Ble a phryd y byddwn yn graeanu

Sut yr ydym yn gwybod ei bod yn mynd i rewi neu fwrw eira?

Rydym yn monitro’r tywydd 24 awr y dydd drwy gydol tymor gwasanaeth gaeaf yr adran briffyrdd. Rydym yn cael data o’n gorsafoedd tywydd yn y fwrdeistref ac o ragolygon manwl gan y Swyddfa Dywydd, ac rydym yn gwneud ein penderfyniadau ynghylch graeanu ar sail y manylion a ddarperir. Efallai y byddwn hefyd yn mynd allan i archwilio’r ffyrdd er mwyn cadarnhau’r wybodaeth yr ydym wedi’i chael gan y gorsafoedd tywydd a’r Swyddfa Dywydd.

Lleoliad y gorsafoedd tywydd

Mae gennym dair gorsaf dywydd – ym Markham, Hafodyrynys ac Ystrad Mynach. Yn ogystal, mae gennym fynediad i 12 o orsafoedd tywydd eraill mewn awdurdodau cyfagos. Mae’r gorsafoedd tywydd hyn yn monitro’r tywydd a chyflwr y ffyrdd yn gyson. Mae’r wybodaeth gan y gorsafoedd tywydd hyn a gorsafoedd eraill gerllaw yn ein helpu i fonitro’r amodau ac ymateb yn briodol.

Pam y mae angen i ni gael tair gorsaf dywydd?

Mae bwrdeistref Caerffili yn cynnwys llawer o ardaloedd sydd ar dir isel ond mae hefyd yn cynnwys ardaloedd sydd ar dir uwch. Oherwydd daearyddiaeth amrywiol y fwrdeistref, gall yr hinsawdd a’r tywydd amrywio’n fawr ar ei thraws. Mae’r gorsafoedd tywydd yn ymdrin â’r ddau begwn o ran hinsawdd, ac mae’r data y maent yn ei ddarparu yn ein helpu i ymateb i amodau amrywiol ar draws y fwrdeistref.

Pa ffyrdd a gaiff eu graeanu?

Rydym wedi datblygu rhwydwaith o lwybrau trin priffyrdd a gaiff eu graeanu’n dibynnu ar ragolygon y tywydd a’r amodau. Ceir tri math gwahanol o driniaeth, a ffynonellau’r Swyddfa Dywydd sy’n llywio ein penderfyniadau ynghylch pa driniaeth y byddwn yn ei rhoi a phryd.

Fel rheol, caiff llwybrau eu trin fel a ganlyn yn y fwrdeistref:

Fel rheol, caiff llwybrau eu trin fel a ganlyn yn y fwrdeistref:

Mae hynny’n golygu trin ffyrdd dosbarthedig, prif ffyrdd, y rhan fwyaf o lwybrau bysiau a llwybrau i safleoedd gwasanaethau brys, cyfleusterau meddygol allweddol a chyfleusterau cyhoeddus allweddol. Caiff llwybrau eu trin yn gyffredinol pan fydd rhagolygon y tywydd yn nodi y gallai rewi neu fwrw eira ar wyneb y ffyrdd ar draws y fwrdeistref gyfan. Map o’r blaenoriaethau ar gyfer trin ffyrdd yn y gaeaf (PDF 168kb)

Trin llwybrau ar dir uchel

Mae hynny’n golygu trin ffyrdd sydd ar dir uchel yn y fwrdeistref, neu ffyrdd sy’n cynnwys mannau lle ceir rhew neu iâ’n rheolaidd. Caiff y llwybrau sydd ar dir uchel eu trin pan fydd rhagolygon y tywydd yn nodi y gallai rewi neu fwrw eira ar wyneb y ffyrdd yn y lleoliadau penodol hynny.

Trin llwybrau sy’n flaenoriaeth

Mae hynny’n golygu trin ffyrdd sy’n flaenoriaeth yn y fwrdeistref, er mwyn sicrhau bod y prif rwydwaith ffyrdd a’r prif wasanaethau cyhoeddus yn cael eu cynnal. Caiff llwybrau sy’n flaenoriaeth eu trin mewn rhai mathau o dywydd garw, megis eira trwm am gyfnod hir pan all yr eira fod yn crynhoi ar y ffyrdd yn gynt nag y gellir ei glirio ag erydr eira a halen.

