Gwaith ffordd
Rydym yn gyfrifol am fonitro a chydlynu gwaith ar briffyrdd cyhoeddus er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd a lleihau tagfeydd i bawb sy’n defnyddio’r ffyrdd.
Rydym yn diweddaru cofnodion ar waith ffordd arfaethedig a phresennol ym mwrdeistref sirol Caerffili, gan gynnwys gwaith sy'n cael ei wneud gan gwmnïau cyfleustodau cyhoeddus. Mae’r cofnodion hyn yn cael eu huwchlwytho ar safle roadworks.org, sydd i’w weld am ddim ar y ddolen ganlynol.
one.network yw’r ffynhonnell fwyaf cynhwysfawr o wybodaeth gyfredol am waith ffordd yn y DU.
Mae one.network yn cael ei diweddaru bob 30 munud ac felly'n sicrhau mynediad amser real i wybodaeth gwaith ffyrdd lleol ar draws bron i 100 o awdurdodau lleol (sy'n cynyddu'n gyflym wrth i fwy o Awdurdodau Lleol ymuno â'r gwasanaeth) yn ogystal â thraffyrdd a chefnffyrdd ledled Cymru a Lloegr.
Gall defnyddwyr weld yn union lle a phryd bydd gwaith ffyrdd yn digwydd ar y map, pwy sy'n gyfrifol amdanynt, ag asesu'r effaith debygol ar amseroedd teithio. Gallwch hyd yn oed gofrestru i dderbyn hysbysiadau e-bost am waith arfaethedig y dyfodol yn eich ardal.
Rhoi gwybod am broblemau
I hysbysu am faterion rheoli traffig ewch i is-adran rheoli traffig.