Cynllun gwasanaeth y gaeaf

Mae’r cynllun hwn yn esbonio ein cyfrifoldebau, ein strategaeth/polisi a’r gweithdrefnau sydd gennym ar waith ar gyfer rheoli a chynnal a chadw rhwydwaith seilwaith priffyrdd Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ystod cyfnod cynnal a chadw’r gaeaf, sydd wedi’i ddiffinio, ac mae’n egluro gwaith gwasgaru halen cyn tywydd garw, gwaith clirio iâ ac eira, a gwaith ymateb ar frys i lifogydd. Mae adran 41 Deddf Priffyrdd 1980 yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i sicrhau, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, nad yw eira neu rew yn peryglu llwybr diogel ar hyd priffordd.

Cynllun gwasanaeth y gaeaf 2023 - 2024

Cysylltwch â ni