Pridiannau tir lleol

Ar hyn o bryd, yr amser ar gyhfer cwblhau chwiliad yw tua 10 diwrnod gwaith.

Chwiliad pridiannau tir lleol

Os ydych yn bwriadu prynu neu rentu eiddo ar brydles, bydd angen i chi wybod a oes unrhyw faterion sy’n peri pryder, megis cynlluniau i adeiladu traffordd ar waelod eich gardd neu Hysbysiadau sydd heb eu cyflawni sy'n ei gwneud yn ofynnol i chi unioni unrhyw gamwri blaenorol.

Yn y cyd-destun hwn, ystyr y gair "pridiant" ("charge") yw unrhyw hawliad ariannol, cyfyngiad, penderfyniad neu wybodaeth sy’n weddill a allai effeithio ar eiddo neu lain o dir penodol.  Mae’r rhain yn cynnwys taliadau ar gyfer gwasanaethau megis ffyrdd, cyfyngiadau megis gorchmynion cadw coed ac amodau a osodir ar ganiatâd cynllunio, ardaloedd cadwraeth, cytundebau cyfreithiol ac adeiladau rhestredig.

Yn unol â’r gyfraith, rhaid i ni gadw ‘cofrestr pridiannau tir’. Mae’r gofrestr yn cofnodi gwybodaeth berthnasol am bob eiddo neu lain o dir yn y fwrdeistref. Mae’n cynnwys gwybodaeth am ganiatâd cynllunio, statws/cynigion priffyrdd, dynodi ardaloedd cadwraeth, gorchmynion cadw coed, hysbysiadau gorfodi, grantiau gwella, gorchmynion rheoli a thaliadau ariannol.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio cyfreithiwr i drefnu chwiliad pridiannau tir lleol, er bod gan unrhyw un yr hawl i wneud hynny.

Dylid anfon ymholiadau ynghylch chwiliadau draeniad yn uniongyrchol i Dwr Cymru.

Ar gyfer ymholiadau sy’n ymwneud â gweithredoedd, ffiniau neu berchenogaeth cysylltwch â Swyddfa Cofrestrfa Dir y Dosbarth.

Gwneud cais am chwiliad

Fel arfer cyflwynir cais am chwiliad mewn dwy ran: Y Ffurflen LLC1 a'r Ffurflen CON29. Mae'r ffurflenni hyn ar gael gan lyfrfeydd cyfreithiol neu Gymdeithas y Cyfreithwyr.

LLC1 – Cais am Chwiliad Swyddogol o’r Gofrestr – Bydd yr ymateb i gais o’r fath yn datgelu, er enghraifft, p'un a yw’r eiddo mewn ardal gadwraeth neu b’un a yw’n adeilad rhestredig, neu b’un a yw unrhyw goed ar safle’r eiddo wedi’u gwarchod gan Orchymyn Cadw Coed ac ati.

CON29 – Ffurflen Ymholiadau Safonol i Awdurdodau Lleol – Mae’r ffurflen hon yn ymdrin â materion megis cynlluniau ffordd, hanes ceisiadau cynllunio, rheoliadau adeiladu a'r hysbysiadau amrywio sy’n effeithio ar yr eiddo.

Mae’r cyfleuster hwn ar gyfer cyfreithiwr neu drawsgludwyr trwyddedig fel arfer.

Chwiliadau drwy’r post

I wneud cais am chwiliad drwy’r post dylech gynnwys copïau dyblyg o’r ffurflenni LLC1 a CON 29R (a CON29O os bydd ei hangen). (Mae’r ffurflenni hyn ar gael gan Gyfreithwyr neu Lyfrfeydd Cyfreithiol). Dylech gyflwyno dau gynllun cyfoes sy’n dangos yr ardal i’w chwilio wedi’i hamlinellu’n goch. Dylech hefyd anfon siec yn daladwy i “Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili” am y ffi gywir.

Ffioedd chwilio o 1 Tachwedd 2019 

Sylwch y bydd y taliadau canlynol yn ymwneud â CON29 yn cynyddu 5% o 01/04/2023.

