Cyflawniadau Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cychwyn ar daith gyffrous ond heriol o wella a newid.
Rhaglen Band A '2014 i 2019'
Mae Caerffili wedi cael llawer o fudd o fuddsoddiadau yn sgil rhaglen gychwynnol “Band A” Ysgolion yr 21ain Ganrif, gyda tua £56.5 miliwn o fuddsoddiad at ddefnydd addysgol a chymunedol.
Cafodd cyllid Band A yng Nghaerffili ei ddefnyddio ar gyfer y canlynol:
Dechreuodd ail ran y cyllid hwn "Band B" ym mis Ebrill 2019, ac roedd y meysydd o flaenoriaeth yn cynnwys:
- Lleihau nifer yr ysgolion sydd mewn cyflwr gwael
- Sicrhau bod gennym ysgolion o'r maint cywir, yn y lleoliadau cywir
- Cynnig digon o leoedd i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg a Saesneg
- Sicrhau defnydd effeithiol ac effeithlon o'r ystâd addysgol
Cyflwynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Raglen Amlinellol Strategol a chafodd gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru mewn egwyddor ar gyfer buddsoddiad a nodwyd o £78 miliwn, yn amodol ar gymeradwyaeth ac ymgynghoriad unigol ar y prosiect.
Darganfod mwy am Datblygiadau Rhaglenni, Cynigion ac Ymgynghoriadau Ysgolion yr 21ain Ganrif.