Delio ag argyfyngau
Paratoi ar gyfer argyfyngau
Mae llawer o ofalyddion sy’n rhoi gofal a chymorth di-dâl i aelod o’r teulu neu ffrind yn dewis ymdopi heb fawr neu ddim help o gwbl o’r tu allan, ond gallant boeni beth i’w wneud petai rhai sefyllfaoedd brys yn codi. Mae felly yn helpu i feddwl beth y gallech ei wneud petaech yn wynebu argyfwng ar unrhyw adeg, un ai yn ystod y dydd, neu yn y nos, ar benwythnosau.
Mae gofalyddion yn aml mor brysur yn delio â digwyddiadau bob dydd fel nad oes digon o amser ganddynt hyd yn oed i feddwl am gynllunio ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag, gall meddwl beth allai ddigwydd atal anffawd rhag troi’n drychineb, a helpu i leihau’r straen i bawb sy’n gysylltiedig â’r achos.
Ni all bod yn barod atal argyfyngau ond gall eu gwneud yn ychydig haws ymdopi â nhw ar adeg pan fo angen hynny arnoch fwyaf.
Mae’r daflen isod yn esbonio rhai o’r problemau y dylech feddwl amdanynt ynghyd â Chynllun Argyfwng Gofalydd y gallech ei gwblhau.
Canllaw gofalydd i gynllunio ar gyfer argyfyngau
Cardiau argyfwng i ofalyddion
Os ydych chi’n edrych ar ôl rhywun sydd angen gofal, help neu gymorth oherwydd bod ganddynt salwch, anabledd neu eu bod yn oedrannus a bregus, yna bydd cerdyn argyfwng gofalydd yn helpu i roi tawelwch meddwl i chi. Bydd y cerdyn yn galluogi pobl i nodi’n gyflym eich bod yn ofalydd mewn argyfwng.
Dylech fynd â'r cerdyn gyda chi bobman. Os bydd damwain neu argyfwng yn codi, yna bydd y cerdyn yn rhoi gwybod i’r gwasanaethau brys bod rhywun gartref na allant ymdopi heb help neu gymorth. Byddant wedyn yn cysylltu â’r rhif ar gefn y cerdyn fel y gall rhywun helpu'r person yr ydych chi'n gofalu amdano.
Os hoffech gael Cerdyn Argyfwng Gofalydd, cysylltwch â’r Gweithiwr Cymorth Gofalyddion.