Cerbydau graeanu

Mae gennym fflyd o 13 o lorïau graeanu o’r radd flaenaf, a gaiff eu cyflenwi gan ECON – y prif gyflenwr offer cynnal a chadw dros y gaeaf yn y DU.

Mae gan ein fflyd o lorïau graeanu ddyfais sy’n gwasgaru halen ar y ffordd ar lefel is na lorïau graeanu traddodiadol. Mae hynny’n sicrhau bod y rhan fwyaf o’r graean yn aros ar y ffyrdd, a bod cyn lleied ag sy’n bosibl ohono’n tasgu oddi ar y ffyrdd ac yn taro yn erbyn ceir.

Mae system dracio GPS wedi’i gosod ar bob un o’r lorïau graeanu, sy’n darparu data byw a data wedi’i archifo. Mae’r system dracio’n rhoi gwybodaeth i ni am yr union lwybr y mae’r lorïau wedi teithio arno, yr amser dechrau a gorffen graeanu, y cyflymder yr oeddent yn teithio, faint o’r ffordd y maent wedi’i drin a faint o raean a wasgarwyd ar hyd y ffyrdd, ynghyd â gwybodaeth hanfodol arall.

Yn ogystal, gellir gosod erydr eira ar ein fflyd o lorïau graeanu er mwyn clirio eira o’r briffordd.

Cysylltwch â ni