Cyngor ar fudd-daliadau

Mae’n bwysig i chi gael yr holl fudd-daliadau, credydau treth a help ariannol arall y mae gennych hawl iddynt.

Budd-dal tai a gostyngiad y dreth gyngor

Os ydych ar incwm isel gallai fod gennych hawl i gael Budd-dal Tai a Gostyngiad y Dreth Gyngor.

Os na allwch gael Gostyngiad y Dreth Gyngor, gallai fod gennych hawl i ostyngiadau eraill ar eich bil

Cefnogi Pobl

Gall Cefnogi Pobl ddarparu cyngor am ddim i bawb mewn perthynas â budd-daliadau, cymorth i lenwi ffurflenni cais a gwiriadau budd-daliadau i sicrhau bod yr hawliau'n gywir. Ewch i dudalen we Cefnogi Pobl i gael manylion.

Budd-daliadau a chymorth cenedlaethol arall

  • Mae trosolwg o’r budd-daliadau sydd ar gael yn GOV.UK.
  • Mae rhestr o fudd-daliadau ar wefan y Ganolfan Cyngor ar Bopeth.
  • Entitled to cyfrifiannell ar-lein i’ch helpu i benderfynu pa fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.
  • Mae gan Age UK hefyd gyfrifiannell ar-lein i helpu pobl hŷn i weithio allan pa fudd-daliadau y mae ganddynt hawl i'w cael.