Apelio yn erbyn penderfyniad cynllunio
Gallwch apelio yn erbyn:
- achos o wrthod caniatâd cynllunio
- yr amodau a roddir ar gais cynllunio
- achos lle na phenderfynwyd ar y cais o fewn y cyfnod statudol.
Dim ond ymgeiswyr all gyflwyno apêl: nid oes hawl apelio yn achos trydydd parti na gwrthwynebwyr ceisiadau.
Gwneir apeliadau i'r Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, sy'n rhan o Lywodraeth Cymru.
Apelio cyn y dyddiad cau
Rhaid apelio i'r Arolygiaeth Gynllunio cyn pen 6 mis o ddyddiad yr hysbysiad penderfynu. Fodd bynnag, yn achos apeliadau deiliaid tai ac apeliadau datblygiadau masnachol bach, dim ond 12 wythnos sydd gennych i apelio.
Cyflwyno eich apêl
Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad cynllunio drwy wefan Llywodraeth Cymru. Mae'n cynnwys popeth y mae angen i chi ei wybod am y broses apelio, gan gynnwys gwneud apêl, rhoi sylwadau ar apêl ac arweiniad ar wneud eich apêl.