Beechlea 

Adroddiad Monitro Contract

  • Enw/Cyfeiriad y darparwr: Beechlea (Abbey Ambitions), Markham, Coed Duon
  • Dyddiad/Amser yr ymweliad: 26 Gorffennaf 2023 (Cyhoeddwyd)
  • Swyddog(ion) Ymweld: Caroline Roberts, Swyddog Monitro Contractau
  • Yn bresennol: Wendy Gloster, Rheolwr y Cartref, Terry Wells, Uwch Ofalwr

Cefndir

Mae Beechlea yn gartref preswyl i unigolion ag anableddau dysgu, sy'n eiddo i Abbey Ambitions; maen nhw’n ddarparwr cofrestredig o fewn Bwrdeistref Sirol Caerffili.  Wendy Gloster yw rheolwr cofrestredig Beechlea, ynghyd â'r chwaer gartref, sydd hefyd o fewn Bwrdeistref Sirol Caerffili.  Sam Gloster yw'r Unigolyn Cyfrifol ar gyfer y ddau eiddo.

Mae Beechlea wedi'i leoli mewn stryd breswyl yn Markham ac mae'n eiddo o faint da.  Mae'r cartref wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac mae'r cofrestriad yn cynnwys pedwar oedolyn dros 18 oed.  Mae'r cofrestriad hefyd yn caniatáu un person hŷn ag anabledd dysgu ac anghenion iechyd meddwl.  Ar adeg yr ymweliad, roedd pedwar preswylydd ac roedd pob un ohonyn nhw'n cael eu hariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Cafodd Beechlea ei arolygu gan AGC ddiwethaf ym mis Medi 2021.  Yn ystod yr arolygiad, ni chafodd unrhyw feysydd o ddiffyg cydymffurfio eu nodi.  Fodd bynnag, gwnaed un argymhelliad gan yr arolygydd a oedd yn ymweld, sef bod y darparwr yn sicrhau bod yr holl gamau gwirio cyn cyflogi perthnasol yn cael eu cwblhau cyn i staff ddechrau gweithio yn y gwasanaeth (Rheoliad 35(2)(d)).

Nid yw Cyfadran y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cael unrhyw gwynion mewn perthynas â Beechlea yn ystod y 12 mis diwethaf.  Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, roedd 2 atgyfeiriad diogelu ac aeth y ddau yn eu blaenau drwy broses Diogelu Cymru Gyfan a thrwy Gofal Cymdeithasol Cymru.

Yn ystod yr ymweliadau â'r eiddo, cyfarfu'r Swyddog Monitro â'r Rheolwr a'r Uwch Weithiwr Cymorth.  Cyfarfu'r Swyddog Monitro â'r pedwar preswylydd hefyd. 

Yn dibynnu ar ganfyddiadau'r adroddiad, caiff y darparwr gamau unioni a datblygiadol i'w cwblhau.  Camau unioni yw rhai y mae'n rhaid eu cwblhau (yn unol â'r ddeddfwriaeth); argymhellion arfer da yw camau datblygiadol. 

Argymhellion Blaenorol

Camau unioni

Pob aelod o staff i gael y wybodaeth ddiweddaraf am hyfforddiant gorfodol (Rheoliad 36, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016). Wedi'i gwblhau'n rhannol.

Ffeiliau staff i gadw'r holl ddogfennaeth briodol (Rheoliad 35, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016). Wedi'i gwblhau'n rhannol.

Dylai tystiolaeth gael ei chynnwys i ddangos, pan mae adolygiadau yn cael eu cynnal, bod y swyddog adolygu wedi cynnal trafodaethau gyda'r unigolyn a/neu gynrychiolwyr, wedi cymryd adborth o'r cofnodion dyddiol a hefyd wedi cynnal sgyrsiau gyda'r gweithiwr cymdeithasol penodedig. (Rheoliad 16, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016) Ddim wedi'i gwblhau

Cyn-asesiad i'w gwblhau ar gyfer unrhyw leoliad newydd posibl. (Rheoliad 18, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016) – dim lleoliadau newydd ers yr ymweliad monitro diwethaf yn 2022.

