Cyflenwadau halen

Ar gyfer y cyfnod gaeafol i ddod, bydd yr awdurdod yn defnyddio halen craig haenedig “safecoat”. Mae’r math hwn o halen yn glynu at arwyneb yr heol, felly’n dileu gwastraff. 

Mae halen craig haenedig “Safecoat” hefyd yn lleihau faint o gyrydiad sydd ar offer stryd, strwythurau a cherbydau heol, yn ogystal â lleihau’r cyfraddau o geisiadau.

Mae cyflenwad o halen craig mâl, sy’n cael ei storio mewn ysguboriau ym Mhontlotyn, Bedwas a Phenmaen, yn cael ei ailgyflenwi yn ystod yr haf.  Mae halen yn cael ei storio mewn ysguboriau gan fod dŵr glaw yn achosi iddo golli ei halltedd a chynyddu ei gynnwys lleithder.  Mae halen gwlyb yn anodd ei ledaenu a gall ddifrodi offer.

Yn ystod cyfnodau o amodau tywydd garw hir, efallai bydd angen i stociau halen gael eu hailgyflenwi.  Mae cytundebau ar gyfer cyflenwi halen wedi cael eu rhoi i gyflenwyr yn Sir Gaer.  Gellir cael cyflenwadau fel arfer o Sir Gaer o fewn 48 awr.

Roedd 10,000T o halen craig o’r stoc ar gael ar ddechrau 2016/17.

Mae’r stoc o halen yn cael ei fonitro’n wythnosol ac mae’r lefelau cyflenwad isaf wedi cael eu gosod ar 50% o’r cyfanswm.  Bydd lefelau’r stoc rhwng y lleiafswm ar lefelau ar ddechrau’r gaeaf yn cael eu darparu yn ystod y gaeaf yn dibynnu ar ddosbarthu’r cyflenwydd. Mae’r gwir lefel yn cael ei benderfynu ar amodau’r tywydd, rhagolygon a barn.

Cysylltwch â ni