Grant Hanfodion Ysgol (Yn disodli'r Grant Datblygu Disgyblion) 2023/2024

Mae'r grant hwn yn rhoi £125 (ac eithrio blwyddyn 7 sy'n cael £200) i brynu gwisg ysgol, offer, gwisg chwaraeon, a gwisg ar gyfer gweithgareddau y tu allan i'r ysgol i'ch plentyn.

Bydd y cynllun ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 yn dechrau ar 1 Gorffennaf 2023 ac yn dod i ben ar 31 Mai 2024.

Sylwch fod y cynnydd blwyddyn yn unig o £100 (2022/23) ar werth y grant hwn bellach wedi dod i ben.

Mae'r grant hwn yn berthnasol i bob disgybl cymwys o grwpiau blwyddyn gorfodol (Derbyn – Blwyddyn 11), Plant sy'n Derbyn Gofal, a'r rhai sy'n cael eu hystyried fel Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus.

Gall dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd gael y grant hwn os ydyn nhw:

  • yn dechrau yn y dosbarth derbyn, blwyddyn 1, 2, 3, 4, 5 a 6 yn yr ysgol gynradd ym mis Medi 2023
  • yn dechrau blwyddyn 7, 8, 9, 10 ac 11 yn yr ysgol uwchradd ym mis Medi 2023
  • yn 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14 neu 15 oed mewn ysgol arbennig, canolfan adnoddau anghenion arbennig neu uned cyfeirio disgyblion (grwpiau blwyddyn fel y manylir uchod).
  • Y grant ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 7 yw £200, gan gydnabod y costau uwch sydd yn gysylltiedig â dechrau’r ysgol uwchradd.

Mae'r cyllid hwn ar gyfer disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd, ac nid yw'n ymestyn i gynnwys y disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim oherwydd trefniadau “amddiffyn wrth bontio” neu Brydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion.

Os ydych chi'n credu eich bod chi'n gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim ac nad ydych chi wedi gwneud cais eisoes, yna llenwch ein ffurflen gais Prydau Ysgol Am Ddim ar-lein.

Mae'r cyllid ar gael i BOB plentyn o oedran ysgol gorfodol sy'n derbyn gofal, ni waeth beth fo’u hawl i gael prydau ysgol am ddim

Mae modd defnyddio'r arian i brynu:

  • Gwisg ysgol, gan gynnwys cotiau ac esgidiau; 
  • Gwisg chwaraeon ysgol, gan gynnwys esgidiau;
  • Gwisg ar gyfer gweithgareddau ehangach, er enghraifft chwaraeon, sgowtiaid a geidiaid;
  • Offer ysgol lle mae gweithgareddau cwricwlwm newydd yn dechrau, megis dylunio a thechnoleg; ac
  • Offer ar gyfer teithiau y tu allan i oriau'r ysgol, megis gwisgoedd gwrth-ddŵr ar gyfer dysgu yn yr awyr agored.
  • Gliniaduron neu dabledi i helpu o ran dysgu o bell. Mae Llywodraeth Cymru yn cynghori teuluoedd i gysylltu ag ysgol/lleoliad eu plentyn i drafod benthyca offer cyn eu prynu.

Mae ffonau symudol wedi'u heithrio o'r cyllid hwn.

Os ydych chi eisoes wedi prynu'r eitemau, gallwch chi gael yr arian yn ôl-weithredol.

Does dim angen bellach i deuluoedd gyflwyno cais penodol am y grant hwn. Bydd teuluoedd disgyblion cymwys yn cael llythyr o Swyddfa’r Post, yn caniatáu casglu taliad arian parod o unrhyw gangen o Swyddfa'r Post.

Mae disgwyl y bydd llythyrau ar gyfer disgyblion cymwys yn dod i law erbyn dydd Llun 17 Gorffennaf 2023. Sylwch na fydd unrhyw geisiadau am brydau ysgol am ddim sy'n cyrraedd ar ôl dydd Gwener 30 Mehefin 2023, yn cael llythyr yn y cam dosbarthu cyntaf hwn.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch y grant hwn ar gyfer 2023/24, anfonwch e-bost at GrantHanfodionYsgol@caerffili.gov.uk neu ffonio ein Tîm Cymorth Arlwyo ar 01443 864055.