Camau datblygiadol

Ffeiliau cleientiaid i gynnwys manylion hanes bywyd y cleientiaid.

Ffeiliau i ddangos caniatâd i gysylltu â'r teulu mewn argyfwng.

Parhau i gael sgyrsiau am DNACPR (Na cheisier dadebru cardio-anadlol).

Canfyddiadau

Dogfennaeth

Ar hyn o bryd, mae pedwar preswylydd yn Beechlea, pob un ohonyn nhw'n drigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili.  Wrth edrych ar y dogfennau, roedd dwy ffeil yn dangos bod y lleoliadau wedi cael eu gwneud gan Gaerffili.

Roedd yr holl ddogfennaeth yn cael ei storio'n ddiogel yn y swyddfa ac mewn cabinet â chlo.

Nid oedd asesiadau cyn derbyn ar y naill ffeil na'r llall; fodd bynnag, rhaid nodi bod yr unigolion wedi byw yn Beechlea ers nifer o flynyddoedd a bod archifo priodol wedi digwydd.

Roedd Asesiadau Risg priodol ar gyfer unigolion, h.y. nofio, cael bath, meddyginiaeth yn mynd at y teulu, offer synhwyrydd is-goch, cludiant/teithio, i enwi dim ond rhai.  Roedd pob ffeil yn cynnwys Asesiadau Risg a oedd yn berthnasol i'r unigolyn.

Roedd y cofnodion dyddiol, a oedd yn canolbwyntio ar yr unigolyn, yn nodi pa weithgareddau oedd yn cael eu cynnal, pa gymorth a gafodd ei ddarparu, sut mae annibyniaeth yn cael ei hybu, h.y. peidio â mynd allan yn y glaw oherwydd nid yw'r cleient yn hoffi hynny, ymweld â rhiant, trefn gysgu, ymosodiadau, hwyliau ac ati.

Roedd cofnodion yn dangos bod staff Beechlea yn cysylltu’n briodol ag asiantaethau allanol er mwyn cefnogi’r preswylwyr, h.y. Awdioleg, Adolygiadau Epilepsi, Optegwyr ac ati.

Roedd adolygiadau'n cael eu cynnal mewn modd amserol, fodd bynnag, nid oedden nhw'n dangos bod y swyddog adolygu wedi cynnal trafodaethau gyda'r unigolion a/neu gynrychiolwyr, wedi cymryd adborth o'r cofnodion dyddiol a hefyd sgyrsiau a gafodd eu cynnal gyda'r gweithiwr cymdeithasol penodedig (os oedd un wedi'i benodi).  Cafodd hyn ei godi yn ystod yr ymweliad monitro blaenorol ac nid yw wedi'i roi ar waith/ei dystio eto.

Nid oedd unrhyw nodau clir yn y ddogfennaeth a gafodd eu gweld.  Fodd bynnag, yn ystod yr arsylwi, roedd yn gadarnhaol nodi bod preswylwyr y cartref yn cael eu hannog i fod yn annibynnol mewn tasgau maen nhw'n gallu eu cyflawni'n ddiogel a chyda chymorth priodol gan y staff.  Roedd preswylwyr yn cael dewisiadau o ran bwyd, beth roedden nhw eisiau ei wneud a ble roedden nhw eisiau mynd.

Roedd manylion cyswllt priodol wedi'u sefydlu ar gyfer aelodau'r teulu ac roedd y cartref yn dangos perthynas gadarnhaol ag aelodau'r teulu a oedd yn ymwneud â gofal a chymorth i unigolion.

Pe bai unigolyn yn cael gofal yn y gwely, mae disgwyl i weithwyr cymorth gynnig gweithgareddau fel darllen, tylino dwylo, cael sgwrs ac ati.  Ar adeg yr ymweliad, nid oedd unrhyw breswylydd yn derbyn gofal yn y gwely ac roedd yr holl breswylwyr yn eistedd yn y lolfa.

Roedd un ffeil yn cynnwys gwybodaeth sylfaenol am gefndir yr unigolyn, ond byddai pob ffeil yn elwa o wybodaeth am gefndir y cleientiaid ar flaen pob ffeil.  Bydd hyn o gymorth i ddechreuwyr newydd a/neu staff asiantaeth nad ydyn nhw'n adnabod yr unigolion.

