Gwneud cais am gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu
Bydd y canllaw hwn yn eich tywys drwy'r broses reoli adeiladu ac mae’n anelu at ddangos i chi sut y gall eich prosiect gael ei effeithio gan y Rheoliadau Adeiladu. Mae'n cynnwys cyngor ar brosiectau adeiladu nodweddiadol fel estyniadau, addasiadau garej, addasiadau llofft ac addasiadau seler.
|
Please Note:- I wirio'r newidiadau, ewch i'n tudalen cyngor ynghylch Covid-19.
Bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais a thalu ffi i wneud cais am y gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu. Bydd y ffi yn dibynnu ar y math o gais a gyflwynir, pa fath o waith sydd dan sylw a chost y gwaith hwnnw.
Mae’n ofyniad cyfreithiol y dylid cyflwyno’r cais hwn nid llai na dau ddiwrnod gwaith cyn i’r gwaith ddechrau ar y safle; fodd bynnag, rydym yn argymell y dylech wneud cais cynnar er mwyn caniatáu mwy o amser i ni eich rhybuddio ymlaen llaw am unrhyw anawsterau posibl.
Gwneud cais ar-lein
Gallwch gyflwyno cais yn electronig drwy neu ddefnyddio’r Porthol Cynllunio. Mae’r gwasanaethau hyn am ddim ac ar gael 24 awr y dydd.
Gallwch hefyd gyflwyno eich cais drwy e-bostio at rheoliadeiladau@caerffili.gov.uk.
Gallwch hefyd gyflwyno unrhyw ymholiad arall drwy www.labcportal.co.uk neu rheoliadeiladau@caerffili.gov.uk.
Hysbysiad preifatrwydd – prosesu ceisiadau rheoliadau adeiladu (PDF)
Ffurflenni y gellir eu lawrlwytho
Ffurflen gais cynlluniau llawn (PDF 119kb)
Ffurflen gais gosod ffenestri to, ffenestri a dryau allanol newydd (PDF 33kb)
Dylid anfon ffurflenni wedi’u cwblhau (gyda thaliad a’r dogfennau gofynnol) i Building Control.
Ffioedd a thaliadau - O 1 Rhagfyr 2019
Tabl A ac A1 - Ffioedd adeiladau domestig bach ac addasiadau i aneddiadau (PDF 209kb)
Tabl B - Estyniadau domestig i adeilad sengl (PDF 26kb)
Tabl C - Ffioedd am addasiadau domestig penodol i adeilad sengl (PDF 22kb)
Tabl D - Ffioedd am waith annomestig arall - estyniadau ac adeiladau newydd (PDF 47kb)
Tabl E - Ffioedd ar gyfer yr holl waith annomestig arall - addasiadau (PDF 34kb)
Tabl F - Gwaith ar wahân i waith sy'n ymwneud â thablau A, A1, B, C, D ac E (PDF 34kb)
Ydych chi'n adeiladu draenio cynaliadwy
O 7 Ionawr 2019, bydd yn ofynnol i holl ddatblygiadau newydd o fwy nag un tŷ, neu ble mae ardal yr adeiladu yn 100m2 neu'n fwy, gael draenio cynaliadwy er mwyn rheoli dŵr wyneb ar y safle.
Mae cymeradwyaeth y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy yn wahanol i ganiatâd cynllunio, ac ar wahân iddo, a rhaid ceisio'r ddau cyn dechrau unrhyw waith adeiladu.
Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalennau Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy