Gwneud Cais am Brydau Ysgol am Ddim

Pwy all eu hawlio?

Mae prydau ysgol am ddim ar gael i ddisgyblion cymwys sy'n mynychu'r ysgol yn llawn amser. Mae hyn yn cynnwys:

  • Plant iau sy'n mynychu meithrinfa am ddiwrnodau llawn
  • Disgyblion chweched dosbarth 

Efallai y bydd eich plentyn yn gallu cael prydau ysgol am ddim os ydych chi'n cael unrhyw un o'r canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Cymorth Lloches dan Ran VI o'r Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • Elfen warantiedig o Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth
  • Credyd Treth Plant (ar yr amod nad oes hawl gennych hefyd i Gredyd Treth Gwaith a bod gennych incwm gros blynyddol o ddim mwy na £16,190)
  • Credyd Treth Gwaith 'rhedeg ymlaen' - yn cael ei dalu am 4 wythnos ar ôl i chi gymhwyso ar gyfer Credyd Treth Gwaith
  • hyd at 31 Mawrth 2019, Credyd Cynhwysol - Gwnaed hyn fel mesur dros dro, hyd nes y datblygir meini prawf cymhwyster newydd
  • o 1 Ebrill 2019, Credyd Cynhwysol - ar yr amod bod gan eich cartref incwm net a enillir yn flynyddol (Diffinnir incwm net a enillir fel incwm aelwyd ar ôl trethi a didyniadau. Nid yw'n cynnwys incwm o Gredyd Cynhwysol na budd-daliadau eraill) o ddim mwy na £7,400 ( fel y'i asesir gan enillion o hyd at dri o'ch cyfnodau asesu diweddaraf) 

Gall pobl ifanc sy'n derbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm  hefyd gael yr hawl i dderbyn prydau ysgol am ddim. 

Er mwyn i'ch plentyn/plant fod yn gymwys i dderbyn Prydau Ysgol Am Ddim:

  • mae'n rhaid i chi, fel rhiant, neu'ch plentyn, dderbyn y budd-dal neu'r taliad cymorth perthnasol 
  • dylech fod wedi cyflwyno cais am brydau ysgol am ddim i'r awdurdod lleol (neu dylai cais fod wedi'i gyflwyno ar eich rhan)
  • dylai'r cais fod wedi'i gymeradwyo gan yr awdurdod lleol, neu dylai'r awdurdod lleol fod wedi gweld dogfennau sy'n dangos yn gryf bod eich plentyn yn gymwys.

Plant oedran meithrin

Efallai y bydd plant oedran meithrin sy'n mynychu sesiynau cyn ac ar ôl cinio mewn ysgol feithrin neu feithrinfa awdurdod lleol yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. 

Sut i Hawlio

Y ffordd gyflymaf a hawsaf yw gwneud cais ar-lein.

Oherwydd cynnydd mawr yn nifer y ffurflenni yr ydym yn eu derbyn ar hyn o bryd, mae ceisiadau'n cymryd mwy o amser i'w prosesu ar hyn o bryd.

Gwnewch gais ar-lein am brydau ysgol am ddim

Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari

Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili.  Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau.  Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!

Gallwch hefyd wneud cais drwy’r post gyda’r ffurflen gais hon y gallwch ei hargraffu. Mae’r ffurflenni hyn ar gael gan eich ysgol.

e'ch hysbysir yn ysgrifenedig am ganlyniad eich cais o fewn 10 diwrnod gwaith.

Os ydych chi'n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, hysbysir yr ysgol y gall eich plentyn gael prydau ysgol am ddim. Bydd ysgolion yn sicrhau bod yr wybodaeth hon yn cael ei thrin yn gyfrinachol ac yn sensitif.

Beth petai fy amgylchiadau yn newid?

Rhaid i chi ddweud wrthym os:

  • Ydych yn dechrau gwaith ac yn stopio cael budd-daliadau
  • Oes newidiadau i’ch budd-dal

Os na fyddwch yn rhoi gwybod i ni am newidiadau i’ch budd-dal, efallai bydd yn rhaid i chi dalu am unrhyw brydau a gawsoch pan nad oeddech yn gymwys i’w cael.

Rhaid i chi lenwi ffurflen gais newydd os:

  • Ydych yn newid cyfeiriad
  • Ydy un o’ch plant yn dechrau yn yr ysgol am y tro cyntaf
Rhoi gwybod am newid amgylchiadau ar-lein

Oes angen i mi wneud cais arall bob blwyddyn?

Os ydych eisoes yn hawlio prydau ysgol am ddim i’ch plentyn, nid oes angen i chi wneud cais bob blwyddyn.

Hyd yn oed os yw’ch plentyn yn symud i ysgol arall yn y fwrdeistref, bydd yr ysgol newydd yn cael ei hysbysu am eich hawl cyn gynted â bod eich plentyn wedi cael ei dderbyn i’r ysgol newydd.

Grant Hanfodion Ysgol (Yn disodli'r Grant Datblygu Disgyblion) 2023/2024

Mae'r grant hwn yn rhoi £125 (ac eithrio blwyddyn 7 sy'n cael £200) i brynu gwisg ysgol, offer, gwisg chwaraeon, a gwisg ar gyfer gweithgareddau y tu allan i'r ysgol i'ch plentyn.

Bydd y cynllun ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 yn dechrau ar 1 Gorffennaf 2023 ac yn dod i ben ar 31 Mai 2024.

Mae'r grant hwn yn berthnasol i bob disgybl cymwys o grwpiau blwyddyn gorfodol (Derbyn – Blwyddyn 11), Plant sy'n Derbyn Gofal, a'r rhai sy'n cael eu hystyried fel Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus.

Mae'r cyllid hwn ar gyfer disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd, ac nid yw'n ymestyn i gynnwys y disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim oherwydd trefniadau “amddiffyn wrth bontio” neu Brydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch y grant hwn ar gyfer 2023/24, anfonwch e-bost at GrantHanfodionYsgol@caerffili.gov.uk neu ffonio ein Tîm Cymorth Arlwyo ar 01443 864055.

Cysylltwch â ni