Adrodd am bryderon ynghylch gwasanaeth gofal 

Mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn croesawu clywed am eich pryderon, eich sylwadau a’ch canmoliaeth ynglŷn ag unrhyw  ddarparwr gwasanaeth y mae’r Arolygiaeth yn eu rheoleiddio .Fe allai’r rhain gynnwys:

  • cartrefi gofal

  • asiantaethau nyrsio a gofal cartref

  • cartrefi plant

  • gofalwyr plant

  • meithrinfeydd a gwasanaethau blynyddoedd cynnar eraill

  • a llawer mwy 

Mae fideothaflen newydd AGCC yn amlinellu pa mor hawdd yw hi i godi pryder a pham eu bo dyn gwerthfawrogi ymateb, da neu ddrwg, yn fawr.

Sut i gysylltu ag AGGCC

Gall aelodau o'r cyhoedd, gofalwyr, gweithwyr gofal neu unrhyw un sy'n dod i gysylltiad â gwasanaethau gofal godi pryder neu roi adborth mewn nifer o ffyrdd: