Dyledion a chyllidebu

Cefnogi Pobl 

Gall Cefnogi Pobl helpu pob unigolyn dros 16 oed gyda phryderon ynghylch dyledion neu gyllidebu. Ewch i dudalen we  Cefnogi Pobl i gael manylion.

Cymorth gyda dyledion 

  • Y Ganolfan Cyngor ar Bopeth - yn helpu pobl i ddatrys eu problemau cyfreithiol, problemau ariannol a phroblemau eraill drwy roi cyngor annibynnol a chyfrinachol am ddim.
  • Llinell Dyledion Genedlaethol - cyngor cyfrinachol am ddim ar sut i ddelio â phroblemau dyledion.
  • Step Change Debt Charity - Elusen gofrestredig sy’n cynni help am ddim gyda dyledion i unrhyw un yn y DU.
  • Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol - Gwybodaeth i bobl gyflogedig a hunangyflogedig. Gallwch ddefnyddio’r ddolen ‘Darganfod beth mae gennych hawl iddo’ a chofnodi eich amgylchiadau eich hun i gael cyngor sy’n berthnasol i’ch amgylchiadau.

Cyllidebu

Mae digon o help a chyngor am ddim ar gael i’ch helpu i reoli’ch arian yn effeithiol. Dyma rai dolenni defnyddiol:

Llinell Gyngor CAB 03444 77 20 20

Help i denantiaid y cyngor

Os ydych yn cael trafferth talu’ch rhent a biliau eraill, ac nad ydych yn gwneud unrhyw beth i ddelio â’ch trafferthion ariannol, bydd eich dyledion yn gwaethygu a gallech golli’ch cartref, colli gwasanaethau pwysig, colli’ch eiddo neu hyd yn oed fynd i’r carchar.

Rydym yma i helpu tenantiaid y cyngor sy’n cael trafferth talu rhent oherwydd bod angen iddynt dalu am bethau eraill hefyd. Gallwn drefnu sesiwn gyfrinachol AM DDIM ag ymgynghorydd dyledion ac arian annibynnol ar gyfer unrhyw un sydd ag ôl-ddyledion rhent neu sy’n debygol o fynd i ddyled.

I drefnu apwyntiad, cysylltwch â'r adran rhenti neu tecstiwch RENTHELP i 81400 a bydd aelod o staff yn eich ffonio’n ôl.