Cartref Preswyl Abbey Lodge

Adroddiad Monitro Contract 

  • Enw darparwr: Abbey Ambitions
  • Enw'r gwasanaeth: Cartref Preswyl Abbey Lodge (Anableddau Dysgu)
  • Dyddiad/Amser yr ymweliad: 16 Mawrth 2023
  • Swyddog(ion) Ymweld: Ceri Williams - Swyddog Monitro Contractau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
  • Yn bresennol: Wendy Gloster (Rheolwr/Perchennog)

Cefndir 

Mae Abbey Lodge yn gartref preswyl ar gyfer unigolion ag anableddau dysgu. Mae'n eiddo i Abbey Ambitions, sy'n ddarparwr cofrestredig ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, ac yn cael ei weithredu ganddo.  Mae'r darparwr hefyd yn gweithredu cartref preswyl arall yn y Fwrdeistref Sirol o'r enw Beechlea.

Mae Abbey Lodge yn gartref â phedwar gwely, mewn ardal breswyl dawel yn Ynys-ddu. Ar adeg yr ymweliad, roedd dau breswylydd yn cael eu hariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ynghyd ag un preswylydd yn cael ei ariannu gan awdurdod lleol arall. Mae gan y cartref un lle gwag ar hyn o bryd.  

Ar ddiwrnod yr ymweliad, cafodd y swyddog monitro gyfle i gwrdd â'r holl breswylwyr, rhai o'r staff, y rheolwr, yn ogystal â chael taith o amgylch y cartref.

Yn dibynnu ar ganfyddiadau'r adroddiad, caiff y darparwr gamau unioni a datblygiadol i'w cwblhau. Camau unioni yw’r rhai mae'n rhaid eu cwblhau (yn unol â deddfwriaeth) ac argymhellion arfer da yw camau datblygiadol.

Argymhellion Blaenorol

Hwn oedd yr ymweliad monitro cyntaf â’r cartref ers 2019 oherwydd cyfyngiadau coronafeirws.  Felly, nid yw argymhellion blaenorol wedi’u hystyried.

Bydd unrhyw gamau unioni a datblygiadol newydd yn cael eu rhoi i'r darparwr o ganlyniad i'r adroddiad hwn. 

Canfyddiadau

Cynllunio Gwasanaeth

Edrychwyd ar Gynlluniau Personol dau o'r preswylwyr sy'n byw yn y cartref.  Roedd y ffeiliau'n cynnwys llawer o wybodaeth, peth yn hanesyddol, a byddai modd eu trefnu'n well er eglurder.

Roedd y Cynlluniau Personol yn fanwl, yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn adlewyrchu'r anghenion gofal a chymorth sydd wedi'u nodi gan gynllun gofal a chymorth yr awdurdod lleol.

Roedd y cynlluniau'n cynnwys hoff a chas bethau, arferion a sbardunau ar gyfer yr unigolion sy'n cael eu cynorthwyo.

Roedd Cynlluniau Personol wedi'u llunio sawl blwyddyn yn ôl a byddai'n fuddiol eu diweddaru a'u hailysgrifennu nhw, gan fod peth gwybodaeth yn hanesyddol ac yn amherthnasol i anghenion gofal a chymorth yr unigolion bellach.

Cafodd ei nodi nad oedd Cynlluniau Personol wedi eu llofnodi gan breswylwyr na'u cynrychiolydd fel tystiolaeth eu bod nhw wedi bod yn rhan o lunio'r cynlluniau ac yn cytuno â'r cynnwys.  Er ei fod yn cael ei gydnabod y gall hyn fod yn anodd yn dibynnu ar allu unigolyn i ddeall, dylid nodi pam nad yw'r ddogfennaeth wedi'i llofnodi.

Roedd tystiolaeth ar gael mewn ffeiliau bod atgyfeiriadau'n cael eu gwneud i asiantaethau allanol priodol, yn ôl yr angen, ac roedd cofnodion da o gyfathrebu â gweithwyr iechyd proffesiynol a chanlyniadau unrhyw asesiadau iechyd neu apwyntiadau oedd preswylwyr wedi'u mynychu.

Roedd tystiolaeth yn y Cynlluniau Personol o ganlyniadau y cytunwyd arnynt ar gyfer pobl a sut y bydden nhw'n cael eu cynorthwyo i’w cyflawni nhw.

Mae Cynlluniau Personol yn cael eu hadolygu o fewn yr amserlenni gofynnol.  Fodd bynnag, gallai adolygiadau fod yn fwy ystyrlon; roedd yn amlwg bod gwybodaeth hanesyddol wedi'i chynnwys mewn Cynlluniau Personol nad oedd wedi'i nodi a'i diwygio drwy'r broses adolygu.

