Talu eich bil ardrethi busnes

Mae eich bil ardrethi busnes fel arfer yn daladwy mewn 10 rhandaliad misol o fis Ebrill i’r mis Ionawr canlynol. Gallwn gytuno ar drefniadau talu amgen mewn rhai amgylchiadau.

Debyd Uniongyrchol

Y ffordd hawsaf i dalu yw drwy ddebyd uniongyrchol.  Gellir trefnu hyn drwy ein ffonio. Ffoniwch 01443 863006 o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.30am i 4pm.  Fel arall, mae ffurflen Debyd Uniongyrchol y gallwch ei hargraffu, ei llenwi a'i dychwelyd atom.  Gallwch dalu ar y 5ed, 15fed neu 25ain o bob mis.  Bydd angen eich rhif cyfrif banc, cod didoli eich cangen a chyfeiriad eich banc wrth law.  

Lawrlwytho ffurflen Debyd Uniongyrchol

Ar-lein

Mae’n rhwydd ac yn ddiogel i dalu ar-lein.  Rydym yn derbyn y cardiau canlynol: Maestro UK, Debyd MasterCard, Debyd Visa (Delta, Electron), Credyd Visa a Chredyd MasterCard.

Dros y ffôn

Gellir gwneud taliadau hefyd dros y ffôn drwy ffonio'r Gwasanaeth Taliadau Awtomataidd ar unrhyw adeg.

Yn Bersonol

Sylwch nad yw taliadau adrethi y busnes bellach yn cael eu derbyn yn Swyddfeydd Gwasanaethau I Gwsmeriaid.

Swyddfa bost

Gallwch hefyd dalu yn y swyddfa bost. Cliciwch yma am fanylion ar sut i wneud cais am gerdyn swyddfa bost.

Drwy'r post

Rhaid i daliadau gael eu gwneud drwy siec wedi’i chroesi neu archeb bost yn daladwy i ‘Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili’ (ni dderbynnir sieciau wedi'u hôl-ddyddio). Anfonwch eich taliad ynghyd â’ch cerdyn talu i:

Y Swyddfa Arian, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed, CF82 7PG.

Nodwch eich rhif cyfrif ardrethi busnes ar gefn eich siec neu'r archeb bost.

Peidiwch ag anfon arian yn y post.

Bancio ar-lein/dros y ffôn

Bydd angen y manylion canlynol arnoch:

Rhif cyfrif ardrethi busnes a nodir ar eich bil

Rhif ein cyfrif banc 83532550

Ein cod didoli 20-10-42 Enw ein cyfrif yw ‘Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili’

Cysylltwch â ni

Tudalennau perthynol
 

Gwybodaeth ategol ar gyfer eich bil