Cael help a chymorth
Cydnabod eich bod yn ofalydd yw’r cam cyntaf. Gall dilyn y deg cam nesaf eich rhoi ar ben y ffordd o ran cael y cymorth a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch.
Cam1: Cofiwch mai gofalydd ydych!
Cydnabod eich bod yn ofalydd yw'r cam cyntaf o ran cael y cymorth sydd ei angen arnoch. Nid yw llawer ohonom yn ystyried ein hunain yn ofalyddion yn syth: rydyn ni’n famau a thadau, gwŷr, gwragedd, partneriaid, brodyr, chwiorydd, ffrindiau a chymdogion. Yn syml, rydym yn gwneud yr hyn y byddai unrhyw un yn ei wneud, gofalu'n ddi-dâl am anwylyd neu ffrind, ei helpu pan na all wneud pethau drosto ei hun. Y gwir yw eich bod hefyd yn ofalydd, a bod pethau y mae angen i chi wybod. Does neb yn hoffi cael ei labelu, ond gall cydnabod eich bod yn ofalyddion fod yn borth i gael amrywiaeth o help a chymorth.
Cam 2: Cynnwys eich teulu a ffrindiau
Mae llawer o ofalyddion yn troi at eu teulu a ffrindiau i gael cymorth ac i’w helpu i gymryd seibiant o’r gofalu. Mae’n bwysig nad ydych yn ceisio ymdopi ar eich pen eich hun, oherwydd gall hynny effeithio ar eich iechyd personol. Siaradwch â'ch teulu a ffrindiau a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod hyd a lled eich rôl gofalu. Efallai nad yw’r teulu neu ffrindiau yn sylweddoli faint o ofal yr ydych yn ei roi, efallai eu bod yn teimlo embaras neu ddim am i chi feddwl eu bod yn busnesa. Efallai bod pobl eraill yn gyndyn o ofyn a oes angen help arnoch rhag ofn i chi gamddeall a meddwl eu bod nhw’n dweud nad ydych yn ymdopi’n dda. Yn anffodus, nid yw rhai pobl yn gwybod sut i ymateb i salwch neu anabledd ac yn teimlo’n anesmwyth yn ei gylch, felly efallai y bydd rhaid i chi gychwyn y sgwrs.
Cam 3: Dweud wrth eich meddyg
Er nad oes cofrestr genedlaethol ar gael i ofalyddion, sicrhewch eich bod yn dweud wrth eich meddyg eich bod yn ofalydd, a gofynnwch iddo ysgrifennu’r manylion ar eich nodiadau. Os os tipyn o siâp ar eich meddyg bydd yn sicrhau, fel gofalydd, y byddwch yn cael asesiad iechyd yn rheolaidd, ac os oes angen hynny, brechiad rhag y ffliw. Os ydyn nhw'n gwybod eich bod yn ofalydd, mae rhai meddygfeydd yn cynnig mwy o hyblygrwydd o ran apwyntiadau, neu’n fwy parod i ymweld â chi yn eich cartref. Mae gofalyddion yn bobl brysur iawn ac weithiau nid oes ganddyn nhw ddigon o amser i ofalu am eu hiechyd eu hunain. Gall meddyg da, sy'n deall gofalyddion, fod yn borth i gael gafael ar bob mathau o help megis cwnsela, gwasanaethau meddygol eraill, ac atgyfeiriadau i'ch Gwasanaethau Cymdeithasol lleol.
Cam 4: Dweud wrth y Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i ofalyddion a phobl ag anableddau. Dylech gysylltu â nhw o'r cychwyn cyntaf, gan ei bod yn bwysig eu bod yn gwybod am y person yr ydych yn gofalu amdano.
Fel gofalydd, mae hawl gennych i gael asesiad gofalydd, sy’n edrych ar eich anghenion chi a sut y gallwch chi, fel gofalydd, gael cymorth. Gall y Gwasanaethau Cymdeithasol gynnig gofal dros dro i chi gael seibiant, helpu gyda chymhorthion ac addasiadau i wneud bywyd yn haws neu ddim ond bod wrth gefn mewn argyfwng.
Gallwch ffonio eich Gwasanaethau Cymdeithasol yn uniongyrchol a siarad â nhw am eich rôl fel gofalydd. Hyd yn oed os nad ydych am gael asesiad gofalydd, mae'n syniad da rhoi gwybod i'r Gwasanaethau Cymdeithasol eich bod yn ofalydd, rhag ofn y bydd angen cymorth brys arnoch ar ryw adeg.
