Datblygu a ganiateir
Mae datblygu a ganiateir yn golygu nad oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer rhai mathau o waith.
Mae'n bosibl bod rhai hawliau datblygu a ganiateir wedi cael eu dileu neu eu cyfyngu o ganlyniad i ni'n codi Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar amod cynllunio. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi gyflwyno cais cynllunio ar gyfer gwaith nad oes angen cais ar ei gyfer fel arfer. Os yw'ch eiddo mewn ardal gadwraeth, mae'r math o fân waith y gallwch ei wneud heb ganiatâd cynllunio yn fwy cyfyngedig nag ydyw mewn mannau eraill.
Am ragor o wybodaeth, ewch i'r adran Cyfarwyddyd Erthygl 4.
Mae hefyd ofynion gwahanol os yw'ch eiddo'n adeilad rhestredig.
Os ydych chi eisiau cael gwybod a yw amod wedi dileu'r hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer datblygiad penodol, gwnewch gais drwy'r gwasanaeth cyngor cyn gwneud cais cynllunio – gwasanaethau eraill neu gallwch weld hanes cynllunio drwy'r system PublicAccess.
Os oes gennych unrhyw amheuaeth, fe'ch cynghorir i gyflwyno cais am dystysgrif datblygiad cyfreithlon, a fydd yn cadarnhau a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y gwaith arfaethedig.
Mae rhagor o arweiniad ar Hawliau Datblygu a Ganiateir ar gael drwy Lywodraeth Cymru – Datblygu a ganiateir.
Ardoll Seilwaith Cymunedol – rhwymedigaeth i'w thalu.
Mewn achosion prin, gall ‘datblygu a ganiateir’ fod ar raddfa ddigonol i fod yn agored i dalu'r Ardoll Seilwaith Cymunedol.
Mae'n rhaid i chi gyflwyno hysbysiad o ddatblygiad y codir tâl amdano i ni cyn dechrau datblygu. Os yw'r prosiect yn agored i dalu'r Ardoll Seilwaith Cymunedol, cyfrifir y tâl ac fe'i codir fel petai caniatâd cynllunio wedi'i roi. Am ragor o arweiniad, ewch i'r adran Ardoll Seilwaith Cymunedol.