Dewisiadau tai

Os ydych yn chwilio am dŷ ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, mae nifer o ddewisiadau ar gael i chi. 

Gwneud cais i ymuno â’r gofrestr tai

O 5 Rhagfyr 2016, rydym bellach yn gweithredu Cofrestr Tai Cyffredin lle gallwch wneud cais am dai Landlord Cymunedol gyda’r cyngor a Landlord Cymunedol  eraill ym mwrdeistref sirol Caerffili gyda chais ar-lein sengl. Mae’r cyngor yn berchen ac yn rheoli dros 10,800 eiddo cyngor ym mwrdeistref sirol Caerffili ac ar gyfartaledd mae 900 o’r eiddo hwn ar gael i osod bob flwyddyn.

Yn ogystal â hynny, mae gan ein partneriaid Cymdeithas Dai 3,700 eiddo yn ychwanegol yn ein bwrdeistref gyda nifer ohonynt ar gael i’w rhentu bob flwyddyn.

Am fwy o wybodaeth am sut i wneud cais ymwelwch â’r adran gwneud cais am dai.

Datganiad ysgrifenedig o gontract meddiannaeth ddiogel y Cyngor

Cartrefi’r Cyngor sy’n barod i’w rhentu

Mae gennym nifer o dai cyngor sy’n barod i’w rhoi ar osod yr wythnos hon. Ewch i’r adran tai sy’n barod i’w rhentu i weld y rhestr ddiweddaraf.

Rhentu preifat

Fe welwch fod mwy o dai o lawer ar gael yn y sector rhentu preifat na’r sector stoc Landlord Cymunedol (y Cyngor a chymdeithasau tai). Gan hynny bydd dewis ehangach o lawer ar gael i chi o ran y math o eiddo a’r ardal yr hoffech fyw ynddi. Ewch i’r adran rhentu preifat i weld yr eiddo diweddaraf sydd ar gael ar osod.

Tai gwarchod

Os ydych yn 60 oed neu’n hŷn gallwch wneud cais am dŷ gwarchod. Nod tai gwarchod yw helpu pobl i barhau i fyw’n annibynnol gyda chymorth lle bo angen. Mae gennym 900 uned llety gwarchod ar hyn o bryd mewn 33 o gynlluniau ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili. Ewch i’r adran tai gwarchod am fanylion.

Cymorth fel y bo’r angen

Os ydych yn 55 oed neu’n hŷn gallwch wneud cais am gymorth fel y bo’r angen. Mae cymorth fel y bo’r angen yn wasanaeth hyblyg sy’n eich helpu i reoli pethau a byw mor annibynnol â phosibl. Mae’r cymorth a gewch yn dibynnu ar eich anghenion. Ewch i’r adran ar gymorth fel y bo’r angen am fanylion.

Cyngor ar dai

Os ydych yn cael problemau o ran dod o hyd i lety, cadw eich cytundebau a/neu’n wynebu’r perygl o fod yn ddigartref, cysylltwch â ni i gael help a chymorth.

Cysylltwch â ni