Gorchmynion cadw coed a gweithio ar goed mewn ardal gadwraeth

Mae'r adran hon yn rhoi sylw i'r canlynol:

  • Beth yw Gorchymyn Cadw Coed?
  • Beth yw'r gwahaniaeth rhwng Gorchymyn Cadw Coed a choed mewn ardal gadwraeth?
  • Sut mae gwybod a yw fy nghoeden wedi'i gwarchod neu mewn ardal gadwraeth?
  • Sut mae gwneud cais am ganiatâd?

Beth yw gorchymyn cadw coed?

Mae Gorchmynion Cadw Coed yn cael eu rhoi ar waith i warchod coed unigol neu grwpiau o goed sydd ganddynt werth amwynderol. Mae hyn yn golygu bod y coed dan sylw yn cael eu gwarchod er mwyn cynnal harddwch naturiol y lle neu'r ardal. Mae hefyd modd rhoi Gorchymyn Cadw Coed ar waith os yw'r goeden yn darparu cynefin ar gyfer bywyd gwyllt.

Ni chaniateir cyflawni'r gwaith canlynol ar goed sy'n cael eu gwarchod gan Orchymyn Cadw Coed, oni bai y gallwn roi caniatâd ysgrifenedig i chi:

  • torri i lawr
  • difrigo – cael gwared ar holl ganghennau uchaf y goeden
  • brigdorri/tocio – cael gwared ar y canghennau 
  • dadwreiddio – cael gwared ar y goeden a'i gwreiddiau yn llwyr
  • torri'r gwreiddiau

Gall methu â dilyn y gweithdrefnau cywir arwain at erlyniad a dirwy sylweddol os ystyrir bod coeden (neu goed) wedi cael ei thocio'n ormodol neu ei gwaredu'n amhriodol heb ganiatâd cynllunio.

Mae'n gwarchod pob rhan o'r goeden sydd uwchlaw'r ddaear, ac oddi tano, i'r un graddau.

Dylai contractwr trin coed neu ymgynghorydd coed annibynnol ag enw da eich cynghori chi ar ba waith a allai fod yn briodol a rhoi dyfynbris i chi os oes angen. Dylech chi ofyn am ddyfynbris gan o leiaf ddau gwmni.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng Gorchymyn Cadw Coed a choed mewn ardal gadwraeth?

Mae Gorchmynion Cadw Coed yn ymwneud â choed unigol neu grwpiau o goed yn unig.

Mae ardaloedd cadwraeth yn cael eu dynodi am eu diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Gallan nhw gynnwys ardaloedd eang, er enghraifft gallai pentref cyfan fod mewn ardal gadwraeth.

Mae coed mewn ardaloedd cadwraeth yn cael eu gwarchod fel rhan o gadw gwerth amwynderol yr ardal, felly, hyd yn oed os nad yw'r goeden/coed yn cael ei/eu gwarchod gan Orchymyn Cadw Coed, efallai y bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd ar gyfer eich gwaith arfaethedig.

Mae modd hefyd i goed gael eu gwarchod gan Orchymyn Cadw Coed a bod mewn ardal gadwraeth.

Os byddwn ni'n rhoi caniatâd ysgrifenedig i chi ar gyfer y gwaith rydych chi'n ei gynnig, mae'n rhaid i chi wirio'r caniatâd oherwydd gallai fod amodau ynghlwm wrtho, a bydd angen eu dilyn.

Sut mae gwybod a yw fy nghoeden wedi'i gwarchod neu mewn ardal gadwraeth?

Gallwch chi wirio a yw'ch coeden chi'n cael ei gwarchod gan Orchymyn Cadw Coed, neu wirio a yw hi mewn ardal gadwraeth, drwy ddefnyddio ein map rhyngweithiol. Mae cylch gwyrdd yn dynodi coeden sy'n destun Gorchymyn Cadw Coed, ac mae llinell las yn amlygu ardal gadwraeth.

I gael gwybod sut i ddefnyddio'r map, darllenwch y nodiadau cyfarwyddyd.

Gwneud cais am ganiatâd

Rydyn ni'n eich annog chi i gyflwyno'ch cais ar-lein drwy Ceisiadau Cynllunio Cymru.

Dechrau cais ar-lein  

Os byddai'n well gennych chi, mae modd lawrlwytho ffurflen gais a'i hanfon aton ni drwy'r post i: Isadran Cynllunio, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG.

Dod o hyd i'r ffurflenni papur, a'u lawrlwytho

Os nad chi yw perchennog yr eiddo lle mae'r goeden, gallwch chi wneud cais am Ganiatâd Gwaith Coed, ond bydd angen i chi gael caniatâd ysgrifenedig gan berchennog yr eiddo, a'i anfon aton ni gyda'r cais.