Pryd ar glud
Yn 2014, rhoddodd Cymdeithas Arlwyo Awdurdod Lleol Cymru y teitl tîm Arlwyo Arbenigol i’n tîm pryd ar glud 'Meals Direct’ oherwydd y gwasanaeth hanfodol a ddarperir i nifer o bobl sy’n gaeth i’r tŷ neu’n anabl. Rydym yn darparu tua 125,000 o brydau y flwyddyn, i helpu pobl gadw eu hannibyniaeth a sicrhau bod popeth yn iawn yn y cartref.
Pwy all ddefnyddio'r gwasanaeth?
Gall unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth heb ei danysgrifio ar gost:
- Pryd poeth a phwdin - £5.78
- Brechdan - £2.39
- Pryd wedi'i rewi - £5.78
Fel arall, efallai y byddwch yn gymwys i gael gwasanaeth gyda chymhorthdal os oes tystiolaeth o'r canlynol:
- nid ydych yn gallu paratoi prydau i chi'ch hun
- ni all unrhyw un arall ddarparu prydau
- mae risg sylweddol i chi os na ddarperir prydau rheolaidd
Y costau gwasanaeth wedi’u tanysgrifio yw:
- Pryd poeth a phwdin - £3.43
- Brechdan - £1.77
- Pryd wedi'i rewi - £3.43
Os nad ydych yn derbyn pryd ar glud a hoffech gael gwybod os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod yn gymwys am y gwasanaeth â chymhorthdal cysylltwch ag ASDIT.
Gwybodaeth am alergenau
Mae rhai o’n cynhyrchion yn cynnwys cnau ac alergenau eraill. Oherwydd y ffordd y caiff ein cynhyrchion eu trin, gallai alergenau fod yn unrhyw un o’n cynhyrchion.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch ar gynnwys alergenau ein bwydydd, cysylltwch â ni a byddwn yn hapus i’ch helpu.
Sut caiff y prydau eu darparu?
Mae fflyd o faniau pwrpasol yn danfon prydau poeth neu wedi'u rhewi, brechdanau neu gymysgedd o’r tri, yn syth i'ch cartref. Rydym yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau.
Pryd mae’r gwasanaeth yn gweithredu?
Rydym yn danfon prydau o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 11.30am a 2pm yn syth i’ch cartref neu glwb cinio. Gellir archebu prydau wedi’u rhewi ar gyfer y penwythnosau.
Gallwch ddewis pa ddiwrnodau yr hoffech i'ch prydau gael eu danfon ond bydd rhaid i ni ddewis amser yn unol â’n hamserlen danfoniadau ar gyfer eich ardal chi.
Archebu pryd
Os hoffech bryd heb gymhorthdal neu os ydych wedi’ch asesu gan y gwasanaethau cymdeithasol ac yn gymwys i gael prydau â chymhorthdal gan Meals Direct, gallwch archebu pryd drwy ffonio 01495 235087 neu anfon e-bost i meals@caerphilly.gov.uk.
Gallwch archebu eich prydau o ddydd Llun i ddydd Iau rhwng 8.30am a 5pm ac ar ddydd Gwener rhwng 08:30 a 4pm. .
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth a chyngor cysylltwch â’n tîm cyfeillgar ar 01495 235087.