Nid oedd adolygiadau yn cynnwys tystiolaeth bod yr unigolyn a oedd yn cael gofal a chymorth wedi bod yn rhan o'r broses adolygu.

Roedd cofnodion dyddiol yn adlewyrchu'r meysydd sydd wedi'u nodi yng Nghynlluniau Personol yr unigolion.   Roedd gwybodaeth y cofnodion dyddiol hefyd yn cynnwys canlyniadau a chyflawniadau, unrhyw weithgareddau a gwedd gyffredinol.

Mae'r darparwr yn dilyn y weithdrefn gywir o ran Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid, ac er bod y gwaith papur ar ffeil heb ei asesu ers tro, roedd tystiolaeth ar gael bod y darparwr wedi cwblhau'r cais am ailasesiad mewn modd amserol ac wedi bod mewn cysylltiad â thîm y Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid i fynd ar drywydd hyn.

Asesiadau Risg

Roedd tystiolaeth o asesiadau risg ar ffeiliau ar gyfer nifer o risgiau sy'n gysylltiedig ag anghenion unigolion.  Roedd asesiadau risg yn fanwl ac yn cynnwys canllawiau clir i staff ynglŷn â'r camau i'w cymryd i liniaru neu ymateb i risgiau pe baen nhw'n codi.  Roedd asesiadau risg wedi’u llofnodi gan staff fel tystiolaeth eu bod nhw wedi’u darllen a’u deall.

Roedd asesiadau risg wedi'u llunio a'u hysgrifennu rai blynyddoedd yn ôl ac mae angen eu diweddaru nhw.  

Nid oedd tystiolaeth ar gael bod asesiadau risg unigol yn cael eu hadolygu o fewn yr amserlenni angenrheidiol sydd wedi'u nodi mewn deddfwriaeth.

Hyfforddi a Goruchwylio Staff

Mae’r cartref yn elwa ar gael tîm sefydlog o staff, sydd wedi cynorthwyo’r preswylwyr ers blynyddoedd lawer ac sy’n wybodus iawn am anghenion gofal a chymorth y preswylwyr.

Mae gan y cartref un aelod o staff o 9am tan 12pm, dau aelod o staff o 12pm tan 9pm ac un aelod o staff o 9pm tan 9am.

Anaml mae'r cartref yn defnyddio staff o asiantaethau.  Mae staff yn hyblyg a byddan nhw'n llenwi unrhyw fylchau mewn rotâu, ac maen nhw hefyd yn gallu defnyddio staff y chwaer gartref yn y Fwrdeistref Sirol.

Mae hyfforddiant staff yn cael ei gynnal fel hyfforddiant wyneb yn wyneb neu ar-lein.  Mae cyrsiau gan dîm Datblygu Gweithlu Caerffili a Blaenau Gwent hefyd yn cael eu defnyddio.

Mae matrics hyfforddi wedi ei ddarparu.  Roedd yn amlwg bod yr holl staff wedi cwblhau cyrsiau mewn meysydd hyfforddi gorfodol ac anorfodol, fodd bynnag, roedd rhai aelodau o staff yn hwyr i fynd ar gyrsiau diweddaru.

Edrychwyd ar ddwy ffeil staff yn ystod yr ymweliad. Roedd y ddwy ffeil yn cynnwys prawf o hunaniaeth ac yn cynnwys lluniau, hanes cyflogaeth llawn a dau eirda.

Roedd tystiolaeth o wiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd i staff, ac roedd pob un yn gyfredol.

Roedd matrics goruchwylio wedi'i ddarparu, a oedd yn dangos bod y staff yn cael eu goruchwylio gan uwch aelod o staff bob tri mis.

Roedd y cofnodion goruchwylio a welwyd yn ystyrlon ac yn cynnwys safbwyntiau gan aelodau'r staff am eu llesiant, hyfforddiant, meysydd i'w datblygu, unrhyw anghenion cymorth, a nodau ac amcanion.

Er bod staff wedi cael y lefel ofynnol o oruchwyliaeth, nid oedden nhw wedi cael gwerthusiad blynyddol yn y 12 mis diwethaf.

Maeth

Nid oes amseroedd penodol ar gyfer prydau bwyd ac mae'r dewis yn cael ei roi i unigolion o ran pryd a beth yr hoffen nhw ei fwyta.

Mae diet iach yn cael ei annog cymaint â phosibl ac mae dewisiadau preswylwyr yn cael eu hystyried. Mae preswylwyr yn cael eu hannog i helpu gyda pharatoi bwyd a choginio ac maen nhw hefyd yn gallu helpu eu hunain i fyrbrydau pryd bynnag maen nhw eu hangen.

Gweithgareddau

Roedd dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolion yn amlwg o ran gweithgareddau.  Mae'r dewis a'r rheolaeth yn cael ei roi i unigolion o ran sut maen nhw'n dymuno treulio eu hamser o ddydd i ddydd.

Mae'r holl staff yn gyfrifol am weithgareddau a gwelwyd trafodaethau rhwng staff ac unigolion ynghylch gweithgareddau yn ystod y dydd.

Mae gweithgareddau wedi'u halinio â dewisiadau a gallu pobl ac mae’rcanlyniadau wedi'u cynnwys mewn cynlluniau personol.

Mae cynllunydd gweithgarwch ar waith, fodd bynnag, mae hyn yn dibynnu ar ddymuniadau'r unigolyn ar gyfer y diwrnod hwnnw.  Roedd tystiolaeth o breswylwyr yn cael blas ar dripiau i'r theatr, bowlio, sinema, a phrydau bwyd allan yn y gymuned.   Dywedodd un preswylydd wrth y swyddog monitro ei fod yn edrych ymlaen at wyliau roedd wedi'i gynllunio yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Meddyginiaeth

Roedd meddyginiaeth yn cael ei storio'n ddiogel mewn cabinet dan glo.  Mae archwiliadau'n cael eu cynnal yn fisol ac mae tystiolaeth ar gael o wirio stoc, meintiau dos, dyddiadau dod i ben a chwblhau siartiau Cofnod Rhoi Meddyginiaethau.

Cafodd y siartiau Cofnod Rhoi Meddyginiaethau eu hadolygu a chanfuwyd eu bod nhw wedi'u cwblhau'n gywir heb golli unrhyw ddosau.

Iechyd a Diogelwch Tân

Mae gwiriadau cynnal a chadw rheolaidd yn cael eu cyflawni a'u cofnodi, gan gynnwys larymau tân, goleuadau argyfwng ac ati.

Cafodd yr asesiad tân annibynnol diwethaf ei gynnal ym mis Medi 2020 ac roedd y ddau argymhelliad o'r adroddiad wedi'u cwblhau.

Mae driliau tân yn cael eu cynnal yn rheolaidd ac yn cael eu hamseru a'u cofnodi.

Mae Cynlluniau Personol Gadael mewn Argyfwng yn eu lle ar gyfer pob preswylydd ac yn rhoi cyfarwyddiadau clir i staff os oes angen gwacáu'r eiddo a hefyd yn gwahaniaethu rhwng gwacáu yn ystod y dydd a gwacáu yn ystod y nos.

Nid oes unrhyw ddamweiniau wedi eu cofnodi yn y cartref o fewn y 12 mis diwethaf.

Mae'r cartref wedi cadw ei sgôr 5 seren yn dilyn yr arolygiad diweddaraf gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, sy'n dangos bod safonau hylendid bwyd yn cael eu dilyn yn gywir a'u bod nhw'n rhagorol.

Yr Amgylchedd

Mae'r cartref yn gynnes a chroesawgar, ac wedi'i addurno a'i gynnal a'i gadw i safon uchel drwyddo draw.

Roedd yr eiddo'n lân ac yn daclus drwyddo draw heb unrhyw beryglon nac arogleuon drwg.

Mae ystafelloedd preswylwyr wedi'u haddurno'n unigol gyda llawer o arddangosiadau personol ac eitemau sy'n bwysig i unigolion.

Mae'r cartref wedi elwa ar waith adnewyddu eleni gyda chegin newydd yn cael ei gosod a'r ystafell wag yn cael ei haddurno'n llawn, gyda gwely a dodrefn newydd wedi'u prynu.

Mae lolfa gymunedol fawr ac ystafell fwyta ar wahân, ac ardal batio braf y tu ôl i'r eiddo. Mae ystafelloedd ymolchi yn lân ac yn hygyrch i unigolion.

Sicrwydd Ansawdd

Darparodd y rheolwr gopïau o archwiliadau ansawdd y cartref, sy'n cael eu cynnal bob chwe mis yn unol â'r rheoliadau.

Roedd yr archwiliadau ansawdd yn cynnwys yr holl adborth angenrheidiol gan randdeiliaid, staff a phreswylwyr, dadansoddiad o batrymau a thueddiadau, a chanlyniadau ymweliadau monitro chwarterol yr Unigolyn Cofrestredig.

Mae'r adroddiad yn cael ei ddadansoddi ac mae cynllun gweithredu yn cael ei lunio o ganfyddiadau'r adroddiad gydag arweiniad clir ar ba gamau i'w cymryd, gan bwy a dyddiad ar gyfer cyflawni pob cam gweithredu.