Cam 5: Dweud wrth bobl yn y gwaith
Fel gofalydd sy’n gweithio, rydych yn debygol o fod angen gwahanol gymorth ar wahanol adegau - o’r gallu i ddefnyddio teleffon i gysylltu â’r person yr ydych yn gofalu amdano, i drefnu gwyliau i gyd-fynd â rhyddhau claf o’r ysbyty. Nid yw dweud wrth bobl yn y gwaith eich bod yn ofalydd yn gam hawdd bob amser a gallech deimlo bod hynny'n dibynnu ar p'un ai yw eich cyflogwr yn debygol o fod yn gefnogol neu beidio. Holwch, drwy ofyn i’ch cydweithwyr, swyddog personél neu gynrychiolydd undeb llafur. Efallai bod cymorth nad ydych yn gwybod amdano ar gael, neu efallai y byddwch yn canfod bod eich cyflogwr yn agored i ystyried ffyrdd o gefnogi gofalyddion. Gall cydweithwyr fod yn gefnogol dros ben, a gall fod yn help mawr i chi drafod eich sefyllfa â rhywun y gallwch ymddiried ynddo yn y gwaith. Efallai y byddwch yn taro ar gydweithwyr eraill sy'n ofalyddion, a chyda’ch gilydd eich bod yn gallu siarad â’ch cyflogwr yn well am ffyrdd y gall eich cefnogi.
Cam 6: Hawlio eich hawliadau
Mae’r system fudd-daliadau yn gymhleth, ac mae llawer o bobl y mae gofalu yn rhywbeth newydd iddynt yn ansicr o ran beth i'w hawlio. Nid yw llawer o bobl yn awyddus iawn i hawlio budd-daliadau oherwydd profion modd a ffurflenni cymhleth, ond cofiwch fod y system yno i’ch helpu a bod gennych hawl i wneud cais. Mae nifer o fudd-daliadau ar gael i ofalyddion, ac un o’r pethau pwysicaf i’w wneud yw sicrhau bod y wybodaeth berthnasol gennych. Gall budd-daliadau fod yn borth i gael help arall, megis gostyngiadau yn y Dreth Gyngor.
Cam 7: Dod o hyd i’ch grŵp gofalyddion agosaf
Mae grwpiau gofalyddion a chanolfannau gofalyddion oll yn rhoi cymorth i ofalyddion drwy gynnig gwybodaeth, trefnu digwyddiadau cymdeithasol a rhoi cyfle i ofalyddion siarad â gofalyddion eraill am eu problemau neu brofiadau. Mae llawer o’r gofalyddion yr ydyn ni’n siarad â nhw yn teimlo bod grwpiau gofalyddion o gymorth mawr iddynt.
Cam 8: Gofalu amdanoch eich hun
Mae’n hawdd esgeuluso eich hun pan fyddwch yn brysur yn gofalu am rywun arall. Fodd bynnag, fel gofalydd, mae’n bwysig eich bod yn gofalu amdanoch eich hun. Ni fyddwch o unrhyw ddefnydd i'r person yr ydych yn gofalu amdano os ydych yn gwneud eich hun yn sâl drwy ofalu. Yn anffodus, mae un gofalydd o bob pump yn dweud bod eu hiechyd yn dioddef o ganlyniad uniongyrchol i ofalu. Er enghraifft, heb hyfforddiant priodol mae gofalyddion yn agored iawn i broblemau gyda’u cefnau. Mae rhai o’r problemau iechyd mwyaf difrifol y mae gofalyddion yn dioddef ohonynt, megis clefyd y galon neu waeledd meddyliol, yn ganlyniad uniongyrchol i straen. Mae gofalu heb seibiant, heb gwsg digonol a heb gymorth yn achosi llawer o straen. Mae’n bwysig eich bod yn cydnabod hynny ac yn ei ystyried o ddifrif. Cofiwch, gall dim ond y seibiant byrraf wneud gwahaniaeth, felly ceisiwch sicrhau eich bod yn gwneud rhywbeth drosoch chi eich hun.
Cam 9: Meddwl am y dyfodol
Er y gall ystyried hynny fod yn anodd, fe ddaw cyfnod pan na fyddwch yn gofalu rhagor. Pan fydd y gofalu yn dod i ben gall fod yn anodd iawn. Drwy wynebu’r dyfodol ac ystyried bywyd ar ôl gofalu gallwch leihau'r sioc pan ddaw'r cyfnod hwnnw. Mae llawer o bobl yn dweud pan ddaw'r gofalu i ben eu bod yn teimlo ar goll, heb bwrpas na chyfeiriad. Er bod gofalu yn gallu bod yn ddi-dor, mae’n bwysig eich bod yn ceisio dal gafael yn eich bywyd eich hun cymaint â phosibl – gwaith, ffrindiau, diddordebau.
Cam 10: Cymorth Carers UK
Carers UK ydy llais gofalyddion. Mae gennym hanes o gyflawni, a adeiladwyd dros 40 mlynedd, oherwydd ein bod yn cynnwys gofalyddion a chyn-ofalyddion. Mae ein haelodau yn gwybod y gwir am ofalu ac yn rhoi’r awdurdod a’r wybodaeth i Carers UK i'w galluogi i barhau i bwyso am newid.
Sefydliad aelodaeth yn cynnwys gofalyddion, a arweinir gan ofalyddion i ofalyddion ydy Carers UK. Mae gofalyddion wrth wraidd ein holl waith, yn siapio ein hymgyrchoedd, yn helpu i ledaenu ein neges yn y cyfryngau ac yn gweithredu i sicrhau newid ar lefel lleol a chenedlaethol.
Cymorth i Ofalyddion Taflen Wybodaeth