Safonau Gofynnol Effeithlonrwydd Ynni

Cafodd Rheoliadau Safonau Gofynnol Effeithlonrwydd Ynni (MEES) eu cyflwyno gan y Llywodraeth yn 2018.

Cafodd y rheoliadau eu cyflwyno i wella ansawdd adeiladau rhent preifat yng Nghymru a Lloegr, i gynyddu effeithlonrwydd ynni'r tai ac adeiladau sy'n perfformio waethaf, i wella cysur ac amodau mewn cartrefi sy'n cael eu rhentu'n breifat, ac i leihau tlodi tanwydd.

O fis Ebrill 2020 ymlaen, rhaid i eiddo sy'n cael ei rentu'n breifat gyflawni Tystysgrif Perfformiad Ynni ar fand ‘E’, o leiaf.

Mae'r ddeddfwriaeth yn atal landlordiaid rhag gosod eiddo ar rent sydd ar fandiau ‘F’ neu ‘G’. Mae hyn yn berthnasol i denantiaethau newydd a phresennol.

Am ragor o wybodaeth, gweler y canllawiau i landlordiaid..

Sut i weld eich Tystysgrif Perfformiad Ynni

Bydd Tystysgrif Perfformiad Ynni yn rhoi sgôr effeithlonrwydd ynni a sgôr effaith amgylcheddol. Bydd hi hefyd yn amcangyfrif defnydd ynni, allyriadau carbon deuocsid, goleuo, gwres a dŵr poeth y flwyddyn, ynghyd â'r costau blynyddol posibl ar gyfer pob un.

Os yw eiddo wedi'i farchnata i'w werthu neu i'w osod, neu os yw wedi'i addasu yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, dylai fod ganddo Dystysgrif Perfformiad Ynni.

Chwilio am eich Tystysgrif Perfformiad Ynni yn ôl cod post.

Oes unrhyw gymorth ar gael i landlordiaid neu denantiaid?

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gweithio'n galed i gynnig cymorth i landlordiaid a thenantiaid i uwchraddio eu heiddo i'r safonau gofynnol.

Ar hyn o bryd, gall y rhaglen Nyth a chyllid Hyblygrwydd ECO, drwy weithio gyda Cymru Gynnes, gynnig amrywiaeth eang o gymorth i landlordiaid a'u heiddo, os ydyn nhw'n gymwys.

I gael rhagor o wybodaeth am ba gymorth sydd ar gael, cliciwch ar y dolenni isod:

Gorfodi

Cyfrifoldeb Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw ymchwilio i unrhyw achosion posibl o dorri'r rheoliadau. Oni bai bod landlord yn rhoi gwybod i ni am eithriad, byddwn ni'n anfon llythyrau, yna byddwn ni'n rhoi hysbysiad gorfodi ac, o bosibl, yn trefnu ymweliad archwilio a all arwain at ddirwy o hyd at £5,000. Mae pob landlord yn cael ei gynghori'n gryf i weithredu ac i siarad â'u tenantiaid a phartïon eraill â buddiant.

Mentrau'r Llywodraeth

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ymhlith 59 o Awdurdodau Lleol sydd wedi ennill cynllun ariannu gan y Llywodraeth i helpu hyrwyddo a gorfodi cydymffurfio â'r Safonau Gofynnol Effeithlonrwydd Ynni yn achos eiddo rhent preifat.

Bydd hyn, ynghyd â mentrau grant newydd y Llywodraeth fel y rhaglen ‘Green Home Finance’, sy'n rhan o'r Portffolio Arloesedd Sero Net gwerth £1 biliwn, yn helpu benthycwyr ar y stryd fawr, busnesau technoleg ariannol, cyflenwyr ynni ac eraill i arloesi ar safon fyd-eang o ran cynhyrchion cyllid newydd a fydd yn ei gwneud hi'n haws ac yn fwy fforddiadwy i berchnogion tai newid i ddulliau gwresogi carbon isel.

Mae hyn yn debygol o gynnwys treialu pympiau gwres, gwydr a deunydd inswleiddio sydd ar flaen y gad, yn ogystal â gwasanaethau cyllid gwyrdd fel morgeisi gwyrdd a rhyddhau ecwiti gwyrdd.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: Atal landlordiaid gyda hwb ariannol i gynghorau.

Cysylltwch â ni
  • Cyfeiriad E-bost
  • Ffôn
  • Cyfeiriad