Problemau o ran talu eich rhent

A yw costau byw cynyddol neu ostyngiad mewn incwm yn ei gwneud yn anodd i chi gynnal eich taliadau rhent?

Mae'r contract rydych yn ei lofnodi yn golygu bod rhwymedigaeth gyfreithiol arnoch i dalu eich rhent yn rheolaidd a pheidio â mynd i ôl-ddyledion. Os na fyddwch yn talu eich rhent ar amser neu os nad ydych yn talu o gwbl efallai y byddwn yn cymryd camau cyfreithiol a allai arwain at golli eich cartref. Cofiwch ein bod ni yma i helpu!

  • Ar gyfer deiliaid contract Cyngor Caerffili tecstiwch RENTHELP i 81400 

  • Ar gyfer pob deiliad contract arall a pherchennogwyr tŷ, tecstiwch HOUSUPPORT i 81400

Bydd aelod o staff yn eich ffonio yn ôl.

Os fyddwch yn mynd i ôl-ddyledion – peidiwch ag anwybyddu hynny!

Mae'r contract rydych yn ei lofnodi wrth gasglu eich allweddi yn golygu bod rhwymedigaeth gyfreithiol arnoch i dalu eich rhent yn rheolaidd a pheidio â mynd i ôl-ddyledion. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn talu eich cyfrif rhent yn brydlon.

Y peth pwysicaf yw eich bod yn cysylltu â’r Is-adran Rhenti ar unwaith i ofyn am gyngor cyn i’r ddyled fynd yn rhy fawr i chi ei rheoli.  Ffoniwch 01443 811450 neu anfonwch y gair RENTHELP drwy neges destun i 81400 a bydd aelod o staff yn eich ffonio yn ôl.  Os nad ydych yn cysylltu â ni, byddwn yn cysylltu â chi drwy lythyr neu dros y ffôn a gall swyddogion alw i'ch eiddo.
 

Byddwn bob amser yn cydymdeimlo â’ch problemau, ac fel arfer gellir dod i gytundeb i dalu’r ddyled. 

Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth cyngor a chymorth cyfrinachol di-dâl gyda chynghorydd dyledion ac ariannol annibynnol i unrhyw un sydd mewn ôl-ddyledion rhent neu sy’n debygol o wynebu sefyllfa o’r fath.

Os nad yn talu eich ôl-ddyledion

Byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn, drwy lythyr neu’n ymweld â chi yn eich cartref i drafod eich ôl-ddyledion, i drefnu eich taliadau a datrys unrhyw broblemau eraill.

Os nad yw hynny'n llwyddiannus, ac rydych chi'n parhau i beidio â thalu'ch rhent, byddwn yn cyflwyno 'Hysbysiad Ceisio Meddiant'. Hysbysiad cyfreithiol ydyw i ddweud wrthych ein bod yn bwriadu cymryd camau cyfreithiol os nad ydych yn talu eich ôl-ddyledion.

Os nad ydych yn gwneud trefniadau i dalu’r ôl-ddyledion, byddwn yn gwneud cais i’r Llys Sirol am orchymyn ildio meddiant er mwyn adennill y rhent sy’n ddyledus gennych. Byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy lythyr am holl gamau’r achos cyfreithiol a’r hyn sy’n debygol o ddigwydd.

Gwnawn bopeth o fewn ein gallu i'ch cefnogi chi, nid ydym eisiau eich troi chi allan, ond gwnawn hynny oni bai eich bod yn gwneud trefniant fforddiadwy. Hyd yn oed ar ôl eich troi chi allan, byddwn yn ceisio adennill yr ôl-ddyledion rhent a’r costau cyfreithiol yr aed iddynt tra roeddech yn ddeiliad contract.
 

Beth os ydw i’n aros am daliad budd-dal tai?

Ni fyddwn yn cymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn os ydych yn aros i hawliad gael ei brosesu a’ch bod yn gwneud taliadau, ond dylech gysylltu â ni.

Ôl-ddyledion rhent contract

Pan mae deiliad contract yn dod â'i contract i ben, mae'n dod yn gyn-ddeiliad contract . Os ydych mewn dyled ariannol i ni pan ddaw eich contract i ben byddwn yn cysylltu â chi i wneud cytundeb fforddiadwy i ad-dalu'r ddyled. Os bydd hyn yn methu gallwn gymryd camau cyfreithiol i adennill yr arian sy'n ddyledus i ni. Gallai hyn gynnwys cyfeirio at asiantaeth casglu dyledion allanol.

Er mwyn sicrhau nad ydych yn mynd i ôl-ddyledion rhent pan fyddwch yn symud allan, cysylltwch â ni i ddweud wrthym pryd rydych yn bwriadu symud allan. Yna byddwn yn dweud wrthych faint o rent sy’n daladwy erbyn diwedd y contract.

Rhesymau da dros beidio â mynd i ôl-ddyledion rhent

Yn ogystal â wynebu’r risg o gael eich troi allan o’ch cartref, ceir rhesymau eraill pam y dylech osgoi mynd i ôl-ddyledion rhent.

  • Mae’n bosibl y cewch drafferth i gael credyd (gan gynnwys benthyciadau a hurbwrcasu) 
  • Efallai na fyddwch yn gallu cael morgais neu fenthyciad arall
  • Ni chaniateir i chi rentu garej

Dolenni defnyddiol eraill

Cysylltwch â ni