Cynllun gwella Safon Ansawdd Tai Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi safonau y mae'n rhaid i holl gartrefi’r cyngor a chymdeithas tai yng Nghymru eu bodloni.  Yr enw ar hyn yw Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC).
 
Fe wnaethom ni gwblhau cam cyntaf rhaglen SATC ar ddiwedd 2021. Bellach mae safonau uwch i godi ansawdd tai cymdeithasol yng Nghymru hyd yn oed ymhellach.


Yn 2024/25 byddwn ni’n derbyn £7.3 miliwn gan Lywodraeth Cymru a fydd yn cael ei wario ar gynlluniau gwella SATC.

Yn 2024/25 byddwn ni’n gwario £36.8 miliwn ar welliannau SATC.

Beth yw Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC)?

Set o safonau y mae’n rhaid i holl dai cynghorau a chymdeithasau tai Cymru eu cyflawni yw SATC. Mae’r safonau’n nodi y dylai pob cartref fod fel a ganlyn

  • mewn cyflwr da

  • yn ddiogel

  • wedi'i wresogi'n ddigonol

  • yn cynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi modern

  • wedi’i reoli’n dda

  • wedi'i leoli mewn amgylchedd deniadol a diogel

  • yn addas ar gyfer aelwydydd penodol

 

Dyma’r gwahaniaeth sy'n cael ei wneud i gartrefi tenantiaid a chymunedau lleol o ganlyniad i'n rhaglen Safon Ansawdd Tai Cymru.

Cartrefi Caerffili Cynllun Busnes (pdf)



Cysylltwch â ni