FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Nid yw rhai o'n ffurflenni ar-lein ar gael ar hyn o bryd wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.

ONLINE FORMS: Some of our online forms are currently unavailable whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Cyffuriau ac alcohol

Nodau cyffredinol ein tîm Gwasanaethau Cymdeithasol -Cyffuriau ac Alcohol yw:

  • Lleihau’r niwed a achosir yn sgil camddefnyddio cyffuriau ac alcohol.
  • Cynyddu’r ymwybyddiaeth o ran y problemau sy’n gysylltiedig â chyffuriau ac alcohol.
  • Gwella gallu unigolion sy’n cael problemau gyda chamddefnyddio cyffuriau ac alcohol  i gael gafael ar wasanaethau. 

Mae llawer o bobl yn yfed neu’n defnyddio cyffuriau, ac wrth gwrs, mae yfed yn ymddygiad cymdeithasol normal. Os ydych yn defnyddio gormod ar y naill a’r llall a bod hynny’n  effeithio ar eich gallu i weithio neu sicrhau perthnasoedd da, mae'n bosib bod angen help arnoch.  Rydym yn cynnig gwasanaeth i bobl sy’n cael problemau yn sgil cyffuriau ac alcohol ac sydd hefyd

  • Yn gofyn am wasanaeth ailsefydlu preswyl, neu sydd ag
  • Anableddau dysgu
  • Wedi cael diagnosis iechyd meddwl, neu sydd
  • Â phlant yr aseswyd eu bod mewn angen, neu angen eu diogelu

Gall unrhyw un sy'n gofyn am y gwasanaeth hwn ddisgwyl asesiad cynhwysfawr o'i broblemau a'i anghenion gan nodi'r hyn sy'n bwysig i'r unigolyn. Os yw'n briodol, efallai gallwn drefnu gwasanaethau i ddiwallu'r anghenion hyn. Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol proffesiynol uniongyrchol a gallai hyn gynnwys:

  • Rhoi cyngor
  • Cyfweld ysgogiadol
  • Ymyriadau byr
  • Therapi sy’n Canolbwyntio ar Atebion
  • Ymarfer sy'n canolbwyntio ar dasgau
  • Therapi Gwybyddol Ymddygiadol
  • Cwnsela sy’n canolbwyntio ar y person
  • Atal llithro yn ôlAilsefydlu preswyl 

I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn, cysylltwch â Thîm Cyffuriau ac Alcohol CBSC.

Tîm Cyffuriau ac Alcohol CBSC 
Tŷ Siriol
49 St Martins Road
Caerffili
CF83 1EG
Ffôn: 02920 859872
Ffacs: 02920 869835  

jonesjt@caerphilly.gov.uk

Mae ein swyddfeydd ar agor 5 diwrnod yr wythnos,

dydd Llun i ddydd Iau 08:30am tan 5pm
dydd 8:30am tan 4:30pm

Gellir trefnu ymweliadau y tu allan i oriau swyddfa os bydd angen.

Gellir cyfeirio pobl drwy gysylltu â  Tîm Gwybodaeth, Cynghorion a Chymorth.

Curo Caethiwed Gyda'n Gilydd

Mae OK Rehab yn arbenigo mewn trin caethiwed. Mae'r driniaeth hon ar gael trwy ddarparwyr triniaeth cleifion mewnol a chleifion allanol. Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda chlinigau sy'n gallu hwyluso triniaeth sy'n digwydd yn eich cartref eich hun, sy'n gallu darparu ymyrraeth broffesiynol a dadwenwyno yn y cartref.

https://www.okrehab.org/

Cysylltwch â ni