Terfynau cyflymder 20mya yng Nghymru

Fe wnaeth y Senedd basio deddfwriaeth Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022 yn 2022. Mae hyn yn golygu bod y terfyn cyflymder ar y rhan fwyaf o ffyrdd cyfyngedig wedi gostwng o 30mya i 20mya ar 17 Medi 2023.

Mae ffyrdd cyfyngedig yn cael eu dosbarthu fel y strydoedd hynny sy'n cynnwys goleuadau stryd heb fod yn fwy na 200 llath oddi wrth ei gilydd. Maen nhw fel arfer wedi'u lleoli mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig lle mae llawer o gerddwyr.

Roedd Llywodraeth Cymru o’r farn y byddai lleihau’r terfyn cyflymder rhagosodedig o 30mya i 20mya yn yr ardaloedd hyn yn darparu nifer o fanteision, gan gynnwys:

  • lleihau nifer y gwrthdrawiadau ar y ffyrdd
  • rhagor o gyfleoedd i gerdded a beicio yn ein cymunedau
  • helpu gwella iechyd a lles pawb
  • gwneud ein strydoedd yn fwy diogel
  • gwarchod yr amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
  • anafiadau llai difrifol os bydd gwrthdrawiadau'n digwydd

Cymru yw un o'r gwledydd cyntaf yn y byd a'r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno deddfwriaeth i gael terfyn cyflymder 20mya ar ffyrdd lle mae ceir yn cymysgu â cherddwyr a beicwyr.

Roedd y newidiadau hyn yn cefnogi:

Fel rhan o’r broses weithredu, gofynnwyd i awdurdodau lleol nodi ffyrdd neu rannau o ffyrdd a ddylai, yn eu barn nhw, barhau i fod yn 30mya (Eithriadau).

Datblygodd Cyngor Caerffili nifer o eithriadau ledled y Fwrdeistref Sirol, a chafodd adroddiad sy'n manylu ar yr argymhellion ei gyflwyno i Gabinet y Cyngor i'w gymeradwyo ar 26 Gorffennaf 2023. Yn y cyfarfod hwnnw, fe wnaeth y Cabinet gymeradwyo gwneud Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Terfynau Cyflymder Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili 2023, fel y'i diwygiwyd, a'r arwyddion a'r marciau ffordd ychwanegol fel sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad hwnnw.

Cais am/Awgrymu newid(iadau) terfyn cyflymder 20mya

Yn dilyn y newidiadau i derfynau cyflymder, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adolygiad o’r canllawiau terfyn cyflymder 20mya/30mya - Darllenwch Datganiad Llywodraeth Cymru.

Os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau penodol (ynghyd â rhesymau dilys) pam y dylai ffordd gael ei heithrio o’r terfyn cyflymder cenedlaethol 20mya, byddwn ni’n cofnodi’r adborth ac yn ei adolygu unwaith y bydd y canllawiau eithriadau newydd ar gael gan Lywodraeth Cymru.

Rydyn ni’n disgwyl derbyn y canllawiau hyn yn ystod yr haf. Bydd ymgynghoriadau ar unrhyw newidiadau arfaethedig yn digwydd ar ôl i’r rhannau unigol o’r ffyrdd gael eu hadolygu yn erbyn y canllawiau newydd.

Rhaid i unrhyw awgrymiadau sy'n ymwneud â hyn gynnwys rhesymau dilys pam yr ystyrir bod y newidiadau'n angenrheidiol.

Dylid unrhyw ohebiaeth gael ei chyflwyno drwy'r ffurflen ar-lein isod. Bydd y ceisiadau’n cael eu hasesu yn erbyn canllawiau Llywodraeth Cymru a lle bernir bod newidiadau’n briodol, bydd y cynigion yn cael eu symud ymlaen yn unol â phroses gyfreithiol y gorchymyn rheoleiddio traffig.

Cyflwyno'ch adborth 20mya

Nodwch, ni fydd modd i ni gofnodi unrhyw sylwadau cyffredinol am y Polisi Cenedlaethol 20mya, gan mai mater i Lywodraeth Cymru a Gweinidogion Llywodraeth Cymru yw hynny.

Dolenni Perthnasol