Ardaloedd adnewyddu

Nod ardaloedd adnewyddu yw gwella amodau byw mewn ardaloedd sydd angen eu hadfywio. Cyflwynwyd ardaloedd adnewyddu gan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989. Y nod yw adfywio cymunedau a gwella hyder yn y cymunedau hynny drwy ganolbwyntio ar dai sector cyhoeddus, gyda rhagor o fuddsoddiad gan y sector preifat i sicrhau dyfodol hirdymor yr ardaloedd hynny.

Senghennydd yw’r unig gymuned ym Mwrdeistref Sirol Caerffili sydd â statws ‘ardal adnewyddu’ ar hyn o bryd. Ni chaiff unrhyw ardaloedd adnewyddu newydd eu dynodi gan fod Llywodraeth Cymru yn torri cyllid y cynllun yn 2016/17.

Cafodd yr ardaloedd canlynol fudd yn y gorffennol o gael statws Ardal Andewyddu:

  • Abertyswg
  • Oakdale
  • Tir-y-berth
  • Llanbradach
  • Rhymni

Fel arfer bydd statws Ardal Adnewyddu yn para am 10 mlynedd. Maent yn galluogi awdurdodau lleol i wella tai ac amwynderau cyffredinol ardal, datblygu partneriaethau effeithiol gyda phreswylwyr, y sector preifat a sefydliadau sector cyhoeddus eraill, a sicrhau’r effaith fwyaf posibl drwy wella hyder y gymuned a’r farchnad dai yn nyfodol yr ardal.

Bydd y penderfyniad i ddatgan ardal adnewyddu ond yn cael ei wneud ar ôl rhoi ystyriaeth lawn i’r dewisiadau a’r manteision tebygol a thrwy gynnwys pawb y mae’n debygol yr effeithir arnynt. Bydd materion cymdeithasol ac economaidd ardal yn cael eu hystyried hefyd. Ar ôl datgan ardal adnewyddu, mae’r manteision i’r awdurdod lleol yn cynnwys pwerau i wneud gwaith gwella amgylcheddol, cyfraniadau uwch gan y trysorlys a chyfraniadau is gan y rheini sy’n derbyn help drwy gynlluniau atgyweirio grŵp a chynlluniau atgyweirio fesul bloc; gan alluogi awdurdodau lleol i wneud gwaith atgyweirio ar adeiladwaith allanol blociau o eiddo, gan eu gadael mewn cyflwr rhesymol o ran gwaith atgyweirio.

Cysylltwch â ni