Mae ymweliadau rheolaidd yn cael eu trefnu gan yr Unigolyn Cofrestredig ac roedd yr adroddiadau chwarterol ar gael i’r swyddog monitro eu gweld.   Roedd dyddiad ar yr adroddiadau ac roedden nhw'n cael eu cynnal o fewn yr amserlenni sydd wedi'u nodi yn y rheoliadau.

Roedd yr adroddiad yn ymdrin ag elfennau o'r gwasanaeth megis adborth gan y preswylwyr, yr amgylchedd, staffio, arweinyddiaeth, adolygiadau o unrhyw bryderon, canmoliaeth a chwynion, ac roedd yn cynnwys unrhyw gamau gweithredu a nodwyd o'r ymweliad.

Cyffredinol

Mae'r ddau breswylydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili sy'n byw yn y cartref wedi ymgartrefu ac wedi byw yno ers blynyddoedd lawer.  Roedd perthynas ardderchog rhyngddyn nhw a’r staff, sy'n amlwg yn wybodus am eu hanghenion gofal a chymorth.

Nid yw'r tîm Comisiynu wedi clywed unrhyw bryderon na chwynion am y cartref.

Cafodd y staff eu gweld yn cyfathrebu ac yn ymgysylltu'n dda â'r preswylwyr drwy gydol yr ymweliad.

Mae gan y cartref y polisïau a'r gweithdrefnau angenrheidiol ar waith i gynorthwyo staff a phreswylwyr a chaiff y rhain eu hadolygu'n flynyddol.

Cafodd proses drosglwyddo ei gweld wrth ymweld â'r cartref ac fe gafodd ei gyfathrebu'n glir wyneb yn wyneb, yn ogystal â'i gofnodi mewn llyfr trosglwyddo.

Mae’r staff yn cael eu cynorthwyo yn eu rolau gan Reolwr ac Unigolyn Cofrestredig, sy’n hygyrch ac yn treulio llawer o amser yn y cartref.

Mae preswylwyr yn cael dewis a rheolaeth dros eu bywydau bob dydd ac yn cael eu cynorthwyo i gyflawni nodau a chanlyniadau y cytunwyd arnynt.

Camau Unioni / Datblygiadol

Camau Unioni

Mae'n rhaid i Gynlluniau Personol ac asesiadau risg gael eu hadolygu'n barhaus a chael eu diwygio a'u datblygu i adlewyrchu newidiadau yn anghenion gofal a chymorth a chanlyniadau personol unigolion. (Rheoliad 16, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016).

Dylai'r unigolyn neu gynrychiolydd lofnodi Cynlluniau Personol, lle bo'n briodol, i ddangos tystiolaeth eu bod nhw wedi bod yn rhan o'r gwaith o gydgynhyrchu'r cynllun, neu bod rheswm yn cael ei ddogfennu pam na fyddai hyn yn bosibl. (Rheoliad 15, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016)

Ar ôl cwblhau unrhyw adolygiad, rhaid i'r darparwr ystyried a ddylid adolygu'r Cynllun Personol a/neu'r asesiad risg, a diwygio'r cynllun yn ôl yr angen. (Rheoliad 16, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016)

Rhaid cynnal adolygiadau sy'n cynnwys yr unigolyn a, lle bo'n briodol, gyda chytundeb yr unigolyn a'i gynrychiolydd. (Rheoliad 16, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016)

Rhaid i staff fod yn ymwybodol o'r holl gyrsiau hyfforddi a chyrsiau gloywi gorfodol diweddaraf.  (Contract Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili 13.3).

Rhaid i bob aelod o staff gael gwerthusiadau blynyddol sy'n rhoi adborth ar eu perfformiad a nodi meysydd i'w hyfforddi a'u datblygu er mwyn eu cynorthwyo nhw yn eu rôl. (Rheoliad 36, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016)

Camau Datblygiadol

Archifo gwybodaeth hanesyddol mewn ffeiliau i sicrhau bod yr wybodaeth yn gyfredol ac yn adlewyrchu anghenion gofal a chymorth yr unigolion.

Casgliad

Roedd awyrgylch croesawgar a chyfeillgar yn y cartref.  Roedd y staff yn wybodus am anghenion gofal a chymorth y bobl roedden nhw'n eu cynorthwyo ac fe gafodd rhyngweithio a chyfathrebu da eu gweld. Roedd unigolion yn ymlaciol mewn amgylchedd cartref cyfforddus.

Hoffai'r Swyddog Monitro ddiolch i breswylwyr a staff am eu hamser a'u croeso yn ystod yr ymweliad monitro.

  • Awdur: Ceri Williams
  • Swydd: Swyddog Monitro Contractau
  • Dyddiad: 31/03/2023