Gofalu am Gaerffili
Beth yw ‘Gofalu am Gaerffili’?
Bydd tîm 'Gofalu am Gaerffili', tîm o staff sefydledig Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn cynnig gwasanaeth brysbennu newydd wedi'i drefnu'n ganolog er mwyn ymateb i drigolion y Fwrdeistref Sirol hynny sydd angen cymorth gyda materion fel tlodi bwyd, ôl-ddyledion dyled neu rent, unigedd neu unigrwydd.
Nod ‘Gofalu am Gaerffili’ yw cynnig un pwynt cyswllt i’r unigolyn gyda’r tîm a fydd yn cynorthwyo’r unigolyn hwnnw i fynd at wraidd ei fater, sy'n golygu mai dim ond unwaith y bydd angen iddo egluro ei sefyllfa.
Yna bydd y tîm yn cysylltu â'r gwasanaethau presennol, yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a gyda phartneriaid, gan gynnwys y sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol lleol, gan gefnogi'r unigolyn hwnnw ar ei daith gyda'r gwasanaethau amrywiol hynny, o'r dechrau i'r diwedd.
Pa fathau o gymorth y gall Gofalu am Gaerffili eu cynnig?
Mae hwn yn fodel tymor hir ar gyfer cynnig cymorth cyfannol i drigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili, ond bydd ffocws cychwynnol tîm Gofalu am Gaerffili ar helpu'r trigolion gyda'r canlynol:
- Cymorth ariannol - cymorth gyda dyled, budd-daliadau a sicrhau'r incwm mwyaf posibl
- Mynd i'r afael â thlodi bwyd – gan gynnwys atgyfeiriadau at Fanciau Bwyd, grantiau ar gyfer grwpiau cymunedol
- Helpu unigolion i gael mynediad at raglenni cymorth cyflogaeth
- Mynd i'r afael ag unigedd ac unigrwydd - trwy gysylltiadau â grwpiau lleol a/neu’r rhaglen wirfoddoli o’r enw’r Cynllun Cyfeillio
- Cymorth ymarferol ar gyfer unigolion sydd angen help sy'n gysylltiedig â COVID-19
- Ymyrraeth gynnar - er enghraifft cymorth iechyd meddwl a phresgripsiynu cymdeithasol
- Adeiladu ar bartneriaethau gyda grwpiau cymunedol
Yr hyn NAD yw Gofalu am Gaerffili
Er bod cylch gwaith y cymorth y gall tîm Gofalu am Gaerffili ei ddarparu yn eang, mae yna ambell beth nad yw Gofalu am Gaerffili.
Nid yw yn:
- Canolfan alwadau neu switsfwrdd - mae angen i unrhyw atgyfeiriadau a wneir at y tîm fod yn benodol iawn i gylch gorchwyl Gofalu am Gaerffili fel yr eglurir yn y ddogfen hon
- ‘Ymbarél’ ar gyfer ceisiadau am wasanaethau'r Cyngor
- Gwasanaeth amnewid ar gyfer gwasanaethau eraill
Mae tîm Gofalu am Gaerffili yn dîm ymroddedig a brwdfrydig ond bach iawn, ac mae angen iddynt flaenoriaethu cymryd atgyfeiriadau sy'n benodol i gylch gwaith yr hyn y gall Gofalu am Gaerffili ei gynnig.
Dyma rai enghreifftiau o astudiaethau achos o Gofalu am Gaerffili ar waith
Astudiaeth achos 1 - Trigolyn A
Cafodd tîm Gofalu am Gaerffili atgyfeiriad cychwynnol ar gyfer parsel banc bwyd ar gyfer Trigolyn A. Esboniodd y trigolyn ei fod yn profi anhawster ariannol ac amgylchiadau personol anodd eraill.
Ymatebwyd i'r cais cychwynnol (am barsel banc bwyd), ond hefyd, cynhaliodd y Tîm Rhenti wiriad budd-daliadau lles a chynorthwyo Trigolyn A gyda hawlio budd-daliadau amrywiol nad oedd yn sylweddoli bod ganddo'r hawl iddynt.
Helpodd Swyddogion Cymorth Tenantiaeth Tai y trigolyn i wneud cais am y cynllun HelpU i'w helpu i ostwng ei filiau dŵr a hefyd i wneud cais am brydau ysgol am ddim
Gwnaeth Tim Gofalu am Gaerffili atgyfeiriadau hefyd at y Rhwydwaith Rhieni, Teuluoedd yn Gyntaf a grŵp cymunedol lleol am gymorth ychwanegol i Drigolyn A.
Y canlyniad?
