Gwybodaeth â Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif - Y Weledigaeth ar gyfer Caerffili
Yma yng Nghaerffili, mae gennym ddyheadau beiddgar i ddarparu’r cyfleoedd gorau mewn bywyd i bob dysgwr, ac rydym yn ymroddedig i wneud hyn drwy gynnig addysg, cyfleoedd dysgu ac arweinyddiaeth o ansawdd ar draws ein safleoedd addysg trawiadol yn yr 21ain Ganrif.
Mae’r Cyngor wedi nodi ‘gwella cyfleoedd addysg i bawb’ fel ei Amcan Llesiant cyntaf, ac mae wedi ymrwymo i raglen uchelgeisiol o fuddsoddi mewn ysgolion 21ain ganrif.. Mewn rhai achosion, gellir moderneiddio, atgyweirio, adnewyddu, ehangu ac ail-adeiladu ysgolion yn rhannol i gyflawni'r safonau sydd eu hangen ar gyfer addysgu a dysgu cyfoes.Fodd bynnag, nid yw rhai ysgolion presennol yn y lle iawn mwyach, nac yn cwrdd â galw disgyblion. Mewn achosion o'r fath gallem gynnig ysgolion newydd neu newidiadau i ysgolion sy'n bodoli eisoes.
Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif
Mae’r rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn gydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru a Chynghorau Lleol yng Nghymru. Mae’n rhaglen buddsoddi cyfalaf sylweddol, hir dymor a strategol a’r nod yw creu cenhedlaeth o ysgolion yr 21ain Ganrif yng Nghymru.
Nodyn: Yn dilyn cyhoeddiad y Gweinidog ar 2 Tachwedd 2021, mae Rhaglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif wedi’i hailenwi’n Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

Prif flaenoriaethau'r rhaglen fuddsoddi yw:
- Paru'r lleoedd sydd ar gael â'r galw am leoedd
- Buddsoddi mewn ysgolion newydd ac adnewyddu ysgolion presennol
- Ateb y galw am addysg Gymraeg a Saesneg
- Sefydlu ysgolion cynradd 3 - 11 oed
- Sefydlu darpariaeth feithrin ar safleoedd ysgolion cynradd
- Gwella cyfleusterau TGCh
Bydd buddion eraill yn cynnwys:
- Gostyngiad yn nifer y lleoedd gwarged mewn ysgolion Cynradd
- Gostyngiad yn nifer y lleoedd gwarged mewn ysgolion Uwchradd
- Lleihau costau rhedeg blynyddol e.e. gwres, golau a chynnal a chadw adeiladau
- Rheoli asedau yn fwy effeithiol gan gynnwys gwella ffactorau amodau, rhwymedigaethau cynnal a chadw 25 o flynyddoedd is a rhyddhau safleoedd gwarged
- Gwella effeithlonrwydd ynni
- Diwallu’r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg
- Moderneiddio’r isadeiledd TGCh
- Datblygu cyfleusterau a rennir a rhai cyd-leoliad e.e. ystafelloedd cymunedol, canolfannau plant
- Cydymffurfedd uwch o ran digonolrwydd ac addasrwydd
Rhaglen Band A '2014 i 2019'
Mae rhaglen Band A Ysgolion yr 21ain ganrif Llywodraeth Cymru wedi arwain at fuddsoddi £56.5 miliwn mewn addysg yn y fwrdeistref sirol. Mae hyn wedi cael ei ariannu 50% gan Lywodraeth Cymru a 50% gan yr Awdurdod.
Darganfod mwy am Cyflawniadau Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.
Rhaglen Band B '2019 i 2026'
Yn ddiweddar cyflwynodd yr Awdurdod ei gais i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â rhaglen Band B Ysgolion yr 21ain ganrif, a fydd yn rhedeg am 7 blynedd o 2019 ymlaen, ac a fydd yn canolbwyntio ar wella cyflwr adeiladau ysgolion a sicrhau’r defnydd cymunedol mwyaf posibl.
Nodau allweddol rhaglen fuddsoddi Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif Band B, a amlinellir gan Lywodraeth Cymru, yw:
- Lleihau nifer yr ysgolion mewn cyflwr gwael.
- Sicrhau bod gennym ysgolion y maint cywir ac yn y lleoliad cywir, gan ddarparu digon o leoedd i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg a Saesneg.
- Sicrhau defnydd effeithiol ac effeithlon o'r ystâd addysgol i'w defnyddio gan Ysgolion a'r Gymuned ehangach
Darganfod mwy am Datblygiadau Rhaglenni, Cynigion ac Ymgynghoriadau Ysgolion yr 21ain Ganrif.
Tim Ysgol Yr 21ain Ganrif Caerffili

Er mwyn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth o safon i'n holl gwsmeriaid, mae gennym Dîm Ysgolion 21ain Ganrif pwrpasol yng Nghaerffili :
- Sicrhau bod gweithdrefnau cadarn ar waith i sicrhau y cyflwynir Achosion Busnes yn brydlon i Lywodraeth Cymru
- Sicrhau y bodlonir holl ofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion wrth gyflawni’r rhaglen
- Rheoli’n effeithiol y gwaith o gaffael a chynllunio prosiectau er mwyn sicrhau gwerth am arian a’r defnydd gorau o adnoddau
- Rheoli ein hadnoddau Cyfalaf yn effeithiol er mwyn sicrhau y’u targedir ar y meysydd lle mae’r angen mwyaf
- Sicrhau bod yr ysgolion iawn yn y lleoedd iawn i ateb y galw heddiw ac yn y dyfodol
Rydym yn croesawu adborth ar y rhaglen fuddsoddi felly cysylltwch â ni neu ffoniwch on 01443 864817 a ebost ysgolion21ainganrif@caerffili.gov.uk