Gofyn am gwrb isel

Os ydych yn bwriadu gyrru cerbyd oddi ar y ffordd a thros ben cwrb er mwyn ei barcio ar lôn breifat eich cartref, bydd angen i chi gael cwrb isel. Mae’n drosedd gyrru dros lwybr troed heb gyrbau isel priodol.

Fel arall, ffoniwch dîm gofal cwsmer yr adran briffyrdd.

Faint mae’n ei gostio?

Pan fyddwn wedi cael eich cais, bydd ein hadran briffyrdd yn archwilio’r safle ac yn anfon dyfynbris ysgrifenedig atoch cyn pen 20 diwrnod gwaith.

Ni allwn ddarparu amcan o’r gost cyn cynnal yr archwiliad, oherwydd bydd y gost yn dibynnu ar nifer o ffactorau amgylcheddol sy’n ymwneud â’r eiddo dan sylw.