yn fisol ac yn cael eu cofnodi.Yn ogystal, mae'r Rheolwr yn llunio adroddiad Iechyd a Diogelwch misol ar gyfer monitro mewnol.Mae unrhyw ddigwyddiadau/ddamweiniau neu ddamweiniau a fu bron â digwydd yn cael eu cofnodi a'u hadrodd i'r Uwch Reolwyr a fydd yn eu hadolygu ac yn cynghori ar unrhyw gamau i'w cymryd.Mae digwyddiadau hefyd yn cael eu coladu a'u hadrodd mewn dogfennau sicrhau ansawdd.

Roedd tystiolaeth ar gael ar gyfer gwiriadau wythnosol a misol rheolaidd o ran diogelwch tân yn y cartref, a oedd yn cynnwys gwirio'r larwm tân, goleuadau argyfwng a diffoddwyr tân.Roedd asesiad risg tân mewnol hefyd ar gael ac roedd yr holl staff wedi darllen a llofnodi'r ddogfen.Cynhelir ymarferion tân yn rheolaidd ac fe'u cofnodir gan gynnwys enwau'r rhai sy'n cymryd rhan a'r amser mae'n ei gymryd i wacáu'r adeilad.

Roedd Cynlluniau Personol Gadael mewn Argyfwng yn eu lle ar gyfer yr holl unigolion sy'n byw yn y cartref ac yn cael eu hadolygu bob tri mis.

Sicrwydd Ansawdd

Darparwyd copïau o'r ddau Adolygiad Ansawdd Gofal blaenorol i'r Swyddog Monitro. Roedd y rhain yn ddogfennau cynhwysfawr a oedd yn cyflawni'r diben o fonitro, adolygu a gwella'r gofal a'r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth. Roedd yr adolygiadau'n cynnwys adborth gan staff a phreswylwyr. Roedd yr adroddiadau'n cynnwys argymhellion a chamau gweithredu yn dilyn yr adolygiad.

Trefnir ymweliadau rheolaidd gan yr Unigolyn Cyfrifol ac roedd yr adroddiadau chwarterol ar gael i’r Swyddog Monitro eu gweld. Unwaith eto, roedd y rhain yn ddogfennau cynhwysfawr ac yn cynnwys yr holl ofynion fel y'u nodwyd mewn deddfwriaeth gan y rheoleiddiwr.

Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion gan y gwasanaeth ers yr ymweliad monitro diwethaf.Roedd canmoliaeth wedi'i derbyn a'i chofnodi gan weithwyr proffesiynol a oedd yn ymweld.

Yr Amgylchedd

Mae'r byngalo'n cael ei gynnal a'i gadw'n dda drwy'r cartref i gyd ac ni welwyd unrhyw beryglon nac arogleuon drwg. Roedd yn amlwg bod yr ystafell fyw a'r gegin wedi'u hailaddurno a hefyd fod gwelliannau wedi cael eu gwneud i'r ardd ers yr ymweliad monitro diwethaf.

Mae ystafelloedd preswylwyr yn gyfforddus ac wedi'u personoli i bob unigolyn, gan gynnwys ffotograffau ac eitemau synhwyraidd.

Camau unioni/datblygiadol

Camau unioni

Cynlluniau Personol i gynnwys meysydd cymorth sydd wedi'u cynnwys yng Nghynllun Gofal a Chymorth yr Awdurdod Lleol. (Rheoliad 15, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016).

Camau datblygiadol

Os yw meddyginiaethau wedi'u rhestru ar Gynlluniau Personol, rhaid cynnwys pob meddyginiaeth ar bresgripsiwn.

Llofnodion staff i'w cynnwys ar y cyfriflyfr yn cofnodi arian preswylwyr. Gwirio'r cymhorthion ac offer symudedd yn rheolaidd a'u dogfennu.

Casgliad

Roedd hwn yn ymweliad monitro cadarnhaol â'r cartref ac roedd yn amlwg bod gwelliannau wedi'u gwneud mewn nifer o feysydd ers yr ymweliad diwethaf.  Roedd y dogfennau wedi'u trefnu'n dda ac yn glir ar gyfer staff a gweithwyr proffesiynol. Roedd awyrgylch cynnes a chartrefol yn y cartref a gwelwyd y staff yn ymgysylltu â'r preswylwyr drwy gydol yr ymweliadau. Mae preswylwyr yn parhau i gael eu cynorthwyo gan staff sy'n ymroddedig i helpu unigolion i gyflawni eu canlyniadau. Mae uwch reolwyr yn gefnogol ac mae ganddyn nhw oruchwyliaeth dda o'r gwasanaeth.

Hoffai'r Swyddog Monitro Contractau ddiolch i'r staff a'r preswylwyr am eu hamser a'u lletygarwch trwy gydol yr ymweliad monitro.

  • Awdur: Ceri Williams
  • Swydd: Swyddog Monitro Contractau
  • Dyddiad: 27 Hydref 2023