Y llwybrau sy’n flaenoriaeth fydd y llwybrau cyntaf a gaiff eu trin mewn tywydd garw. Ni fydd y llwybrau a gaiff eu trin yn gyffredinol yn cael sylw nes y bydd y llwybrau sy’n flaenoriaeth wedi’u clirio a’u gwneud yn ddiogel.

Prin yw’r adegau pan fyddwn yn gorfod trin y llwybrau sy’n flaenoriaeth yn unig. Bydd y llwybrau a gaiff eu trin yn gyffredinol yn cael eu trin yn y rhan fwyaf o dywydd arferol y gaeaf, gan gynnwys eira. Ceir meini prawf llym ar gyfer trin llwybrau sy’n flaenoriaeth, sy’n golygu nad yw’n bosibl i ni ychwanegu ffyrdd eraill atynt, oni bai eu bod yn bodloni’r meini prawf dan sylw.

Traffyrdd a chefnffyrdd

Yr Asiantaeth Priffyrdd sy’n gyfrifol am gynnal a chadw’r rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd sydd o gwmpas ein bwrdeistref, h.y. yr A470, yr A465 a’r M4. Dylid rhoi gwybod i’r Asiantaeth Priffyrdd yn y lle cyntaf am unrhyw broblemau sy’n ymwneud â graeanu a chynnal a chadw’r traffyrdd.

A allaf ychwanegu ffordd at y llwybrau sy’n cael eu trin?

Mae’r llwybrau sy’n cael eu graeanu wedi’u cynllunio eisoes ar sail meini prawf penodol er mwyn diwallu holl anghenion y fwrdeistref. Oni bai bod ffyrdd yn bodloni’r meini prawf, ni fydd yn bosibl i ni eu hychwanegu at ein llwybrau graeanu presennol.

Pam mai dim ond y llwybrau sy’n flaenoriaeth sy’n cael eu graeanu weithiau? Beth am ffyrdd neu lwybrau bysiau eraill?

Dim ond ar adegau prin y byddwn yn trin y llwybrau sy’n flaenoriaeth yn unig. Mae’r amgylchiadau canlynol yn esbonio’r achlysuron pan fyddwn yn trin y llwybrau sy’n flaenoriaeth yn unig:

  • Rhai mathau o dywydd garw – megis eira trwm am gyfnod hir pan all yr eira fod yn disgyn ar y briffordd yn gynt nag y gellir ei glirio ag erydr a halen. Yn yr amgylchiadau hyn, rhaid rhoi blaenoriaeth i’r rhwydwaith ffyrdd hanfodol a gofynion penodol eraill er mwyn sicrhau bod modd cynnal y llwybrau sy’n flaenoriaeth a gwasanaethau cyhoeddus allweddol eraill.
  • Mae’r rhagolygon yn awgrymu bod angen defnyddio mwy o halen – os yw rhagolygon y tywydd yn awgrymu y bydd angen i ni ddefnyddio mwy o halen na’r hyn sydd ar gael yn ein cyflenwadau presennol, bydd yn rhaid i ni roi blaenoriaeth i’r llwybrau hanfodol. Bydd hynny’n berthnasol nes y bydd rhagor o gyflenwadau halen wedi cyrraedd, a byddwn yn adolygu’r sefyllfa ac yn sicrhau bod y rhwydwaith ffyrdd hanfodol yn ddiogel cyn mynd ati i drin unrhyw ffyrdd eraill. Rydym wedi cynyddu ein cyflenwadau halen yn sylweddol er mwyn lleihau’r tebygolrwydd y bydd hynny’n digwydd.
  • Systemau rheoli cenedlaethol – lle mae Cell Halen y llywodraeth neu system reoli genedlaethol arall yn gosod cyfyngiad ar y defnydd o halen. Mae hynny’n ein gorfodi i sefyllfa lle’r ydym yn gorfod trin y rhwydwaith ffyrdd hanfodol yn unig er mwyn sicrhau bod y llwybrau allweddol a gwasanaethau cyhoeddus allweddol eraill yn cael eu cynnal.

Sut yr ydym yn penderfynu pryd i raeanu’r ffyrdd?

Rydym yn monitro’r tywydd 24 awr y dydd drwy gydol tymor gwasanaeth gaeaf yr adran briffyrdd. Caiff penderfyniadau ynghylch lefel y driniaeth eu gwneud ar sail y wybodaeth a ddaw i law o’n gorsafoedd tywydd yn y fwrdeistref ac ar sail rhagolygon manwl gan y Swyddfa Dywydd. Efallai y byddwn hefyd yn mynd allan i archwilio’r ffyrdd er mwyn cadarnhau’r wybodaeth yr ydym wedi’i chael gan y gorsafoedd tywydd a’r Swyddfa Dywydd.

Pan fyddwn yn gwybod yn bendant pa lwybrau y bydd angen eu graeanu, yn dilyn rhagolygon y tywydd, byddwn yn ceisio trin y llwybrau cyn iddi ddechrau rhewi neu fwrw eira. Mae graeanu ar yr adegau hynny’n sicrhau bod y graean yn cael yr effaith orau posibl. Yn dibynnu ar ba mor ddifrifol yw rhagolygon y tywydd, efallai y byddwn yn graeanu’r ffyrdd gyda’r nos ac yn y bore ac yn gwneud rhagor o waith graeanu drwy gydol y dydd a’r nos.

Pan nad oes modd i ragolygon y tywydd gadarnhau’n bendant bod angen trin y ffyrdd, byddwn yn monitro’r data am y tywydd yn barhaus. Mae hynny’n golygu mai dim ond ar yr adegau pan fydd angen graeanu’r ffyrdd y byddwn yn gwneud hynny. Fodd bynnag, os bydd yr adegau hynny’n cyd-daro â’r oriau brig, gall y lorïau graeanu wynebu oedi difrifol a mynd yn sownd yng nghanol traffig arall. Dyna pam yr ydym yn ceisio osgoi graeanu yn ystod yr oriau brig. Gall trafferthion godi hefyd pan fydd disgwyl iddi barhau i fwrw glaw nes y bydd yn ddigon oer i rewi, neu pan fydd disgwyl i law droi’n eira. Mewn amgylchiadau o’r fath, rhaid i’r lorïau graeanu aros nes y bydd y glaw wedi pallu, oherwydd fel arall bydd yr halen yn cael ei olchi i ffwrdd.

Pam na allwn raeanu pob ffordd?

Nid yw’n bosibl i’r lorïau graeanu wasgaru halen ar hyd pob ffordd a phob ardal i gerddwyr. I oresgyn y broblem hon, rydym wedi darparu dros 700 o finiau graean mewn mannau allweddol ar draws y fwrdeistref.

Rydym wedi darparu biniau graean er mwyn i drigolion, modurwyr a cherddwyr wasgaru’r graean ar y briffordd gyhoeddus a’r ardaloedd i gerddwyr. Ni ddylai’r graean sydd yn y biniau graean gael ei ddefnyddio ar eiddo preifat megis lonydd cartrefi.

Cwestiynau poblogaidd ac atebion ynghylch biniau graean

Faint o amser y mae’n ei gymryd i raeanu ein ffyrdd?

Gallwn gael ein fflyd o lorïau graeanu allan ar y ffyrdd cyn pen awr, ac mae’n cymryd oddeutu tair awr i gyd i orffen graeanu llwybrau yn gyffredinol.

A allaf gyflwyno ceisiadau am wasanaeth graeanu ar lefel sy’n uwch na’r lefelau a ddiffinnir ym mholisi’r cyngor?

