FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00am a 8:00am ar y 05 Mai 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00am and 8:00am on the 05 May 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Astudiaethau achos

Meysydd Bedwellty, Aberbargoed

Yn 2019 daethom yn Gorff Caniatâd Draenio Cynaliadwy (SAB). 

Rhaid i’r rhan fwyaf o ddatblygiadau newydd a gwaith ail-ddatblygu dros 100m² ddefnyddio Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS). Ni sy’n gyfrifol am adolygu a chymeradwyo dyluniad y SuDS ac archwilio ar y safle i sicrhau eu bod wedi eu hadeiladu’n unol â’r dyluniad cymeradwy. Rydym hefyd yn mabwysiadu SuDS sy’n gwasanaethu mwy nag un eiddo neu briffordd gyhoeddus gan ddod yn gyfrifol am eu cynnal.

Datblygiad mewn dau gam gan Llanmoor Homes yw Bedwellty Fields. 

Derbyniodd y cam cyntaf ganiatâd cynllunio’n fuan cyn gweithredu Atodlen 3 y Ddeddf Llifogydd a Rheoli Dŵr yn 2019 gan ddefnyddio system draenio danddaearol gyda phibelli traddodiadol a thanc storio mawr i ddal dŵr mewn stormydd.

Mae ail gam y safle’n cael ei ddatblygu ar ôl y broses ganiatâd Draenio Cynaliadwy orfodol gydag amrywiaeth o Fesurau Naturiol yn cael eu defnyddio fel Gerddi Glaw, Blancedi Draenio a Phantiau Dŵr Glaw. 

Bydd hyn yn creu datblygiad gwyrddach gyda systemau draenio fydd nid yn unig yn delio â llifogydd ond hefyd yn trin y dŵr wyneb cyn iddo gyrraedd y cyrsiau dŵr gan roi manteision bioamrywiaeth gwerthfawr. Mae’r system draenio’n bennaf ar yr wyneb yn hytrach na thanddaear sy’n golygu bod unrhyw broblem yn haws i’w gweld a’r gwaith cynnal a chadw’n haws, rhatach ac yn aflonyddu llai.

Dysgwch fwy am sut y mae SuDS yn newid datblygiadau yn ein fideo astudiaeth achos.