Ardaloedd cadwraeth a chaniatâd ardal gadwraeth

Mae'r adran hon yn rhoi sylw i'r canlynol:

  • Byw mewn ardal gadwraeth
  • Oes angen caniatâd arnaf i wneud gwaith i eiddo mewn ardal gadwraeth?
  • Caniatâd ardal gadwraeth 
  • Gwneud cais am ganiatâd
  • Asesiad o'r Effaith ar Dreftadaeth
  • Datganiadau dylunio a mynediad
  • Canllawiau dylunio ardaloedd cadwraeth

Mae 16 o ardaloedd cadwraeth ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Mae'r rhain wedi eu dynodi am eu diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. 

 

Gallwch gael gwybod a yw eiddo mewn ardal gadwraeth drwy edrych ar fapiau ardaloedd cadwraeth (pdf).

Byw mewn ardal gadwraeth

Ceir rheolaethau cynllunio cenedlaethol os ydych yn berchen ar eiddo mewn ardal gadwraeth, ac mae canllawiau ar y rheolau i'w gweld ar y Porth Cynllunio.

Mae gan y rhan fwyaf o berchnogion tai rai hawliau datblygu a ganiateir sy'n golygu nad oes rhaid iddynt wneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer rhai mathau o waith. Mewn ardaloedd cadwraeth, mae rhai o'r hawliau hyn yn cael eu dileu; cyfeirir atynt fel Cyfarwyddyd Erthygl 4, sy'n rhoi rheolaethau ychwanegol dros wahanol fân newidiadau, megis addasu ffenestri.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran Cyfarwyddyd erthygl 4.

Mae tair ardal gadwraeth lle mae cyfarwyddydau erthygl 4 wedi eu cyflwyno, sef y Drenewydd, Gardd-faestrefi Pont-y-waun yn Crosskeys, a Thref Rhymni.

Oes angen caniatâd arnaf i wneud gwaith i eiddo mewn ardal gadwraeth?

Dyma rai o'r mathau mwyaf cyffredin o waith mewn ardaloedd cadwraeth sydd angen caniatâd cynllunio: 

  • ychwanegu deunydd inswleiddio waliau allanol
  • gorchuddio unrhyw ran o'r tŷ â charreg, carreg artiffisial, gro chwipio, rendr, plastig, pren, metel neu deils 
  • unrhyw waith a fydd yn newid golwg allanol eich eiddo, megis estyn y to, neu osod, newid neu dynnu corn simnai, ac ati. 
  • ni chaniateir estyniadau unllawr i'r ochr oni bai eu bod yn ymwthio llai na 3 metr o ystlys y tŷ annedd gwreiddiol ac yn sefyll o leiaf 1 metr yn ôl o brif wedd y tŷ annedd gwreiddiol
  • estyniadau â mwy nag un llawr 
  • dymchwel adeilad heb ei restru, neu ei ddymchwel bron yn llwyr
  • gosod dysglau lloeren, ac erialau teledu a radio 
  • newid rhai perthi a waliau terfyn, neu gael gwared ar rai ohonynt
  • newid mynedfeydd i gerbydau neu drefniadau parcio o amgylch yr eiddo
  • gwaith coed mewn ardaloedd cadwraeth, megis torri coed i lawr, brigdorri, torri, tocio neu ddifrigo yn achos unrhyw goeden neu lwyn sydd â boncyff sy'n mesur 75mm neu ragor ar ei draws (ar uchder y frest). Am ragor o wybodaeth, ewch i'r adran Gorchmynion Cadw Coed.

Os ydych yn ystyried gwneud newidiadau i'ch eiddo a hoffech gael cyngor, gallwch gysylltu â'n Swyddog Cadwraeth a Dylunio ar 01443 866766.

Caniatâd ardal gadwraeth 

Os ydych yn byw mewn ardal gadwraeth, bydd angen caniatâd ardal gadwraeth arnoch i wneud y canlynol:

  • dymchwel adeilad sy'n mesur 115 metr ciwbig neu ragor.
  • dymchwel giât, ffens, wal neu reiliau sy'n mesur mwy nag un metr o uchder wrth ymyl y briffordd (gan gynnwys llwybr troed cyhoeddus neu lwybr ceffylau) neu fan agored cyhoeddus; neu sy'n mesur mwy na dau fetr o uchder mewn mannau eraill.

Os ydych yn ansicr a fydd angen caniatâd ar gyfer yr hyn yr ydych yn bwriadu ei wneud ai peidio, gallwch gysylltu â'n Swyddog Cadwraeth a Dylunio ar 01443 866766. 

Gwneud cais am ganiatâd

Rydym yn eich annog i gyflwyno'ch cais ar-lein drwy Ceisiadau Cynllunio Cymru.

 

Os byddai'n well gennych, gallwch lawrlwytho ffurflen gais a'i hanfon atom drwy'r post i: Isadran Cynllunio, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG

Dod o hyd i'r ffurflenni papur, a'u lawrlwytho

Asesiad o'r effaith ar dreftadaeth

Mae asesiad o'r effaith ar dreftadaeth yn broses strwythuredig i sicrhau y byddwch yn ystyried arwyddocâd eich ased hanesyddol pan fyddwch yn datblygu a llunio cynigion ar gyfer newid.

O 1 Medi 2017 ymlaen, bydd angen datganiad o'r effaith ar dreftadaeth i gefnogi cais am ganiatâd ardal gadwraeth. 

Mewn perthynas â chais am ganiatâd ardal gadwraeth, rhaid i ddatganiad o'r effaith ar dreftadaeth gynnwys:

  • disgrifiad o'r gwaith arfaethedig (“y gwaith dymchwel”), gan gynnwys rhestr o'r gwaith;
  • esboniad o'r amcan y bwriedir ei gyflawni gan y gwaith dymchwel a pham bod dymchwel yn ddymunol neu'n angenrheidiol;
  • disgrifiad o sut y mae unrhyw adeilad y bwriedir ei ddymchwel yn cyfrannu at gymeriad neu olwg yr ardal gadwraeth;
  • asesiad o effaith y gwaith dymchwel ar gymeriad neu olwg yr ardal gadwraeth, gan gynnwys disgrifiad o unrhyw fanteision neu niwed posibl i gymeriad neu olwg yr ardal;
  • crynodeb o'r opsiynau a ystyriwyd at ddiben cyflawni'r amcan y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(b) a'r rhesymau dros ffafrio dymchwel.

Mae canllawiau ar baratoi Datganiad o'r Effaith ar Dreftadaeth i'w gweld yma: Asesiadau o'r Effaith ar Dreftadaeth yng Nghymru (PDF)

Mae rhagor o ganllawiau ar gael ar wefan Cadw.

Datganiadau dylunio a mynediad

Bydd y gofyniad i gyflwyno datganiad dylunio a mynediad gyda chais cynllunio mewn ardal gadwraeth yn berthnasol i'r canlynol:

  • datblygu un neu fwy o anheddau
  • lle mae'n creu arwynebedd llawr o 100 metr sgwâr neu fwy
Am ragor o arweiniad ar sut i lunio Datganiad Dylunio a Mynediad, lawrlwythwch y ddogfen Datganiadau Dylunio a Mynediad yng Nghymru (Llywodraeth Cymru, Mehefin 2017) (PDF)
Cysylltwch â ni