Wrth edrych ar y ddogfennaeth, nododd y swyddog monitro nad oedd tystiolaeth o na cheisier dadebru cardio-anadlol (DNACPR).  Mae hwn yn fater sensitif i’w drafod; fodd bynnag, dylai cofnodi’r rheswm dros beidio â'i drafod, h.y. dim perthynas agosaf ac ni fyddai'n deall etc.

Gweithgareddau

Mae gan bob aelod o staff gyfrifoldeb am helpu unigolion gyda gweithgareddau.

Mae pob preswylydd yn cael ei annog i fynd allan o leiaf unwaith y dydd, i'r siopau lleol neu allan am dro.  Fodd bynnag, mae gan bob unigolyn ddewis ac roedd dau breswylydd gwrywaidd yn awyddus i drafod sioe awyr yr oedden nhw'n bwriadu mynd i'w gweld dros yr wythnos i ddod.

Cafodd dathliadau pen-blwydd eu trafod a thrafodaethau am fynd allan am bryd o fwyd i ddathlu hefyd, gyda phreswylwyr yn edrych ymlaen at fynd allan.

Mae rhai o'r preswylwyr yn mwynhau nofio a chyfarfod ag aelodau'r teulu.

Mae’r preswylwyr yn mwynhau gwyliau a mynd allan i sioeau amrywiol ac ati.

Iechyd a Diogelwch

Nid oes unrhyw dueddiadau o ran digwyddiadau/damweiniau wedi digwydd dros y mis diwethaf.

Cafodd yr asesiad tân ei gynnal diwethaf ar 29 Ebrill 2023, ac nid oedd unrhyw argymhellion.

Mae driliau tân yn cael eu cynnal a'u cofnodi'n rheolaidd, heb unrhyw broblemau wedi'u nodi.

Cymhorthion ac offer symudedd

Mae Bathmaster yn ei le ac mae' cael ei gwasanaethu unwaith yn y flwyddyn.  Mae teclyn codi yn yr eiddo hefyd ac mae'n cael ei ddefnyddio yn gyffredinol pan nad yw unigolion yn teimlo'n dda. 

Mae un unigolyn yn defnyddio cadair olwyn wrth ddod i mewn i'r gymuned ac mae'n cael ei gwasanaethu gan gwmni allanol a'r Unigolyn Cyfrifol sy'n sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei gynnal.

Meddyginiaeth

Mae meddyginiaeth yn cael ei storio'n gywir mewn cwpwrdd cloadwy a chaiff unrhyw gyffuriau rheoledig eu cloi ddwywaith.  Mae'r cartref yn cynnal archwiliad misol o'r feddyginiaeth ac, ar adeg yr ymweliad monitro, nid oedd unrhyw unigolyn yn cael meddyginiaeth gudd.

Mae cyffuriau rheoledig yn cael eu llofnodi ddwywaith; dim ond un llofnod sydd ei angen ar gyfer pob meddyginiaeth arall.

Rheoli arian preswylwyr

Dywedodd yr Uwch Swyddog fod yr arian sy’n mynd i mewn ac allan o’r cartref angen llofnod 2 aelod o staff ac mae'r swyddog ymweld wedi gwirio hyn.

Amgylchedd y cartref

Mae'r cartref yn helaeth ac yn groesawgar.  Mae'n cynnwys cegin o faint da gydag ystafell amlbwrpas o faint mawr.  Mae'r holl arwynebau gweithio yn ardal y gegin wedi'u hailorchuddio i safon uchel.

Mae’r lolfa yn ofod agored, deniadol sy’n cynnwys soffa, bwrdd bwyta a theledu gyda lluniau o’r preswylwyr yn cael eu harddangos drwyddi draw.  Mae yna ddrysau sy'n agor allan i ardd eang, sydd ag ardal ddecio.

Mae gan bob preswylydd ei ystafell wely ei hun ac maen nhw wedi'u haddurno i chwaeth bersonol yr unigolyn.  Mae'r ystafelloedd yn cynnwys eiddo personol megis ffotograffau teulu, pethau casgladwy ac addurniadau gan ddarparu man personol i’r unigolion ymlacio ynddo. 