Ni allwn ymateb i geisiadau am wasanaeth graeanu ar lefel sy’n uwch na’r lefel a bennir gan y polisi, oherwydd mae’r gwasanaeth newydd ar gyfer y gaeaf wedi’i gynllunio fel ei fod yn glir ynghylch beth ddylai gael blaenoriaeth, ac mae’r adnoddau a’r cyflenwadau halen wedi’u trefnu yn unol â hynny. Yn y pen draw, gall ceisiadau ychwanegol effeithio ar ein gallu i gyflawni’r blaenoriaethau y cytunwyd arnynt, ac effeithio ar ein cyflenwadau halen y mae’n rhaid eu diogelu.

Faint o lorïau graeanu sydd gennym?

Caiff y rhwydwaith priffyrdd ei drin gan fflyd o 13 o lorïau graeanu sy’n gofalu am dros 485 cilomedr (301 milltir) o’r rhwydwaith ffyrdd.

Pam na allwn raeanu pob un o’r ffyrdd y mae’r lorïau graeanu’n teithio arnynt?

Nid yw’n bosibl i’r lorïau graeanu wasgaru graean ar hyd pob ffordd a phob ardal i gerddwyr. I oresgyn y broblem hon, rydym wedi darparu dros 700 o finiau graean mewn mannau allweddol ar draws y fwrdeistref.

Rydym wedi darparu biniau graean er mwyn i breswylwyr, modurwyr a cherddwyr wasgaru’r graean ar y briffordd gyhoeddus a’r ardaloedd i gerddwyr. Ni ddylai’r graean sydd yn y biniau graean gael ei ddefnyddio ar eiddo preifat megis lonydd cartrefi.

Cwestiynau poblogaidd ac atebion ynghylch biniau graean

Pam yr ydym weithiau’n gweld lorïau graeanu ar y ffordd, nad ydynt yn gwasgaru graean?

Gallai hynny fod oherwydd dau brif reswm:

  • Mae’r llwybrau yr ydym yn eu trin wedi’u cynllunio mewn modd sy’n golygu bod pob cerbyd graeanu’n gofalu am y rhwydwaith gan deithio’r pellter byrraf posibl, ond bydd rhai ‘milltiroedd segur’ bob amser pan na fydd y lorïau graeanu’n gwasgaru graean ar hyd y ffyrdd. Bydd hynny fel rheol yn digwydd pan fydd y lorïau graeanu’n teithio yn ôl ac ymlaen i’r depo, yn teithio rhwng rhannau o’r rhwydwaith a gaiff eu trin, neu’n teithio yn ôl dros ran sydd eisoes wedi’i thrin/a fydd yn cael ei thrin.
  • Mae gan y fflyd newydd o lorïau graeanu ddyfais sy’n gwasgaru graean ar y ffordd ar lefel is na lorïau graeanu traddodiadol. Mae hynny’n sicrhau bod y rhan fwyaf o’r graean a gaiff ei wasgaru yn aros ar y ffyrdd, a bod cyn lleied ag sy’n bosibl ohono’n tasgu oddi ar y ffyrdd ac yn taro yn erbyn ceir. Os ydych yn teithio’n ddigon pell y tu ôl i lori raeanu newydd neu’n teithio heibio i un ohonynt i’r cyfeiriad arall, mae’n anos gweld y graean yn cael ei wasgaru ac efallai na fyddwch yn ei glywed yn taro yn erbyn eich cerbyd, yn wahanol i’r lorïau graeanu traddodiadol.

Pa mor oer y mae’n rhaid iddi fod cyn y caiff y lorïau graeanu eu hanfon allan?

Nid yw’r gwaith graeanu’n dechrau pan fydd y tymheredd yn cyrraedd lefel benodol. Ceir cod ymarfer cenedlaethol sy’n disgrifio nifer o senarios graeanu. Mae’r ffactorau a allai effeithio ar waith graeanu’n cynnwys amrywiadau yn y tywydd ar draws y fwrdeistref, uchder y tir, eira sydd wedi disgyn yn barod neu sydd wrthi’n disgyn, y pwynt gwlitho, tymheredd wyneb y ffyrdd, a’r cyflenwadau halen a geir ar y pryd ac a ddisgwylir yn y dyfodol.

