Cydraddoldeb ac amrywiaeth
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymrwymedig i gyfleoedd cyfartal ym mhob agwedd o gyflogaeth a bydd yn cymryd camau cadarnhaol i leihau unrhyw anfantais a brofir gan bob unigolyn neu grŵp.
Ein nod yw sicrhau na fydd unrhyw un sy'n delio â'r cyngor yn cael ei drin yn llai ffafriol ar sail
- Oedran
- Crefydd
- Cyfeiriadedd rhywiol
- Lliw
- Tarddiad Ethnig
- Cenedligrwydd
- Statws priodasol
- Iaith
- Anabledd
- Rhyw
I gael rhagor o wybodaeth am ein hymrwymiad i gyfle cyfartal drwy ein gwasanaethau, gan gynnwys recriwtio, ewch i'n hadran cydraddoldebau.
