Terfynau cyflymder 20mya yng Nghymru

Fe wnaeth y Senedd basio deddfwriaeth Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022 yn 2022. Mae hyn yn golygu y bydd y terfyn cyflymder ar y rhan fwyaf o ffyrdd cyfyngedig yn gostwng o 30mya i 20mya o 17 Medi 2023.

Mae ffyrdd cyfyngedig yn cael eu dosbarthu fel y strydoedd hynny sy'n cynnwys goleuadau stryd heb fod yn fwy na 200 llath oddi wrth ei gilydd. Maen nhw fel arfer wedi'u lleoli mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig lle mae llawer o gerddwyr.

Gallai lleihau'r terfyn cyflymder diofyn o 30mya i 20mya yn yr ardaloedd hyn arwain at nifer o fanteision, gan gynnwys:

  • lleihau nifer y gwrthdrawiadau ar y ffyrdd
  • rhagor o gyfleoedd i gerdded a beicio yn ein cymunedau
  • helpu gwella iechyd a lles pawb
  • gwneud ein strydoedd yn fwy diogel
  • gwarchod yr amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
  • anafiadau llai difrifol os bydd gwrthdrawiadau'n digwydd

Cymru fydd un o'r gwledydd cyntaf yn y byd a'r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno deddfwriaeth i gael terfyn cyflymder 20mya ar ffyrdd lle mae ceir yn cymysgu â cherddwyr a beicwyr.

Mae'r newidiadau hyn yn cefnogi:

Terfyn cyflymder 20mya am ffyrdd mwy diogel

Gofynnwyd i awdurdodau lleol nodi ffyrdd neu rannau o ffyrdd a ddylai, yn eu barn nhw, barhau i fod yn 30mya (Eithriadau).

Mae Cyngor Caerffili wedi datblygu nifer o eithriadau ledled y Fwrdeistref Sirol, a chafodd adroddiad sy'n manylu ar yr argymhellion ei gyflwyno i Gabinet y Cyngor i'w gymeradwyo ar 26 Gorffennaf 2023. Yn y cyfarfod hwnnw, fe wnaeth y Cabinet gymeradwyo gwneud Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Terfynau Cyflymder Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili 2023, fel y'i diwygiwyd, a'r arwyddion a'r marciau ffordd ychwanegol fel sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad hwnnw. Mae'r eithriadau cymeradwy hefyd wedi'u nodi ar y dudalen we Eithriadau 30mya.