 

Preswyl / Masnachol

Chwiliad LLC1

£6.00

 

CON 29 (Yn cynnwys TAW @ 20%)

£110.40

 

Cyfanswm

£116.40

CON29O 4 - Q22 (Yn cynnwys TAW @ 20%)

£18.00 yr un

CON29 Q1.1j, k, l & Q3.8 os oes angen (Yn cynnwys TAW @ 20%)

 

£18.00 yr eiddo

Copi o chwiliad

£10.00

Chwiliad personol (drwy apwyntiad yn unig)

Di-dâl

Ymholiad ychwanegol cyfreithiwr (Yn cynnwys TAW @ 20%)

£18.00

Llain ychwanegol o dir (LLC1)

£1.00

Llain ychwanegol o dir (CON29) (Yn cynnwys TAW @ 20%)

£18.00

Noder: Nid ydym yn gallu cynnig gwasanaeth brys ar yr adeg hon.

Dylech wneud sieciau’n daladwy i ‘Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili’ a nodi cyfeiriad yr Is-adran Pridiannau Tir Lleol yn glir ar yr amlen i osgoi oedi.

Byddwn yn ardystio chwiliadau swyddogol wrth iddynt gael eu cwblhau gan staff hyfforddedig sy’n meddu ar wybodaeth fanwl o’r holl wybodaeth sy’n ofynnol ar gyfer yr holiadur CON29. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau a gymeradwywyd nas gweithredwyd gan y Cyngor hyd yma megis:

  • Cyfyngiadau parcio arfaethedig
  • Trefniadau gyrru unffordd
  • Gwahardd gyrru
  • Mesurau arafu traffig
  • Cynlluniau ffordd neu reilffordd gerllaw
  • Hysbysiadau statudol nas cyflawnwyd sy’n ymwneud â gwaith adeiladu, yr amgylchedd, iechyd a diogelwch yn y gwaith, tai, priffyrdd neu iechyd y cyhoedd

Chwiliadau personol

Gallwch gyflawni chwiliad personol ond bydd angen i chi gysylltu â ni i drefnu apwyntiad. Caiff canlyniadau’r chwiliad eu casglu o’r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol ac nid yw’n cynnwys yr holl wybodaeth CON29. Nid ydym yn casglu nac yn ardystio canlyniadau chwiliadau personol, a’r cwmni chwilio perthnasol sy’n gyfrifol am gywirdeb yr ymatebion.  Nid yw rhai banciau a chymdeithasau adeiladu yn derbyn chwiliadau personol at ddibenion ceisiadau morgais.

Gwybodaeth am eiddo cyfagos

Nid yw’r chwiliad yn cynnwys gwybodaeth am eiddo cyfagos, ac mae dim ond yn cael ei gynnal ynghylch yr eiddo a amlinellwyd ar y cais am chwiliad.

Fodd bynnag, os oes unrhyw bryderon gennych am ganiatâd cynllunio ar eiddo neu ardaloedd cyfagos, gellir cyflwyno CON29 O, ymholiad dewisol neu ymholiad ychwanegol sy’n eich galluogi i ofyn cwestiwn penodol. Er enghraifft, a roddwyd caniatâd cynllunio ar eiddo cymdogion sy’n union gerllaw?

Os oes pryderon gennych am ardaloedd o dir, dylech fod yn benodol wrth liwio neu amlinellu’r ardal dan sylw.

Noder ni allwn ateb ymholiadau goddrychol megis caniatâd cynllunio a allai effeithio ar y mwynhad o’r eiddo, neu ei amwynderau neu’r golygfeydd. Codir ffi o £18 am ymholiad ychwanegol.

Rhagor o wybodaeth

Os hoffech ragor o wybodaeth am chwiliadau Pridiannau Tir Lleol, dylech gysylltu â ni.

Cysylltwch â ni

Ar y we yn gyffredinol

Sut i brynu cartref | Sut i werthu cartref