Grantiau'r amgylchedd hanesyddol
Grantiau Cadw
Mae Cadw yn cynnig grantiau ar gyfer gwarchod asedau hanesyddol, yn cynnwys diogelu a gwella henebion cofrestredig, ac atgyweirio ac adfer adeiladau hanesyddol a ddefnyddir gan y gymuned. Mae'r rhain yn cynnwys Grant Adeiladau Hanesyddol, Grant Henebion a Chytundeb Rheoli Henebion, a Grantiau ar gyfer Cofebion Rhyfel.
I gael y manylion llawn am y gwahanol grantiau sydd ar gael, ewch i wefan Cadw.
Cronfa Dreftadaeth y Loteri
Gan ddefnyddio arian a godir drwy'r Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn rhoi grantiau i gadw a gweddnewid ein treftadaeth. O amgueddfeydd, parciau a mannau hanesyddol i archaeoleg, yr amgylchedd naturiol a thraddodiadau celfyddydol, mae'n buddsoddi ym mhob rhan o'n treftadaeth amrywiol.
I gael y manylion llawn am y gwahanol grantiau sydd ar gael, ewch i wefan Cronfa Dreftadaeth y Loteri.