Cymorth cyfannol a ddarparwyd gan nifer o adrannau ar ôl cael ei atgyfeirio drwy un pwynt cyswllt. Mae'r unigolyn yn well ei fyd yn ariannol ac yn gallu byw'n fwy annibynnol.
Astudiaeth achos 2 - Trigolyn H
Daeth yr atgyfeiriad hwn i mewn drwy Dîm Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (Gwasanaethau Cymdeithasol) y Cyngor. Ar ôl symud i'r gymuned leol o loches yn ystod y cyfyngiadau symud, roedd angen help ar Drigolyn H.
Atgyfeiriwyd y trigolyn at y cynllun FareShare lleol i gael bag wythnosol o siopa. Atgyfeiriwyd hefyd at Dechrau'n Deg a'r Rhwydwaith Rhieni i helpu Trigolyn H a'i blant i wneud ffrindiau newydd oherwydd nad oedden nhw'n dod o'r ardal.
Cynorthwywyd y trigolyn i gael mynediad at fanc gwisgoedd ysgol er mwyn paratoi ei blant i ddechrau yn yr ysgol - nid oedd y trigolyn yn gallu prynu eitemau oherwydd y cyfyngiadau symud a'r gost.
Atgyfeiriwyd y trigolyn at Cartrefi Caerffili i gynnal gwiriad cymhwysedd am fudd-daliadau, ac fe'i atgyfeiriwyd hefyd at y gweithiwr cymorth Pobl lleol.
Y canlyniad?
Unwaith eto, pecyn cymorth a ddarparwyd gan nifer o adrannau a sefydliadau ar ôl cael ei atgyfeirio i dîm Gofalu am Gaerffili gan dîm Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth. Dim ond unwaith yr oedd yn rhaid i’r unigolyn ‘adrodd ei stori’, a cafodd gymorth o’r dechrau i’r diwedd ar ei daith.
Beth arall y mae Gofalu am Gaerffili yn anelu at ei wneud?
Mae model Gofalu am Gaerffili yn cael ei danategu gan yr egwyddorion yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Bydd y tîm yn parhau i weithio ochr yn ochr â'r sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol, gan adeiladu ar lwyddiant yr Ymateb Cymunedol COVID-19 a amlygodd gryn dipyn o ysbryd cymunedol.
Nod y dull cymunedol hwn yw:
- Adeiladu ar lwyddiant yr Ymateb Cymunedol COVID-19
- Hwyluso’r Cyngor, y sector gwirfoddol a chymunedau yn gweithio gyda'i gilydd mewn partneriaeth
- Defnyddio asedau mewn cymunedau - gwneud y defnydd gorau o'r sgiliau, yr wybodaeth a'r rhwydweithiau cymdeithasol sydd ar gael mewn cymunedau, ynghyd â chymorth cymheiriaid i gefnogi eraill
- Cysylltu â grwpiau a gweithgareddau cymunedol
- Harneisio a defnyddio'r gwytnwch cymunedol a ddangoswyd mewn ardaloedd ledled yr ardal
Sut alla i atgyfeirio fy hun at Gofalu am Gaerffili am gymorth?
Fel yr amlygwyd uchod, y ffocws cychwynnol ar gyfer Gofalu am Gaerffili yw cefnogi unigolion a chymunedau gyda:
- Cymorth ariannol - cymorth gyda dyled, budd-daliadau a sicrhau'r incwm mwyaf posibl
- Mynd i'r afael â thlodi bwyd – gan gynnwys atgyfeiriadau at Fanciau Bwyd, grantiau ar gyfer grwpiau cymunedol
- Helpu unigolion i gael mynediad at raglenni cymorth cyflogaeth
- Mynd i'r afael ag unigedd ac unigrwydd - trwy gysylltiadau â grwpiau lleol a/neu’r rhaglen wirfoddoli o’r enw’r Cynllun Cyfeillio
- Cymorth ymarferol ar gyfer unigolion sydd angen help sy'n gysylltiedig â COVID-19
- Ymyrraeth gynnar - er enghraifft cymorth iechyd meddwl a phresgripsiynu cymdeithasol
Os ydych chi'n byw, neu’n cynorthwyo rhywun, ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ac yn profi problemau gydag un neu fwy o'r rhain - hoffai tîm Gofalu am Gaerffili glywed gennych chi.
Mae tîm Gofalu am Gaerffili ar gael yn ystod oriau swyddfa - Dydd Llun-Dydd Iau (8.30am-5pm) a Dydd Gwener (8.30am – 4.30pm).
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol neu geisiadau am wasanaethau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, parhewch i ddefnyddio prif rif y switsfwrdd.