Tai lloches

Os ydych chi am fyw’n annibynnol ond mewn cartref llai o faint sy’n haws i’w reoli a gyda chymorth, yna efallai y bydd tai lloches yn apelio atoch chi.

Nod tai lloches yw helpu pobl i barhau i fyw’n annibynnol gyda chymorth lle bo angen. Mae gennym ni 33 o gynlluniau sy’n eiddo i’r Cyngor ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae ein cynlluniau tai lloches ni’n cynnwys byngalos neu fflatiau sy’n gwbl hunan-gynwysedig, gyda’u hystafelloedd ymolchi a’u ceginau eu hunain. Mae yna hefyd ardaloedd cymunedol lle gall y deiliaid contract gymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau.

Cyflwyniad i Dai Lloches (pdf)

Beth yw manteision tai lloches?

  • Cymorth yn ymwneud â thai gan Swyddog Tai Lloches
  • Adeiladau diogel
  • Cyfarfodydd rheolaidd gyda deiliaid contract i roi diweddariadau
  • gwasanaeth ac i rannu syniadau a barn
  • Digwyddiadau cymdeithasol a chymorth gan Gydlynydd Gweithgareddau
  • Gwasanaeth monitro larymau penodedig 24 awr y dydd/365 diwrnod y flwyddyn
  • Cymorth i gael mynediad at asiantaethau eraill, er enghraifft cymorth ariannol

Sut i wneud cais

Mae modd i bobl dros 60 oed wneud cais am Lety Lloches. Mae’n bosibl hefyd y bydd pobl o dan 60 oed sydd ag anableddau yn gymwys, yn amodol ar asesiad pellach. I weld y manylion ewch i’r adran gwneud cais am dŷ.

Y cymorth tai sydd ar gael mewn tai lloches

Os ydych chi’n ddeiliad contract sy’n byw yn un o’n cynlluniau tai lloches, bydd eich anghenion cymorth chi yn cael eu hasesu a chewch chi eich rhoi mewn un o dri band – Efydd, Arian neu Aur.


Os ydych yn derbyn budd-dal tai ni fydd yn rhaid i chi dalu am y gwasanaeth hwn; mae gennych hawl awtomatig i ‘Gyllid Cefnogi Pobl’ a fydd yn talu costau’r cymorth yn llawn.

Pa gymorth a gewch ym mhob band

Gwasanaeth y band Efydd

  • Help mewn argyfwng drwy’r gwasanaeth larwm cymunedol 365 diwrnod y flwyddyn
  • Adolygiad personol bob 6 mis ac archwiliad iechyd
  • Cymorth gan Gydlynydd Gweithgareddau penodedig sy’n gallu eich cynorthwyo i drefnu gweithgareddau neu gymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasol yn eich cynllun llety lloches a’r gymuned ehangach
  • Gwybodaeth, cymorth a chyngor cyffredinol ar dai ynghyd â’ch cyfeirio at wasanaethau priodol eraill
  • Cefnogaeth a chymorth byrdymor pan fyddwch yn sâl neu ar ôl i chi gael eich rhyddhau o’r ysbyty (4 – 6 wythnos)
  • Archwiliad o’r cortyn larwm a’r larwm gwddf yn eich cartref bob pythefnos
  • Bydd Swyddog Tai Lloches yn bresennol ar y safle (yn y bore neu’r prynhawn) i roi cymorth cyffredinol, pe bai angen
  • Uwchraddio’r gwasanaeth i’r band arian neu aur ar gais (yn amodol ar adolygu eich anghenion cymorth)

Gwasanaeth y band Arian

  • Help mewn argyfwng drwy’r gwasanaeth larwm cymunedol 365 diwrnod y flwyddyn
  • Adolygiad personol ac archwiliad iechyd bob 6 mis
  • Cymorth gan Gydlynydd Gweithgareddau penodedig sy’n gallu eich cynorthwyo i drefnu gweithgareddau neu i gymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasol yn eich cynllun llety gwarchod a’r gymuned ehangach
  • Gwybodaeth, cymorth a chyngor cyffredinol ar dai ynghyd â’ch cyfeirio at wasanaethau priodol eraill
  • Cefnogaeth a chymorth byrdymor pan fyddwch yn sâl neu ar ôl i chi gael eich rhyddhau o’r ysbyty (4 – 6 wythnos)
  • Archwiliad o’r cortyn larwm a’r larwm gwddf yn eich cartref bob pythefnos
  • Bydd Swyddog Tai Lloches yn bresennol ar y safle (yn y bore neu’r prynhawn) i roi cymorth cyffredinol, pe bai angen
  • Asesiad manwl bob 6 mis o’ch anghenion cymorth a llunio Cynllun Cymorth sy’n nodi unrhyw gymorth ychwanegol sydd ei angen arnoch
  • Un ymweliad wyneb yn wyneb bob wythnos gan eich Swyddog Tai Lloches a fydd yn gweithio gyda chi i gyflawni canlyniadau cadarnhaol o ran diwallu eich anghenion cymorth a nodwyd
  • Hyd at ddwy alwad intercom yr wythnos gan eich Swyddog Tai Lloches er mwyn cynnal neu wella eich annibyniaeth
  • Ymyrraeth mewn argyfwng i osgoi, os yn bosibl, yr angen i chi dderbyn lefelau uwch o gymorth ar sail tymor hwy
  • Uwchraddio’r gwasanaeth i’r band aur ar gais (yn amodol ar adolygu eich anghenion cymorth)

Gwasanaeth y band Aur

  • Help mewn argyfwng drwy’r gwasanaeth larwm cymunedol 365 diwrnod y flwyddyn
  • Adolygiad personol ac archwiliad iechyd bob 6 mis
  • Cymorth gan Gydlynydd Gweithgareddau penodedig sy’n gallu eich cynorthwyo i drefnu gweithgareddau neu gymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasol yn eich cynllun llety lloches a’r gymuned ehangach
  • Gwybodaeth, cymorth a chyngor cyffredinol ar dai ynghyd â’ch cyfeirio at wasanaethau priodol eraill
  • Cefnogaeth a chymorth byrdymor pan fyddwch yn sâl neu ar ôl i chi gael eich rhyddhau o’r ysbyty (4 – 6 wythnos)
  • Archwiliad o’r cortyn larwm a’r larwm gwddf yn eich cartref bob pythefnos
  • Bydd Swyddog Tai Lloches yn bresennol ar y safle (yn y bore neu’r prynhawn) i roi cymorth cyffredinol, pe bai angen
  • Asesiad manwl bob 6 mis o’ch anghenion cymorth a llunio Cynllun Cymorth sy’n nodi unrhyw gymorth ychwanegol sydd ei angen arnoch
  • Hyd at 5 ymweliad wyneb yn wyneb / galwad intercom bob wythnos gan eich Swyddog Tai Lloches a fydd yn gweithio gyda chi i gyflawni canlyniadau cadarnhaol o ran diwallu eich anghenion cymorth a nodwyd. Nod y lefel hon o gymorth yw eich helpu i gynnal ac adennill eich annibyniaeth i aros yn eich cartref ac, os yn ymarferol, symud yn ôl i fand is
  • Cysylltu ag asiantaethau eraill ar eich rhan, lle y bo’n briodol, a threfnu cyfarfodydd cydgynllunio er mwyn sicrhau y caiff eich holl anghenion eu diwallu
  • Ymyrraeth mewn argyfwng i osgoi, os yn bosibl, yr angen i chi dderbyn lefelau uwch o gymorth ar sail tymor hwy
Cysylltwch â ni