Effeithlonrwydd ynni

P’un a ydych yn berchen ar eich cartref neu’n ei rentu, rydym yn cynnig cyngor arbenigol diduedd ar effeithlonrwydd ynni a all helpu i’ch rhoi chi ar ben ffordd o ran y cynlluniau grantiau a gostyngiadau amrywiol sydd ar gael i wneud eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynni.

Ffyrdd hawdd o arbed ynni ac arian yn y cartref

Gallwch leihau faint o ynni a ddefnyddir gennych yn eich cartref drwy wneud rhai newidiadau syml sy’n costio dim neu braidd dim.

  • Sicrhewch fod eich cwmni trydan a nwy yn cynnig y tariff ynni rhataf i chi
  • Caewch y llenni gyda’r nos i gadw’r gwres i mewn
  • Caewch ddrysau’r oergell/rhewgell cyn gynted â phosibl ar ôl eu defnyddio
  • Gadewch i fwyd ddadmer dros nos yn hytrach na’i ddadmer mewn microdon
  • Peidiwch â sychu dillad ar reiddiaduron; gosodwch nhw ar lein ddillad uwchben y bath neu ar stand sychu dillad
  • Dylech ferwi cymaint o ddŵr ag sydd ei angen arnoch yn y tegell (rhaid i chi sicrhau eich bod yn gorchuddio’r elfen drydanol)
  • Gosodwch haenen lynu o amgylch fframiau ffenestri gwydr sengl
  • Gosodwch baneli adlewyrchu neu ffoil alwminiwm y tu ôl i reiddiaduron ar waliau allanol
  • Mae teclynnau coginio araf yn defnyddio llai o ynni, yn yr un modd â ffyrnau a microdonau
  • Diffoddwch oleuadau ac offer arall yn llwyr pan nad ydych yn eu defnyddio
  • Diffoddwch y teledu yn llwyr yn hytrach na’i adael yn y modd segur
  • Cymerwch gawod yn hytrach na bath os yw’n bosibl
  • Dylech geisio osgoi gosod dodrefn o flaen rheiddiaduron
  • Ceisiwch roi llwyth llawn yn y peiriant golchi
  • Trowch thermostat y gwres canolog i lawr gan 1°C (ond cofiwch gadw’n ddigon cynnes)
  • Wrth goginio, dewiswch yr hob priodol ar gyfer y sosban, a choginiwch gyda’r caead wedi’i osod ar y sosban, gan ledferwi yn hytrach na gorferwi
  • Defnyddiwch fylbiau golau ynni isel.

Gwneud y mwyaf o'ch boeler chi

 

Insiwleiddio a gwresogi eich cartref

Gallwch arbed hyd at 30% ar eich biliau ynni a lleihau swm y llygryddion a all niweidio’r amgylchedd drwy insiwleiddio eich cartref. Mae gwneud y pethau bychain yn bwysig o ran lleihau’r allyriadau sy’n cyfrannu at gynhesu byd-eang.

Mae llawer o grantiau a gostyngiadau ar gael i’ch helpu i gael eich cartref wedi’i insiwleiddio:

Cwestiynau cyffredin 

A all insiwleiddio waliau ceudod ddifrodi fy nghartref?

Gall ddifrodi eich cartref mewn nifer fach o achosion.

Mae gan fy nhŷ waliau solet. A oes grantiau ar gael i insiwleiddio’r waliau?

Gall fod grantiau di-dâl neu ostyngiadau ar gael, yn dibynnu ar gymhwysedd.

Rwy’n ystyried gosod paneli solar neu fesurau ynni adnewyddadwy eraill; a oes unrhyw grantiau ar gael ar gyfer hyn?

Nid oes grantiau ar gael fel y cyfryw, ond byddai’r mesurau hyn yn gymwys i dderbyn ffi flynyddol sef y Tariff Cyflenwi Trydan neu’r Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy dros gyfnod y cytunwyd arno.

Am gyngor di-dâl a diduedd ar ffyrdd o arbed arian yn y cartref, ffoniwch ein tîm effeithlonrwydd ynni ar y rhif rhadffon 0800 085 4145 neu e-bostiwch energyefficiency@caerphilly.gov.uk.