Pasys teithio ysgolion
Cludiant Rhwng y Cartref a'r Ysgol - Bydd yr ymgynghoriad yn ceisio barn ar newid i'r pellter lleiaf statudol, sef 2 filltir ar gyfer plant ysgolion cynradd (1.5 milltir ar hyn o bryd o fewn y Fwrdeistref Sirol) a 3 milltir ar gyfer plant ysgolion uwchradd (2 filltir ar hyn o bryd o fewn y Fwrdeistref Sirol).
Mae'r pasiau hyn yn berthnasol i blant 4 - 18 oed (Dosbarth Derbyn i flwyddyn 13).
I deithio am ddim i’r ysgol:
- Rhaid i chi fyw yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
- Mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru gydag adran y dreth gyngor a’ch bod yn byw yn yr eiddo rydych yn gwneud cais am drafnidiaeth ar ei gyfer.
- Mae’n rhaid i’ch plentyn fynychu ei ysgol ‘berthnasol’. Yr ysgol berthnasol yw ysgol y dalgylch neu’r ysgol agosaf.
- I blant mewn addysg gynradd, mae’n rhaid i’r pellter rhwng eich cartref a’r ysgol fod yn fwy na milltir a hanner – mesurir y pellter drwy’r llwybr cerdded agosaf sydd ar gael.
- I bob disgybl arall, mae’n rhaid i’r pellter rhwng y cartref a’r ysgol fod yn fwy na dwy filltir – mesurir y pellter drwy’r llwybr cerdded agosaf sydd ar gael.
Cludiant Ysgol Uwchradd
Ar gyfer disgyblion sy'n mynychu'r ysgol uwchradd am y tro cyntaf ym mis Medi 2021 does dim proses ymgeisio ffurfiol ar gyfer cludiant ysgol. Mae manylion pob disgybl, ym mhob ysgol, yn cael eu darparu i'r Uned Trafnidiaeth Integredig, a'u hasesu yn unol â'r meini prawf y Cyngor Polisi Cartref ir Ysgol. Os bydd hawl gan eich plentyn i gael cludiant am ddim i'r ysgol, bydd y trefniadau teithio priodol yn cael eu gwneud, a bydd rhieni'n cael eu hysbysu yn ystod tymor yr Haf.
Os nad ydych wedi llenwi'r ffurflen dderbyn ysgol i'ch plentyn fynd i'r ysgol o'ch dewis, ewch I Ceisiadau derbyn i ysgolion am fwy o wybodaeth.
Sylwch: Ni fydd rhieni / gofalwyr y disgyblion hynny nad ydynt yn gymwys i gael cludiant ysgol am ddim yn cael eu hysbysu'n awtomatig. Os nad ydych wedi derbyn cadarnhad bod eich plentyn wedi cael sedd am ddim ar gludiant ysgol, rhaid i chi wneud eich ffordd eich hun i'r ysgol.
Ar gyfer derbyniadau neu drosglwyddiadau yn ystod y flwyddyn i ysgolion uwchradd, dylai rhieni / gofalwyr wneud cais trwy'r ddolen ganlynol.
Gwnewch gais ar-lein am drafnidiaeth ysgol am ddim >
Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari
Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili. Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau. Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!
Cludiant Ysgolion Cynradd
Rhaid i rieni / gofalwyr wneud cais ar-lein i dderbyn cludiant i ddisgyblion ysgolion cynradd trwy'r ddolen ganlynol:
Gwnewch gais ar-lein am drafnidiaeth ysgol am ddim >
Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari
Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili. Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau. Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!
Ni roddir tocynnau bws i ddisgyblion oed ysgol gynradd. Rhoddir rhestrau o ddisgyblion â hawl (enw yn unig) i yrwyr bysiau i sicrhau mai dim ond y rhai y cadarnhawyd eu bod yn gymwys sy'n cael teithio.
Sylwch: Os nad ydych wedi derbyn cadarnhad bod eich plentyn wedi cael sedd am ddim ar gludiant ysgol, rhaid i chi wneud eich ffordd eich hun i'r ysgol.
Myfyrwyr coleg
Ar gyfer teithio i'r coleg, ewch i adran tocyn teithio i'r coleg.
A oes angen i'm plentyn gadw ei docyn bws?
PEIDIWCH â chael gwared ar y tocyn bws - bydd angen i'ch plentyn ddangos ei docyn bws i'r gyrrwr bob dydd cyn pob taith, nes ei fod yn gadael yr ysgol.
Beth os caiff tocyn bws/trên fy mhlentyn ei golli neu ei ddifrodi?
Os bydd tocyn bws/trên yn cael ei golli neu ei ddwyn neu ei ddinistrio, dim ond ar ôl derbyn tâl bychan y bydd un arall yn cael ei roi.
- £10.00 am newid tocyn trên a bws
I drefnu tocyn bws neu docyn trên arall dylech gysylltu â’r llinell dalu ar 01443 866570.
All yr ysgol ofyn i’r cwmni sy’n darparu cludiant i roi caniatâd i fy mhlentyn deithio heb docyn bws?
Na - Mae pob disgybl ysgol uwchradd sy’n gymwys i gael cludiant i’r ysgol yn derbyn tocyn bws ac mae rhaid ei ddefnyddio i gael mynediad i drafnidiaeth ysgol.
All ffrind fy mhlentyn deithio ar y bws ysgol gyda fy mhlentyn?
Na - Dim ond plant sy’n gymwys i deithio ar y bws, sydd â thocyn bws dilys, all deithio ar drafnidiaeth ysgol. Mae pob sedd wedi’u clustnodi i ddisgyblion sy’n gymwys i deithio. Os yw rhagor o ddysgwyr yn teithio, yna efallai y bydd gormod o bobl ar y bws.
Gwneud cwyn neu roi gwybod am broblem
Os hoffech roi gwybod am broblem neu gyflwyno cwyn cysylltwch â ni. Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl ynghylch y gŵyn neu’r ymholiad.
Diogelu data
Mae dyletswydd ar y cyngor i ddiogelu arian y mae’n ei weinyddu a byddech yn gweithredu’n dwyllodrus pe baech yn rhoi cyfeiriad anghywir er mwyn cael gwasanaeth nad oes hawl gennych i’w gael. Er mwyn delio â’ch cais, efallai y byddwn yn cysylltu ag adrannau eraill yn y cyngor fel rhan o’n proses ddilysu. Os na fyddwn yn gallu dilysu bod y cyfeiriad a roddir yn gywir, caiff y ffurflen gais ei dychwelyd i’r ymgeisydd.