Cafodd y swyddog ymweld wybod nad oedd unrhyw breswylydd yn ysmygu; fodd bynnag, dim ond yn yr ardd y mae staff yn cael ysmygu.

Maeth

Cafodd y cartref ei archwilio gan Swyddog Iechyd yr Amgylchedd o ran hylendid a diogelwch bwyd ar 20 Mehefin 2023 a chafodd sgôr o ‘5’ – Da Iawn.

Mae yna fwydlen ragosodedig y mae'r staff a'r preswylwyr yn ei chreu; fodd bynnag, mae hyn yn agored i newid yn dibynnu ar ddymuniadau'r preswylwyr.

Ar ddiwrnod yr ymweliad a chyn cinio, roedd Rheolwr y Cartref wedi gofyn i bob preswylydd pa fath o datws yr hoffen nhw ei gael gyda'u cinio ac yna, yn ddiweddarach, yn gofyn a fyddai un preswylydd yn ei helpu i baratoi pryd bwyd.  Roedd y preswylydd yn hapus i wneud hyn.

Roedd y preswylwyr yn mwynhau cinio wedi’i goginio yn cynnwys gamwn, llysiau a thatws wedi’u coginio o’u dewis (rhai wedi dewis tatws pob a rhai wedi dewis tatws wedi'u rhostio ac ati).

Mae preswylwyr yn mwynhau diet iach a chytbwys gyda ffrwythau ar gael a llysiau wedi'u hymgorffori yn y prydau bwyd. 

Gofynnodd y swyddog ymweld a oedd y preswylwyr yn mwynhau cynorthwyo staff i baratoi prydau bwyd, a'r ateb oedd gallai rhai gynorthwyo (fel y gwelwyd).  Fodd bynnag, dywedodd y staff a'r rheolwr fod y preswylwyr wedi dod yn fwy annibynnol drwy ddychwelyd llestri budr i'r gegin ac, unwaith eto, gwelwyd hyn yn ystod y broses fonitro.

Sicrhau ansawdd

Fel arfer, mae Abbey Ambitions yn defnyddio arolygon i gasglu adborth, ac maen nhw'n cael eu rhannu gyda’r preswylwyr, staff, rheolwyr a rhanddeiliaid.  Fodd bynnag, mae'r dychweliadau yn parhau i fod yn isel o ran nifer.  Dywedodd Mrs Gloster fod hwn yn faes sydd wedi'i drafod hefyd ag arolygydd o Arolygiaeth Gofal Cymru.  Trafododd Mrs Gloster a'r Swyddog Monitro adborth ffôn posibl ac roedd Mrs Gloster yn hapus i ystyried yr awgrym hwn.

Edrychodd y Swyddog Monitro ar yr Adroddiad Ansawdd diweddaraf, Chwefror i Fai 2023, lle mae'r Unigolyn Cyfrifol yn cwmpasu ystod eang o feysydd yn ystod ei ymweliad.  Mae'r adroddiad yn fanwl ac yn drylwyr.

Staffio

Mae Abbey Ambitions yn parhau i ddefnyddio staff asiantaeth.  Mae'r darparwr yn parhau i ymdrechu ac annog cyflogeion newydd; fodd bynnag, mae hyn yn dal i fod yn anodd.

Arsylwodd y swyddog monitro y matrics hyfforddi, a nododd fod angen cyrsiau gloywi ar rai aelodau o staff mewn perthynas â hyfforddiant gorfodol.  Dywedodd y Rheolwr ei bod yn anodd dod o hyd i ddarparwr ar gyfer un maes hyfforddi; fodd bynnag, bydd yn parhau i geisio hyfforddwr yn y maes penodedig.  Bydd y Swyddog Monitro yn gofyn am ragor o wybodaeth am y maes hwn o fewn 3 mis i’r adroddiad.

