Gweithgareddau sydd ar gael
Rydym yn cynnig nifer o weithgareddau sy'n addas i bob oedran a gallu.
Abseilio
Eisiau dysgu sut i fynd i lawr wal fynydd yn gyflym ac yn ddiogel? Yna, beth am roi cynnig ar abseilio. Bydd ein staff cymwys yn eich dysgu sut i fynd i lawr clogwyn gan ddefnyddio rhaff ac offer dringo.
Cerdded antur/Cerdded ceunentydd
Mae hwn yn un o'n gweithgareddau poblogaidd. Gall cerdded antur gynnwys unrhyw beth o ddringo i fyny rhaeadrau, cropian drwy fwd, neidio i mewn i afonydd neu ddringo coed. Mae'r gweithgaredd yn amrywio o bryd i'w gilydd yn dibynnu ar oedran a gallu'r cyfranogwyr.
Canŵio
Mae'r canŵ yn disgyn o grefft a ddatblygwyd gan Americanwyr Cyntefig. Mae canŵod yn grefftau agored mawr sy'n gallu cludo hyd at 4 o bobl. Yn cael eu gyrru gan rwyfau un-llafn, maent i'w defnyddio ar ddŵr tawel. Nid yw cael eich gwlychu tra'n canwio'n anarferol!
Caiacio
Mae caiacau'n deillio o grefft a ddefnyddir gan y bobl Inuit yn yr Arctig. Fel arfer bydd y caiac yn cael ei amgáu gyda'r rhwyfwr yn eistedd y tu mewn yn gyrru'r grefft gyda rhwyf ddwy-lafn. Mae caiacau'n tueddu i gael eu defnyddio mewn amrywiaeth eang o amgylcheddau dŵr ac maent yr un mor gartrefol ar ddŵr gwyn, y môr neu afonydd tawel.
Beicio mynydd
Mae'r math hwn o feicio yn cymryd beicio arferol i'r lefel nesaf. Mae beicio mynydd yn golygu esgyn, beicio i fyny bryniau serth, sy'n gallu bod yn flinedig iawn. Mae hefyd yn cynnwys disgyniad, beicio i lawr allt, sy'n gallu bod yn heriol ac yn gyffrous.
Dringo creigiau
Mae'r gweithgaredd hwn yn ymwneud â dringo clogwyni. Gall dringo creigiau ddigwydd dan do ar wal ddringo artiffisial, neu y tu allan ar bron unrhyw fath o wyneb craig; yma yng Nghaerffili rydym yn defnyddio chwareli, clogwyni môr, brigiadau naturiol a chlogwyni mynyddoedd. Mae dringfa yn cael ei graddio yn nhrefn anhawster. Bydd y graddau o ddringfeydd a ymgeisir yn dibynnu ar oedran a gallu'r grŵp neu'r unigolyn.
Arfordiro
Mae arfordiro'n cynnwys dringo, nofio, a neidio ar hyd clogwyni ar lan y môr. Mae hwn yn weithgaredd deniadol, sy'n hudo llawer. Nid oes angen i wybod sut i nofio i fwynhau arfordiro.
Diogelwch
Mae'r diwydiant awyr agored yn falch o'i record ddiogelwch ardderchog, fel yr ydym yng Ngwasanaeth Addysg Awyr Agored Caerffili. Mae'r gwasanaeth wedi cael trwydded i ddarparu gweithgareddau anturus oddi wrth yr Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Anturus.
Mae'r holl weithgareddau yn cario rhywfaint o berygl. Fodd bynnag, rydym yn gwneud ein gorau i leihau'r perygl hwnnw. Rydym yn gwneud hyn drwy ddefnyddio:
- Staff hyfforddedig a phrofiadol
- Cyfarpar diogelwch a gynlluniwyd ar gyfer y gweithgaredd sy'n cael ei fonitro'n gyson
- Safleoedd addas ar gyfer y gweithgareddau dan sylw
- Gweithgareddau sy'n addas ar gyfer oedran a gallu'r cyfranogwyr
Mae'r holl hyfforddwyr wedi'u hyfforddi mewn cymorth cyntaf ac yn cario offer cymorth cyntaf effeithiol. Maent hefyd yn cael eu hyfforddi i ymdrin â sefyllfaoedd brys.
Os nad yw'r wybodaeth uchod yn ddigonol neu os oes angen eglurhad, ffoniwch Gwasanaeth Addysg Awyr Agored Caerffili a gofynnwch am gael siarad gyda Hyfforddwr Gweithgareddau Awyr Agored.
Tacl sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau
Bydd angen arnoch:
- HEN ddillad nad ydych yn poeni am eu gwlychu neu'n mynd yn fwdlyd. Mae hyn yn cynnwys trowsus tracwisg, crysau-t, dillad isaf, sanau, siwmperi, crysau chwys ayyb
- Un pâr o esgidiau/hen esgidiau ymarfer ar gyfer gweithgareddau dŵr
- Un pâr o esgidiau/esgidiau ymarfer ar gyfer gweithgareddau sych
- Un set o ddillad ar gyfer teithio adref (preswyl yn unig)
- Taclau ymolch fel sebon, gel cawod ac ati (preswyl yn unig)
- Dau dywel (nid eich rhai gorau) un ar gyfer gweithgaredd y dydd
- Eli haul a het haul neu het wlân a menig (yn dibynnu ar y tywydd)
- Siaced
- Newid o ddillad (bob dydd - preswyl yn unig)
- Pâr sbâr o esgidiau
Bydd unrhyw ddillad arbenigol eraill neu offer ydych angen yn cael eu rhoi i chi ar ôl cyrraedd. Mae ystafell sychu yn y ganolfan fel y gall dillad gwlyb sychu pan nad ydynt yn cael eu gwisgo. Yn olaf, ond nid y lleiaf, PEIDIWCH â dod ag eitemau drud neu emwaith ar eich taith. Os ydynt yn mynd ar goll nid oes llawer y gallwn ei wneud. Hefyd, PEIDIWCH â dod â mwy na £5.