Talu dirwy parcio

Os ydych wedi derbyn tocyn parcio (Hysbysiad Tâl Cosb), gallwch ei  dalu ar-lein. Bydd taliadau yn cael eu cymryd gan Grŵp Parcio De Cymru (SWPG).

Talu dirwy parcio

Gallwch hefyd dalu:

  • Trwy ddefnyddio'r llinell talu awtomataidd dros y ffôn ar 033 33 200 867 gan ddefnyddio cerdyn credyd/debyd.
  • Trwy'r post gan ddefnyddio archeb bost neu siec i:

SWPG
Blwch Postio 112
Pontypridd
CF37 9EL

Sut i herio eich dirwy parcio

Os ydych wedi derbyn tocyn parcio ac nad ydych chi'n siŵr pam, ewch i Grŵp Parcio De Cymru. Yma, gallwch nodi rhif eich Hysbysiad Tâl Cosb a rhif cofrestru eich cerbyd a gweld y dystiolaeth dros eich tâl parcio.

Os ydych am herio dirwy parcio, gallwch wneud hynny ar-lein neu yn ysgrifenedig fel a ganlyn:

Ar-lein ar Grŵp Parcio De Cymru

Yn ysgrifenedig i:

SWPG
Blwch Postio 112
Pontypridd
CF37 9EL

Nid yw Cyngor Caerffili yn gallu delio ag apeliadau yn erbyn tocynnau parcio.