Wrth edrych ar y matrics goruchwylio, roedd bylchau.  Cafodd hyn ei drafod gyda Rheolwr y Cartref, a gadarnhaodd ei bod ar ei hôl hi o ran goruchwyliaeth.  Tra bod Rheolwr y Cartref a'r Unigolyn Cyfrifol yn yr eiddo'n rheolaidd, felly, ac mewn cysylltiad rheolaidd â staff/preswylwyr, mae'n bwysig bod staff yn cael y cyfle i gael sesiynau goruchwylio ffurfiol bob tri mis o leiaf.

Wrth edrych ar ffeiliau dau weithiwr cymorth, nad oedd rhai dogfennau’n cael eu cadw, h.y. disgrifiad swydd, contract cyflogaeth wedi’i lofnodi, tystysgrif geni.

Cafod tystysgrifau hyfforddiant gorfodol a thystysgrifau Gofal Cymdeithasol Cymru hefyd eu harsylwi.

Cwestiynau i staff

Yn ystod yr ymweliad, cafodd y Swyddog Monitro gyfle i siarad â'r Uwch Weithiwr Cymorth a gofyn rhai cwestiynau ynglŷn â sut mae'r cartref yn cael ei redeg ac a oedd ganddo unrhyw bryderon. 

Roedd yr Uwch Weithiwr Cymorth yn wybodus am yr unigolion y mae'n eu cynorthwyo ac yn gallu rhyngweithio'n dda.   

Yn flaenorol, cafodd y Swyddog Monitro ei hysbysu mai boreau yw'r amser prysuraf o'r dydd ond, unwaith y bydd pob unigolyn yn cael ei gynorthwyo a bod meddyginiaeth yn cael ei darparu, mae amgylchedd ymlaciol yn y cartref a dyna pryd mae'r staff yn teimlo eu bod nhw'n gallu eistedd a sgwrsio â'r preswylwyr, mynd allan i'r gymuned neu fynd i eistedd yn yr ardd os yw'r preswylwyr yn dymuno gwneud hynny.  Digwyddodd hyn yn ystod yr ymweliad monitro hwn.

Gofynnais i'r Uwch Swyddog roi gwybodaeth i mi am un o'r preswylwyr roeddwn i wedi edrych ar ei ffeil.  Roedd yr aelod o staff yn gallu darparu gwybodaeth fanwl, gyda hoff bethau a chas bethau'r unigolyn.  Roedd yn amlwg bod yr Uwch Swyddog yn adnabod yr unigolyn yn dda ac yn gallu darparu'r cymorth priodol.

Mae Rheolwr y Cartref a'r Unigolyn Cyfrifol yn treulio llawer o amser yn yr eiddo ac mae ganddyn nhw berthynas waith dda gyda'u tîm staff.  Dywedodd yr Uwch Reolwr fod y ddau reolwr yn barod i glywed unrhyw awgrymiadau sydd gan staff ac y bydd yn gweithredu’r syniadau os byddan nhw'n cynorthwyo neu’n gwella bywyd beunyddiol y preswylwyr.

Dywedodd y Gweithiwr Cymorth y byddai'n ymyrryd, yn ceisio datrys materion ac yn adrodd yn ôl i'r rheolwr, pe bai'n gweld arfer gwael.

Mae pob aelod o staff yn gallu nodi eu hanghenion hyfforddi eu hunain ac maen nhw'n gallu trafod materion gyda'r rheolwr.  Yn ddiweddar, mae staff wedi gwneud cais i wneud hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain.

Nid oedd gan yr Uwch Swyddog unrhyw faterion i'w hadrodd ac roedd yn ymddangos bod ganddo berthynas waith dda gyda'r staff a'r preswylwyr.

Cwestiynau i breswylwyr

Yn ystod yr ymweliadau, treuliodd y Swyddog Ymweld beth amser yn siarad â'r pedwar preswylydd.

Ar ôl cyrraedd yr eiddo, roedd trosglwyddo'n digwydd rhwng yr Uwch Swyddog a'r gweithiwr nos, felly, treuliodd y Swyddog Monitro amser gyda thri o'r preswylwyr wrth y bwrdd brecwast.