Pa ardaloedd i gerddwyr a gaiff eu trin a phryd?

Caiff ardaloedd i gerddwyr eu trin mewn tywydd sy’n anarferol, ar sail blaenoriaeth ac os bydd adnoddau ar gael i ni. Ni fydd ardaloedd i gerddwyr yn cael eu trin adeg tywydd rhewllyd sy’n arferol dros nos.

Bydd penderfyniadau i raeanu ardaloedd i gerddwyr yn seiliedig ar y meini prawf canlynol:

  • Blaenoriaeth 1 – Ardaloedd ‘blaenoriaeth 1’ yw’r ardaloedd lle ceir y nifer fwyaf o gerddwyr ar lwybrau troed cyhoeddus yng nghanol trefi, mewn canolfannau ardal, mewn prif ardaloedd siopa ac y tu allan i gyfnewidfeydd bysiau a gorsafoedd trenau/tramiau. Caiff ardaloedd ‘blaenoriaeth 1’ eu trin ar yr adegau canlynol os bydd adnoddau ar gael:
    • Eira: Mae disgwyl i eira ddisgyn a pharhau ar y ddaear am gyfnod o 24 awr neu ragor.
    • Rhew/iâ: Mae rhew neu iâ wedi ffurfio ac mae disgwyl iddo barhau am gyfnod o 24 awr neu ragor.
  • Blaenoriaeth 2 – Mae ardaloedd ‘blaenoriaeth 2’ yn cynnwys yr un math o ardaloedd ag ardaloedd blaenoriaeth 1, ond i raddau mwy helaeth. Caiff ardaloedd ‘blaenoriaeth 2’ eu trin pan fydd yr holl ardaloedd ‘blaenoriaeth 1’ wedi’u trin. Caiff ardaloedd ‘blaenoriaeth 2’ eu trin ar yr adegau canlynol os bydd adnoddau ar gael:
    • Eira: Mae eira wedi parhau ar y ddaear am gyfnod o 24 awr ac mae disgwyl iddo aros am 48 awr arall neu ragor.
    • Rhew/iâ: Mae rhew neu iâ wedi ffurfio ac wedi parhau am gyfnod o 24 awr, ac mae disgwyl iddo aros am 48 awr neu ragor.
  • Blaenoriaeth 3 – Ardaloedd ‘blaenoriaeth 3’ yw’r ardaloedd lle ceir y nifer fwyaf o gerddwyr ar lwybrau troed cyhoeddus y tu allan i ysgolion uwchradd, canolfannau addysg bellach (h.y. colegau), ysbytai, canolfannau meddygol a hosbisau. Caiff ardaloedd ‘blaenoriaeth 3’ eu trin pan fydd yr holl ardaloedd blaenoriaeth 1 a 2 wedi’u trin. Caiff ardaloedd ‘blaenoriaeth 3’ eu trin ar yr adegau canlynol os bydd adnoddau ar gael:
    • Eira: Mae eira wedi parhau ar y ddaear am gyfnod o 72 awr ac mae disgwyl iddo aros am 72 awr arall neu ragor.
    • Rhew/iâ: Mae rhew neu iâ wedi ffurfio ac wedi parhau am gyfnod o 72 awr, ac mae disgwyl iddo aros am 72 awr neu ragor.

A yw’n ddiogel i mi glirio iâ ac eira o balmentydd fy hun?

Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau i gadarnhau nad oes cyfraith i’ch atal rhag clirio iâ ac eira o’r palmant y tu allan i’ch cartref neu o ardaloedd y tu allan i fannau cyhoeddus. Os ydych wedi clirio’r llwybr yn ofalus, mae’n annhebygol y byddwch yn cael eich erlyn neu’ch dal yn gyfrifol am unrhyw anafiadau ar y llwybr.

Clirio iâ ac eira o balmentydd eich hun

A fydd y cyngor yn trin palmentydd os bydd hi wedi rhewi?

Na fydd. Nid yw tywydd rhewllyd sy’n arferol dros nos yn cyfiawnhau trin ardaloedd i gerddwyr.

Cysylltwch â ni