Roedd y tri wedi'u gwisgo'n briodol ar gyfer y tywydd ac roedden nhw'n hapus i sgwrsio a chyfnewid eu gwybodaeth am y gemau pêl-droed merched a oedd yn cael eu cynnal. Roedd y ddau ddyn yn awyddus iawn i drafod sioe awyr sydd wedi ei threfnu gan yr Uwch Weithiwr Cymorth a hefyd y dathliadau pen-blwydd oedd yn mynd i gael eu cynnal y penwythnos hwnnw.

Dywedodd dau unigolyn, o'r tri, eu bod yn hapus yn Beechlea ac roedd y tri yn rhyngweithio'n gadarnhaol â'r aelod o staff ar sifft. 

Yn ddiweddarach yn y bore, ymunodd y pedwerydd preswylydd â’r lleill yn y lolfa ac er bod cyfathrebu’n gyfyngedig gyda dau o’r preswylwyr, roedd yn hyfryd clywed y chwerthin yn dod o’r lolfa, pan ymwelodd aelodau’r teulu.

Roedd un preswylydd yn hapus i ddangos ei ystafell i'r Swyddog Ymweld.  Cafodd y Swyddog Ymweld a'r preswylydd sgwrs am y lluniau teuluol a oedd yn cael eu harddangos.  Roedd yr ystafell yn lân, yn daclus ac yn cael ei chynnal a'i chadw'n dda.  Gofynnodd yr unigolyn i'r Swyddog Monitro gau ei ffenestr gan ei fod yn teimlo bod ei ystafell yn oer.

Ar adeg yr ymweliad, nid oedd unrhyw bryderon iechyd.

Cyffredinol

Mae'r cartref yn parhau i fod ag awyrgylch hyfryd a chynnes, ac roedd yn amlwg bod gan y preswylwyr berthynas dda â'i gilydd a'r staff.  Roedd chwerthin a chyfathrebu rhwng y staff a'r preswylwyr, gan ddangos awyrgylch hamddenol, gydag ymweliadau teuluol yn cael eu hannog a'u mwynhau.

Roedd prif ardaloedd y cartref yn lân ac yn groesawgar ac, wrth gael ei wahodd i un o'r ystafelloedd gwely, roedd yn amlwg bod y preswylwyr yn addurno ac yn llenwi eu hystafelloedd i gwrdd â'u chwaeth bersonol eu hunain.

Camau unioni a datblygiadol

Camau unioni

Bod goruchwyliaeth yn cael ei chyflawni mewn modd amserol. (Rheoliad 38, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016)

Staff i ddogfennu os yw preswylwyr/cynrychiolwyr yn methu neu'n anfodlon llofnodi/cymryd rhan mewn datblygu cynllun personol. (Rheoliad 38, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016)

Hyfforddiant gorfodol i'w wneud a Rheolwr y Cartref i barhau i ddod o hyd i hyfforddiant priodol o ran Cymorth Cyntaf; bydd y Prif Swyddog Meddygol yn gwirio hynny ymhen 3 mis. (Rheoliad 38, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016)

Nodau/canlyniadau i gael eu hamlinellu'n glir (Rheoliad 15, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016)

Yr holl ddogfennaeth staff briodol i gael ei chadw ar ffeil. (Rheoliad 38, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016)

Camau datblygiadol

Y staff i gadw dim ond gwybodaeth berthnasol ar ffeil ac i archifo data nad oes ei angen mwyach.

Datblygu hanes cryno o'r preswylwyr a'i osod ar flaen pob ffeil.

Casgliad

Roedd yr ymweliad monitro yn gadarnhaol, roedd yn braf gweld ymweliadau teuluol ac, unwaith eto, arsylwi ar yr ymgysylltu rhwng y tîm staff, preswylwyr ac aelodau'r teulu a oedd yn ymweld. 

Bydd monitro rheolaidd yn parhau yn Beechlea, a hoffai'r Swyddog Monitro ddiolch i bawb a gymerodd ran am eu hamser, yr wybodaeth maen nhw wedi'i rhannu, a'r lletygarwch maen nhw wedi'i ddangos yn ystod yr ymweliad.

  • Awdur: Caroline Roberts
  • Swydd: Swyddog Monitro Contractau
  • Dyddiad: 7 Awst 2023